Llandrindod: Arestio person ar amheuaeth o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Llandrindod ym Mhowys dros y penwythnos.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i Hillcrest Rise toc wedi 20:20 nos Sadwrn, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol.
Fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty, ble mae'n parhau mewn cyflwr sefydlog.
Dywedodd y llu nos Lun bod person wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dydyn nhw ddim wedi manylu ai dyn ta dynes sydd wedi eu harestio.
Mae'r heddlu'n annog unrhyw un allai fod â gwybodaeth sy'n berthnasol i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw, neu unrhyw un sy'n byw yn yr ardal ac a welodd unrhyw ymddygiad amheus nos Sadwrn.