Heddlu'n ymchwilio wedi i blentyn farw yn Sir Benfro

Clunderwen Sir Benfro
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i blentyn farw yng Nghlunderwen yn Sir Benfro.

Fe gafon nhw eu galw am 13:45 brynhawn Gwener i eiddo yn yr ardal wedi pryderon am les plentyn.

Bu farw’r plentyn yn y fan a’r lle.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.

Roedd staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn bresennol.

Dywedodd y llu bod eu meddyliau gyda'r teulu.

Pynciau cysylltiedig