Pryder y byddai trosglwyddo toiledau yn costio mwy i bobl Ceredigion

toiledau
Disgrifiad o’r llun,

Mae pentref Cenarth yn un o'r cymunedau hynny sy'n wynebu gweld eu cyfleusterau cyhoeddus yn cau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyfodol nifer o doiledau cyhoeddus Ceredigion dan fygythiad, wrth i'r cyngor sir ddweud na fyddan nhw'n gyfrifol dros gynnal a chadw rhai o dai bach yr ardal o'r flwyddyn nesa' ymlaen.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, maen nhw'n cydweithio â chynghorau tref a chymuned i weld "a ydynt am gymryd cyfrifoldeb am redeg y toiledau yn eu hardal leol".

Ond yn ôl un cynghorydd cymuned, fe all hynny arwain at fwy o gostau i drigolion y sir.

'Fyddwn ni methu cymryd y pwysau'

Mae busnesau ym mhentref poblogaidd Llangrannog yn pryderu am ddyfodol yr unig doiledau cyhoeddus yno.

Yn ôl Geraint Davies, rheolwr Gwesty'r Pentre Arms, fe fyddai hynny yn arwain at ormod o bobl yn defnyddio toiledau'r dafarn.

"Ma' grisiau gyda ni yn mynd at y toiledau, ac yn amlwg dyw hynny ddim yn addas i berson anabl," meddai.

"Os fydde'r cyfleusterau yn cau, fyddwn ni just methu cymryd y pwysau o gannoedd ar gannoedd o bobl eraill yn dod mewn i'r dafarn."

Geraint Davies, Pentre Arms
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Geraint Davies y byddai cau toiledau cyhoeddus Llangrannog yn cael effaith enfawr

Gyda miloedd yn ymweld â'r pentref bob blwyddyn, mae Mr Davies yn dweud ei bod hi'n hanfodol cadw'r toiledau ar agor.

"Heb os ma'n mynd i effeithio ni yn syth, a phob un busnes arall yn y pentre'," meddai.

"Fyswn i'n cynnig i unrhyw gynghorydd i ddod lawr 'ma just i weld faint o arian sy'n cael ei wario yn un o ardaloedd mwya' fishi Ceredigion.

"Ni 'di cael yr un hen stori drwy'r haf ambiti'r toiledau yn cau. Os fydden nhw ddim 'ma, fydde ni ddim 'ma, a ma' hwnna'n dweud y cyfan."

Rhiannon Elias
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon Elias yn rhybuddio y gallai gostio mwy i drigolion y sir i gael cynghorau cymuned yn gyfrifol am doiledau cyhoeddus

Mae pentref Cenarth hefyd yn gymuned sy'n wynebu gweld eu cyfleusterau cyhoeddus yn cau.

Yn ôl Rhiannon Elias, cadeirydd Cyngor Cymuned Beulah, "fe fyddai hynny'n gam gwag ac yn drist".

Mae Cyngor Ceredigion wedi bod yn trafod gyda chynghorau tref a chymuned i weld a ydyn nhw am gymryd rheolaeth a chyfrifoldeb dros y toiledau yn eu hardaloedd lleol.

Er bod y cyngor sir yn dweud bod yr ymateb hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol, nid felly mae Cyngor Cymuned Beulah yn teimlo.

'Bosib bydd rhaid i ni godi'r precept'

"'Da' ni wedi penderfynu talu'r cyngor nawr am ddau fis i lanhau'r toiledau oherwydd o'n ni'n teimlo yn ofnadwy dros bobl y pentre'," meddai Ms Elias.

"O'n ni'n teimlo cyfrifoldeb iddyn nhw, yn yr un modd â mae e'n gyfrifoldeb i Gyngor Sir Ceredigion."

Er ei bod hi'n cydymdeimlo ag angen y cyngor sir i arbed arian, mae Ms Elias yn dweud taw "hyn a hyn o arian sydd gyda ni fel cyngor cymuned".

"Ma' pethau eraill yn gofyn am ein harian ni yn ogystal, so bydd hi'n bosib falle bydd yn rhaid i ni godi'r precept, a fydd hwnnw'n gost ychwanegol i drigolion yr ardal."

Bellach mae dwy ddeiseb i achub toiledau Llangrannog a Chenarth wedi derbyn dros 1,000 o lofnodion yr un.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig