Chwarae ar un o brif lwyfannau Glastonbury yn 'fraint' i Melin Melyn

Bydd Melin Melyn - gyda Gruff Glyn yn y cefn gyda'r ffagl - yn chwarae ar y Park Stage am 11:30 ar ddydd Sul Glastonbury
- Cyhoeddwyd
Mae prif leisydd y band Melin Melyn yn dweud nad ydy o'n nerfus am chwarae ar un o brif lwyfannau Glastonbury - er mai dyma'r tro cyntaf erioed iddo fynd i ŵyl enwoca'r byd.
Wrth i'r trefnwyr gyhoeddi'r lein-yp llawn - gan gynnwys y band o Gymru - dywedodd Gruff Glyn mai ei brif gonsyrn ar hyn o bryd ydy maint y digwyddiad.
Mae Glastonbury yn denu dros 200,000 o bobl i wylio 3,000 o berfformwyr.
"Dwi erioed wedi bod yno, dyma fydd y tro cyntaf," meddai mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales.
"Dwi erioed wedi bod yn ddigon dewr i giwio am docynnau ac felly mae cael chwarae yno ar y Park Stage, sy'n un o'r prif lwyfannau yn Glastonbury, mae'n fraint a 'da ni'n gyffrous.
"Dwi'n eithaf nerfus, dim i chwarae ond oherwydd maint yr ŵyl a bod yn onest... fy mhryder mwyaf ydy mynd ar goll."

Mae Glastonbury yn cael ei gynnal ar 1,000 o aceri ffermdy Worthy Farm yng Ngwlad yr Haf
Mae'r band wedi cael 12 mis prysur yn teithio ar draws Prydain ac Ewrop i hyrwyddo eu halbwm diweddaraf Mill on the Hill.
Mae eu perfformiadau byw wedi eu canmol am safon y gerddoriaeth a'u gallu i godi gwên.
Yn ogystal â chwarae ar lwyfan The Park Stage ar ddydd Sul, 29 Mehefin, fe fydd y band hefyd yn chwarae ar y Strummerville Stage, un o'r llwyfannau llai, yn ddiweddarach yn y dydd.
Dywedodd lleisydd y band bod aelodau'r grŵp, sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd o Brydain, yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd wythnos nesaf i ymarfer ac yn ystyried chwarae sets gwahanol i'r ddau berfformiad.
Lein-yp llawn The Park Stage - dydd Sul, 29 Mehefin
The Maccabees: 21:15 - 22:30
Future Islands: 19:35 - 20:35
Kae Tempest: 18:00 - 19:00
Girl In Red: 16:30 - 17:30
Royel Otis: 15:15 - 16:00
Katy J Pearson: 14:00 - 14:45
Geordie Greep: 12:45 - 13:30
Melin Melyn: 11:30 - 12:15

Y Park Stage yn Glastonbury, lle'r oedd Adwaith yn perfformio yn 2023. Hefyd yn yr ŵyl eleni fe fydd y gantores o Gymru Mali Hâf yn canu ar lwyfan BBC Introducing
Mae Melin Melyn wedi bod yn perfformio'n gyson ers sawl blwyddyn gan gynnwys o flaen miloedd o bobl yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog.
Ond dywedodd Gruffudd Glyn, sydd hefyd yn actor, ei fod yn tueddu i fod yn nerfus mewn lleoliadau llai.
"Mae'n beth od ond dwi'n mynd yn fwy nerfus mewn 'stafell fechan iawn, ond gawn ni weld ar y dydd Sul!" meddai.
"Ond gan fod ni'n grŵp o ffrindiau mor agos ac yn dynn fel band, dwi'n meddwl byddwn ni'n mynd yno efo'n gilydd, i gyd yn teimlo'r un fath - jest yn chwech o ffrindiau yn mynd yno ac yn chwarae ein cerddoriaeth.
"Mae 'na gysur yn hynny a gan fod pethau wedi mynd yn dda iawn i ni - 'da ni'n wirioneddol ddiolchgar o ba mor dda mae'r albwm wedi mynd - felly mae ganddon ni'r hyder yn y caneuon a'r perfformiadau.
"Dwi jest yn edrych ymlaen at eu rhannu a bod yn onest."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol:
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019