Pryder y gallai degau o doiledau cyhoeddus gau yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Fe allai dros 30 o’r toiledau cyhoeddus yng Ngheredigion gau os na fydd cynghorau tref neu gymuned yn fodlon talu i’w cadw ar agor.
Mae Cyngor Ceredigion yn ceisio trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y toiledau cyhoeddus er mwyn arbed cannoedd o filoedd o bunnoedd.
Mae pobl leol yn dweud y byddai colli toiledau yn ergyd enfawr i’w cymunedau ac mewn rhai trefi arfordirol maen nhw’n hanfodol ar gyfer cynnal statws ‘Baner Las’.
Ond mae Cyngor Ceredigion yn dweud bod diffyg o fwy na £200,000 y flwyddyn rhwng y gost o redeg toiledau a'r incwm maen nhw'n ei wneud.
Gwrthod gwneud hynny mae Cyngor Tref Aberaeron, sydd â phedwar toiled cyhoeddus.
Mae'n bosib y bydd y toiledau yna yn cau ar 1 Ebrill 2025.
Yn ol Phill Davies sydd yn aelod o Gyngor tref Aberaeron, byddai cymryd y cyfrifoldeb yn golygu cynnydd o 120% i’r trethdalwyr.
Mae Cyngor Tref Aberaeron yn gwario oddeutu £50,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Byddai hynny yn cynyddu i dros £110,000 wrth gymryd y cyfrifoldeb am y toiledau cyhoeddus.
Meddai: “Ry'n ni fel cyngor tref yn methu fforddio talu amdano fe. Mae gwasgedd aruthrol ar y cyllid yn barod.
“Os odi’r cyngor sir o ddifrif mo'yn cael twristiaeth i ardaloedd fel Aberaeron maen rhaid iddyn nhw gymryd y cyfrifoldeb am y toiledau hefyd.
“Dydyn nhw ddim yn luxury, maen nhw’n angenrheidiol.
“Pam mae pobol yn cael eu dal allan ac angen mynd, mae nhw’n mynd i chwilio unrhyw dwll neu gornel i rhyddhau eu hunain!”
Ar hyn o bryd mae'r cyngor sir yn berchen ac yn cynnal 33 o doiledau - mewn trefi fel Aberystwyth, Aberaeron a Cheinewydd sy'n denu nifer fawr o ymwelwyr.
Ac mae'r cyngor sir hefyd yn cynnal toiledau mewn pentrefi llai gan gynnwys Llanddewi Brefi, Llangeitho a Llanon.
Mae cyngor cymuned Y Borth yn dweud eu bod wedi cael gwybod gan Gyngor Sir Ceredigion ei bod hi'n costio mwy na £20,000 y flwyddyn i lanhau ac i gynnal a chadw'r ddau floc o doiledau yn y dref.
Mae cynghorwyr cymuned wedi dweud y bydden nhw’n barod “mewn egwyddor” i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am y toiledau – ond byddai’n rhaid i hynny fod yn ymarferol heb roi gormod o bwysau ar drethdalwyr lleol.
Mae Delyth Price Jones yn aelod o Gyngor Cymuned Y Borth.
“Bydd rhaid i dreth y cyngor godi i gadw rhain ar agor,” meddai.
Mae pedwar traeth yng Ngheredigion – Y Borth, traeth y de yn Aberystwyth, Llangrannog a Thresaith – wedi derbyn statws y ‘Faner Las’ yn 2024.
Mae’r meini prawf ar gyfer cael baner las yn cynnwys cael “nifer digonol o doiledau”.
Mae’r meini prawf baner las hefyd yn dweud bod yn “rhaid i nifer y toiledau sydd ar gael ar y traeth adlewyrchu nifer cyfartalog yr ymwelwyr â’r traeth yn ystod y tymor prysur, hyd y traeth a nifer a lleoliad y prif bwyntiau mynediad".
Yn Y Borth, mae bron i filltir rhwng y ddau floc o doiledau ac mae pobl leol yn ofni y gallai’r pentref golli’r faner las os bydd llai o doiledau.
“Ni’n poeni’n fawr am hyn. Maen mynd i fod yn gostus i bawb yn y gymuned.
“Lle mae’r holl ymwelwyr sy’n dod yma i fod i fynd? Mae'n hawl sylfaenol.
“Bydd pobol yn mynd ar y traeth neu yn y môr, ble bynnag gallan nhw ffeindio, neu’n mynd at y busnesau lleol [i ddefnyddio eu cyfleusterau].”
Yn Deli Lazzaro, nôl yng nghanol tref Aberaeron, mae’r cyhoedd yn gofyn yn barod i gael defnyddio’r toiledau.
Gallai cynnydd “fod yn broblem” yn ôl un sy’n gweithio yno.
Meddai Filippo Sottovia: “Dyw e ddim bob amser yn beth drwg achos mae nhw’n aml yn prynu rhywbeth os ydyn nhw wedi cael defnyddio’r tŷ bach.
“Mae'n amlwg yn gaffi bach, byddai ciw ar gyfer y toiledau yn broblem achos mae'n gyfyng o gwmpas y byrddau a bydde fe ddim yn neis o gwmpas y byrddau i’r cwsmeriaid sydd yn bwyta i mewn.
“Byddai cynnydd mawr yn dipyn o broblem i ni” os yw’r toiledau cyhoeddus yn mynd i gau.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion, oherwydd pwysau cyllidebol sy'n wynebu'r cyngor, bod “y gwasanaeth wedi ceisio lleihau'r diffyg rhwng rhedeg toiledau cyhoeddus a'r incwm a dderbyniwyd".
"Yn fras, mae'n costio tua £300,000 i weithredu toiledau cyhoeddus yn y sir, mae'r incwm tua £90,000, felly mae'r diffyg tua £210,000.
Ychwanegodd y llefarydd:”Mae'r gwasanaeth wedi cysylltu â phob cyngor tref a chymuned lle mae darpariaeth toiledau cyhoeddus i fesur eu barn.
"Fel rhan o'r ymarfer hwn, eglurwyd na all y cyngor fforddio ariannu'r ddarpariaeth fel y mae ac os nad oes cymorth ar gael, bydd yn rhaid i'r cyngor ystyried cau toiledau cyhoeddus.
"Dangosodd y cyfarfodydd yn gynharach yn y flwyddyn fod rhai cynghorau tref a chymuned yn edrych i gefnogi darpariaeth toiledau, ac rydym yn credu y bydd eraill yn gwneud hynny hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd
- Cyhoeddwyd18 Hydref
- Cyhoeddwyd3 Medi