Sut fydd Cymru yn ymdopi heb Jess Fishlock?

Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth gyrfa ryngwladol Jess Fishlock i ben wedi'r golled yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ddiwedd cyfnod i Gymru yn dilyn ymddeoliad Jess Fishlock.

Does neb wedi ennill mwy o gapiau (166) na sgorio mwy o goliau (48) yn y crys coch.

Hi hefyd sgoriodd gôl gyntaf Cymru yn un o brif gystadlaethau rhyngwladol y merched - a hynny'n erbyn Ffrainc yn Euro 2025.

Felly'r cwestiwn mawr ydi sut y bydd Cymru yn ymdopi hebddi?

Gyda rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2027 yn cychwyn ym mis Chwefror, nid oes gan y rheolwr Rhian Wilkinson lawer o amser i ateb y cwestiwn hwnnw.

Paulina Tomasiak yn sgorio pedwaredd gôl Gwlad Pwyl yn eu buddugoliaeth o 5-2 yn erbyn Cymru yn Rodney ParadeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paulina Tomasiak yn sgorio pedwaredd gôl Gwlad Pwyl yn erbyn Cymru nos Fawrth

Yn eu gêm gyntaf ers i Fishlock ymddeol fe gollodd Cymru 5-2 yn erbyn Gwlad Pwyl ar Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Tydyn nhw bellach heb ennill yn eu 11 gêm ddiwethaf, gan golli saith gêm yn olynol.

Er bod Cymru wedi chwarae rhai o dimau gorau'r byd yn ystod y rhediad siomedig yna - mae dal yn achos pryder.

Felly pwy all lenwi esgidiau Fishlock i ysbrydoli'r tîm yn y dyfodol? Pwy all wisgo'r crys rhif 10, a chreu a sgorio goliau o ganol cae? A pha opsiynau sydd ar gael i Rhian Wilkinson?

Carrie Jones

Carrie Jones yn chwarae'n erbyn Lloegr yn St Gallen yn ystod Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carrie Jones yn rhan o garfan Cymru yn Euro 2025

Fe enillodd Carrie Jones ei chap cyntaf dros Gymru yn erbyn Ynysoedd Ffaro yn 2019 pan yn 15 mlwydd oed.

Mae hi bellach yn 22 ac wedi ennill dros 40 o gapiau, felly mae digon o brofiad ganddi ar y llwyfan rhyngwladol.

Ar yr asgell mae hi wedi chwarae gan amlaf dros Gymru, ond tybed os yw'r gallu ganddi i chwarae mewn rôl fwy canolog?

Mae hi wedi sgorio goliau pwysig yn y gorffennol, gan gynnwys y gôl fuddugol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon wnaeth sicrhau lle Cymru yn Euro 2025.

Un peth arall sy'n gweithio o'i phlaid yw'r ffaith ei bod yn chwarae'n rheolaidd i'w chlwb IFK Norrköping yn Sweden.

"Hi yw un o'r chwaraewyr mwyaf technegol sydd gennym ni nawr," meddai cyn-gapten Cymru Kath Morgan.

"Mae hi wedi datblygu lot ers symud i Sweden, ac un o'r prif resymau am hynny yw oherwydd ei bod yn chwarae'n wythnosol mewn cynghrair dda.

"Mae angen mwy o chwaraewyr sy'n chwarae'n rheolaidd i'w clybiau yn nhîm Cymru."

Ceri Holland

Ceri Holland yn dathlu sgorio'n erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nnhynghrair y CenhedloeddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ceri Holland yn dathlu sgorio'n erbyn Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd

Un arall sy'n chwarae rheolaidd i'w chlwb Lerpwl ym mhrif adran Lloegr yw Ceri Holland.

Mae Holland wedi datblygu i fod yn un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae hi'n agos at ennill 50 o gapiau, ac mae hi wedi sgorio saith gôl dros ei gwlad.

Yn debyg i Carrie Jones mae hi wedi chwarae ar yr asgell gan amlaf dros Gymru, ond tybed a fydd Rhian Wilkinson yn cael ei themtio i arbrofi gyda Holland mewn rôl fwy canolog?

Mae hi'n llawn egni, yn brofiadol a gyda llygad am gôl.

Mi fyddai canol cae o Angharad James, Sophie Ingle a Holland yn sicr yn cynnig sefydlogrwydd.

Mared Griffiths

Mared Griffiths yn chwarae'n erbyn Awstralia yn Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mared Griffiths sgoriodd yr unig gôl i Gymru yn erbyn Awstralia

Mae yna chwaraewyr ifanc addawol wedi torri mewn i garfan Cymru - yn eu plith Mared Griffiths.

Dim ond 18 mlwydd oed yw'r ferch o Drawsfynydd, ac fe sgoriodd gôl wych ar achlysur ei hail gap yn erbyn Awstralia.

Er ei bod hi wedi chwarae i dîm cyntaf Manchester United, mae hi dal yn chwarae gan amlaf i'r tîm dan 21.

Mae'n gofyn gormod iddi hi gamu mewn i esgidiau Fishlock ar y funud, ond dwi'n siŵr y gwelwn ni hi'n datblygu i fod yn chwaraewr allweddol i Gymru yn y blynyddoedd nesaf.

Newid siâp y tîm?

Elise Hughes yn sgorio gôl gyntaf Cymru wrth iddyn nhw golli 5-2 yn erbyn Gwlad Pwyl ar Rodney Parade Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elise Hughes yn sgorio'n erbyn Gwlad Pwyl

Un peth y gall Rhian Wilkinson ei wneud ydi newid siâp y tîm.

Mi oedd Fishlock fel arfer yn chwarae mewn rôl rydd tu ôl i'r prif ymosodwr - y rôl 'rhif 10' fel mae'n cael ei alw.

Mi fyddai Wilkinson yn gallu cael gwared ar y rôl yna'n gyfan gwbl a chwarae tactegau mwy uniongyrchol.

Yn Elise Hughes mae ganddi ymosodwr sy'n gorfforol, yn gryf ac yn gallu ennill lot o beli'n yr awyr.

Un opsiwn fyddai chwarae dwy yn y llinell flaen - Elise Hughes a Hannah Cain o bosibl.

Ac yn absenoldeb Fishlock, chwarae mwy o beli hir i gyfeiriad Hughes yn y gobaith wedyn y byddai hi'n gallu creu cyfleoedd i Cain.

Mae angen i Gymru ddod o hyd i ffordd o chwarae heb Fishlock mor sydyn â phosibl, yn enwedig gan gofio fod grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn cael eu trefnu wythnos nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.