Crasfa i Gymru gan Wlad Pwyl mewn gêm gyfeillgar

Mae Gwlad Pwyl chwe safle'n uwch na Chymru ar restr detholion y byd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi colli'n drwm mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad Pwyl - gêm gyntaf y garfan ers ymddeoliad Jess Fishlock o bêl-droed rhyngwladol.
Golyga'r golled - o bum gôl i ddwy yn stadiwm Rodney Parade, Casnewydd - bod Cymru heb ennill 11 o gemau'n olynol bellach.
Fe ddechreuodd Cymru'n dda, ac wedi pum munud o chwarae roedd Elise Hughes wedi sgorio gôl gyntaf y noson.
Ond yr ymwelwyr oedd ar y blaen erbyn yr egwyl, wedi i Nadia Krezyman (22) a Milena Kokosz (30) fanteisio ar wendidau Cymru wrth amddiffyn ymosodiadau o chwarae gosod.
Uchafbwyntiau Cymru 2-5 Gwlad Pwyl
Roedd pethau'n edrych yn gymharol addawol ar ddechrau'r ail hanner hefyd, wrth i'r ddau eilydd Sophie Ingle a Ceri Holland amlygu eu profiad.
Ond agor wnaeth y bwlch rhwng y ddau dîm o ganlyniad tair gôl o fewn tri munud - fe rwydodd Krezyman (54) am yr eildro ac er i Carrie Jones (55) daro'n ôl yn syth, fe sgoriodd Paulina Tomasiak (56) ac roedd sgôr o 1-2 ar yr egwyl bellach yn 2-4.
Roedd gôl olaf Gwlad Pwyl, gan Klaudia Jedlinska (84) yn un gampus.
Er na bylodd ymdrechion Cymru i gau'r bwlch fe fydd y ffaith i'r tîm golli saith gêm o'r bron - ac ildio 30 o goliau mewn 11 gêm - yn siŵr o fod yn destun pryder.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
  
- Cyhoeddwyd16 Hydref
  
- Cyhoeddwyd5 Hydref
 