'Gwarthus' gwneud cyn-AS yn arglwydd er llyfr o hanesion preifat

Mae AS wedi cyhuddo Simon Hart o "ddinistrio sancteiddrwydd swyddfa'r chwip"
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffaith bod cyn-AS wedi cael lle yn Nhŷ'r Arglwyddi er iddo ysgrifennu llyfr yn datgelu hanesion ei gyfnod fel prif chwip y llywodraeth Geidwadol wedi ei gwestiynu.
Cafodd Simon Hart, cyn-AS Gorllewin Caerfyrddin a De Phenfro, ei anrhydeddu gan y cyn-brif weinidog Rishi Sunak wrth iddo ymddiswyddo.
Daeth hynny er iddo ysgrifennu llyfr dadlennol ar wleidyddiaeth yn San Steffan, gyda rhai Ceidwadwyr yn ei gyhuddo o dorri ymddiriedaeth cyd-aelodau.
Mae Mr Hart wedi cael cais am sylw.
'Dinistrio sancteiddrwydd swyddfa'r chwip'
Mae llyfr Mr Hart; 'Ungovernable: The Political Diaries of a Chief Whip' yn cynnwys straeon am ASau - sy'n ddienw - yn cynnwys un am aelod oedd wedi cysylltu gyda'r prif chwip am ei fod yn "sownd mewn puteindy" heb arian ar ôl.
Mae'r BBC yn deall bod Ysgrifennydd y Cabinet - prif was sifil y DU - wedi cymeradwyo'r llyfr am ei fod yn cyd-fynd â rheolau ynghylch trin gwybodaeth sensitif mewn modd cyfrifol.
Ond fe wnaeth un AS Ceidwadol geisio atal Mr Hart rhag cael lle yn Nhŷ'r Arglwyddi drwy ysgrifennu at y corff sy'n gyfrifol am yr enwebiadau.
Dywedodd Alec Shellbrooke ei bod yn "warthus" bod Mr Hart wedi "dinistrio sancteiddrwydd swyddfa'r chwip" drwy gyhoeddi gwybodaeth breifat.
"Os nad yw ASau'n teimlo eu bod yn gallu ymddiried yn y chwip yna mae'r system ar ben yn y senedd," meddai.
Ychwanegodd bod pobl yn "gwneud pethau gwirion dan bwysau", ac y gallai arwain at "oblygiadau difrifol" os ydyn nhw'n teimlo nad oes lle i droi.
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022
Yn ei lythyr at Gomisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi, dywedodd Mr Shellbrooke bod "rhannau doniol" yn y llyfr, "ond byddai hynny'n wir am feddyg hefyd".
"Petai nhw'n ysgrifennu'r straeon, byddai'r ymddiriedaeth wedi mynd, yn fwy eang na'r meddyg yna yn unig," meddai.
"Mae wedi torri cytundeb o ymddiriedaeth a thanseilio beth yw, mewn gwirionedd, yr unig system adnoddau dynol."
Dywedodd y Comisiwn nad yw'n gwneud sylw ar achosion unigol.
Mae ASau a chyn-ASau eraill hefyd wedi codi pryderon, gydag un yn dweud y byddai aelodau wedi eu "brawychu" bod problemau preifat wedi eu rhannu.
Dywedodd un arall ei bod wedi "tristau'n fawr" gyda phenderfyniad Mr Hart i gyhoeddi'r llyfr, tra bod un wedi galw rhestr anrhydeddau Mr Sunak yn "restr o fêts Sunak".
Mae Simon Hart, Rishi Sunak a chyhoeddwr y llyfr wedi cael cais am sylw.