Gweilch Gwarchodfa Glaslyn yn ôl gyda'i gilydd ar nyth newydd

Y llynedd magodd Aran ac Elen dri chyw gyda'i gilydd, a dau'r flwyddyn gynt
- Cyhoeddwyd
Mae Gwarchodfa Natur Glaslyn yn dathlu bod eu pâr o weilch yn ôl gyda'i gilydd ar eu nyth newydd ger Porthmadog.
Dyma drydedd flwyddyn y ddau walch, Aran ac Elen, gyda'i gilydd yn Nyffryn Glaslyn - ac 11eg blwyddyn Aran yno.
Daeth Aran yn ôl o'i gartref dros y gaeaf fore Sadwrn, tra bod Elen eisoes wedi dychwelyd dair wythnos ynghynt.
Er nad ydy'r warchodfa yn gwybod ble mae Aran yn treulio'i aeafau, mae'r rhan fwyaf o weilch pysgod Prydain yn mudo i orllewin Affrica - taith tua 3,000 o filltiroedd.
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
Roedd Aran yn gymar i walches wahanol yn y gorffennol, sef Mrs G - wnaeth ddeor dros 50 o wyau yng Nghymru.
Pan fethodd Mrs G â dychwelyd yn 2023, daeth Elen, aderyn di-fodrwy, i gymryd ei lle fel gwalches Glaslyn.
Y llynedd, magodd y ddau (Aran ac Elen) dri chyw gyda'i gilydd, a dau'r flwyddyn gynt.
Ond wrth aros i Aran ddychwelyd eleni dechreuodd Elen berthynas gyda gwalch ifanc newydd - un oedd gyda modrwy Las KC6/Teifi.
Mae Teifi yn un o gywion 2020 o Brosiect Gweilch Dyfi ger Machynlleth, ac roedd yn rhaid i Aran adennill rheolaeth dros y nyth a'r diriogaeth.
Mae Aran hefyd wedi bod yn cyflwyno pysgod i Elen - er mwyn ailsefydlu ei safle fel cymar iddi.