Balch o fod y ddynes gyntaf i lywio cerbyd lansio RNLI Pwllheli
- Cyhoeddwyd
Lindsay Rees yw'r fenyw gyntaf yn hanes gorsaf bad achub Pwllheli i lywio'r cerbyd lansio ers sefydlu'r gwasanaeth yno 133 o flynyddoedd yn ôl.
Ymunodd Ms Rees ag RNLI Pwllheli yn 2022 a dywed bod gwirfoddoli i’r RNLI yn rhywbeth "rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed".
"Rwy’n falch o fod yn rhoi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned a gwneud fy mhlant yn falch o’u mam."
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2024
Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd: “Be dwi’n 'neud pan dwi’n codi’n bore ydi dwi’n sbio ar y tywydd, y llanw a’r gwynt a felly os dwi’n cael galwad, dwi’n gwybod sut fydd angen rhoi’r cwch yn y dŵr.
“Mae o’n wahanol i yrru’r tool track, ond mae o’n hwyl hefyd ond be sy’n bwysig i fi ydi cadw pobl yn ddiogel.
“Pan o ni’n fach, oni’n sbio fyny i bobl yr RNLI a dyna pam o'n i isio bod yn rhan o’r criw. Y gwaith maen nhw’n neud i gadw ni’n saff ar y mor ac ar y lan. Dwi 'di edrych fyny iddyn nhw ers lot o amser.”
Ysbrydoli merched eraill
Ychwanegodd ei bod yn falch mai hi yw'r ddynes gyntaf yn hanes yr orsaf Pwllheli ond nad oedd hi'n gwybod mai hi oedd y gyntaf.
“O'n i’m yn gwbod fi odd y ddynes gyntaf i wneud y gwaith yma ym Mhwllheli.
"Be o'n i isio 'neud o'dd cadw petha’n iawn a chadw petha’n ddiogel.
"Ond mae o’n dda a oni’n prowd o fy hun i fod y ddynes gyntaf i neud o a ella neith o gael merched eraill i joinio’r RNLI.”
"Y peth arall dwi isio neud, step arall ar ôl hyn ydi gyrru’r SLARS (Shannon launch and recover system).
“Dwi ar y tîm codi arian hefyd a 'dan ni 'di bod yn brysur drwy’r haf.”