Dolen Cymru-Lesotho yn dathlu 40 mlynedd

Yr Uchel Gomisiynydd O T Sefako a chadeirydd Dolen Cymru, Dr Carl Clowes yn codi eu het i'r bartneriaeth newydd yn 1985
- Cyhoeddwyd
Yn gynharach fis yma fe gafodd sylw ei daflu ar wlad fechan Lesotho yn Affrica ar ôl i'r Arlywydd Donald Trump ddweud bod neb wedi clywed am y wlad.
Ond yma yng Nghymru, mae cysylltiadau cryf gyda Lesotho yn bodoli ers deugain mlynedd, a hynny ers sefydlu'r elusen Dolen Cymru yn 1985.
Sbardun y berthynas oedd y newyn mawr yn Ethiopia yn 1984, lle'r oedd teimlad ymhlith y Cymry bod rhaid ymateb i'r angen yn Affrica.
Roedd Dr Carl Clowes a Dr Gwynfor Evans ymhlith unigolion dylanwadol eraill a ddechreuodd ar y gwaith.
Roedd y sefydlwyr yn "awyddus i gydweithio gyda gwlad yn Affrica i ymateb i anghenion pobl drwy gryfhau cysylltiadau rhyngwladol, yn hytrach na dod yn asiantaeth gymorth".

Dathliadau Wythnos Plannu Coeden yn Lesotho, 2021
Dywedodd Gareth Morgans, ymddiriedolwyr gyda Dolen Cymru, ar Dros Frecwast bod yr unigolion hynny wedi cynnal "rhyw fath o gystadleuaeth i'r cyhoedd i enwebu gwlad y byddai'n addas i Gymru efeillio â hi".
Eglurodd bod nifer o wledydd wedi'u henwebu gan gynnwys Fiji, Botswana, Bhutan a Nepal, ond bod enw Lesotho yn "dod yn ôl o hyd ac o hyd".

Esboniodd Mr Morgans fod y penderfyniad o greu perthynas â Lesotho wedi dod ar ôl ymgynghori gydag arbenigwyr fel Gwenallt Prys, "oedd yn addysgwr pwysig ar y pryd, ac wedi bod yn Lesotho sawl gwaith."
Roedden nhw'n gweld fod Lesotho yn debyg i Gymru mewn sawl ffordd, o ran maint a phoblogaeth, diwylliant, mae'n wlad ddwyieithog, a bod daearyddiaeth go debyg gan y ddwy wlad.
Yn ymarferol, meddai Mr Morgans, mae'r elusen wedi gweithio mewn sawl maes dros y blynyddoedd gan gynnwys addysg ac iechyd.
"Mae 'da ni bartneriaethau cadarn iawn ar hyd a lled Cymru lle mae ysgolion yn cyfnewid athrawon a hyd yn oed yn cyfnewid dysgwyr," meddai
"Mae 'na griw o ddysgwyr newydd ddod yn ôl o Lesotho yn ddiweddar."

Cyfnewid Rhyngwladol 2024 y cynllun Taith
Ychwanegodd: "Mae awdurdodau iechyd a doctoriaid a nyrsys ac arbenigwyr ym maes iechyd yn mynd allan i Lesotho.
"Mae gwaith o ran lles, gwaith wedi bod o ran toiledau ysgolion, rygbi, a mae eglwysi a mudiadau eraill hefyd wedi'u gefeillio ac yn cynorthwyo ei gilydd mewn ffordd.
"Mae'n berthynas ddwy ffordd. Ni yng Nghymru'n elwa o'r profiad, a hefyd mae pobl yn Lesotho yn elwa."
Mae'n debyg bod un o bob pum person yn Lesotho yn byw gyda chlefyd HIV.
Felly pan gyhoeddodd yr Arlywydd Trump y byddai'n rhoi'r gorau i ariannu prosiectau i helpu'r wlad, fe gafodd "effaith andwyol" meddai Mr Morgans.
"Yn ôl beth ry'n ni'n ddeall mae rhwng 1,500 a 4,000 o weithwyr iechyd ar hyn o bryd yn Lesotho yn gweithio'n ddi-dâl oherwydd bod yr Unol Daleithiau wedi tynnu'r arian yna yn ôl."

Er bod Dolen yn gweithio i hyrwyddo partneriaethau iechyd rhwng Cymru a Lesotho ac yn cynnal prosiectau yn y maes iechyd, eglurodd Mr Morgans nad ydy Dolen Cymru "yn arbenigo yn y maes yma o waith iechyd".
Ond mae'r elusen yn ceisio codi arian er mwyn gallu penodi swyddog iechyd yn Lesotho dan adain Dolen Cymru, gyda'r bwriad o "dynnu'r holl waith iechyd sy'n digwydd gyda ni a'n partneriaid ni yma yng Nghymru at ei gilydd fel ei fod yn cael yr effaith fwyaf posib".
Bydd dathliadau i nodi 40 mlynedd o Dolen yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf gan gynnwys taith gerdded, cystadleuaeth dylunio blanced, her seiclo a chinio mawreddog.
"Ni'n gofyn i bobl ifanc yma yng Nghymru ac yn Lesotho beth yw eu dyheadau nhw am y 40 mlynedd nesa'," meddai Mr Morgans.
"Felly cyfle i edrych ymlaen i'r dyfodol ynghyd ag edrych yn ôl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2024