Dyddiadur Taith yr Urdd i India

  • Cyhoeddwyd

Eleni cafodd deg aelod o'r Urdd eu dewis i fynd ar daith ddyngarol i India gyda'r elusen Her Future Coalition.

Roedd y daith yn gyfle i'r aelodau gefnogi plant a merched bregus, yn ogystal â rhannu iaith a diwylliant Cymru sy'n seiliedig ar gynllun 'Chwarae yn Gymraeg' yr Urdd.

Un o'r deg a aeth draw i India oedd Martha Owen, ac fe rannodd ei dyddiadur hi o'r profiad gyda Cymru Fyw.

Criw Taith India yr Urdd 2025Ffynhonnell y llun, Martha Owen
Disgrifiad o’r llun,

Martha (rhes gefn ar y dde) a'r criw'n barod i fynd.

Dydd Gwener, 21 Chwefror

Diwrnod y daith wedi dod! Roedd 'na ddigon o gyffro wrth gyfarfod y criw ben bore 'ma yng Nghaerdydd i ddal y bws i faes awyr Heathrow.

'Da ni gyd yn teimlo mor lwcus i gael bod yn rhan o'r daith gyda'r Urdd a'n edrych 'mlaen i brofi diwylliant India a dysgu mwy am waith elusen Her Future Coalition.

Y criw wedi cyrraedd IndiaFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Sadwrn, 22 Chwefror

Roedd hi'n daith hir i Dubai ac yna i India (a thro cynta' ar awyren i sawl un o'r criw!).

Roedd cyrraedd Maes Awyr Kolkata yn brofiad swreal gyda gwres, bwrlwm a sŵn y ddinas yn fy nharo i'n syth. Gafon ni groeso cynnes iawn gan gwpwl o'r elusen a derbyn Varmala (cadwyni blodau) yr un i wisgo.

Neidio i fewn i'r bws at y gwesty wedyn a dreifio gwyllt y ddinas yn sicr wedi'n deffro ni ar ôl y daith hir! Ond roedd cael gwibio trw'r ddinas rhwng y bysus lliwgar, y motobeics a'r tuktuks yn anhygoel!

Yn y gwesty, gafon ni gyfle i gyfarfod Maura, sy'n gweithio i'r elusen ac yn byw yn Kolkata, fydd yn ein tywys am y pythefnos nesaf.

Yng nghartref Maura, sy'n cael ei ddefnyddio fel llyfrgell leol i blantFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Llyfrgell yng nghartref Maura, y tywysyddFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Sul, 23 Chwefror

Ar ôl dod dros chydig o'r jet-lag, cerddon ni draw i dŷ Maura. Roedden ni i gyd wedi'n gwirioni hefo'r naws croesawgar yno, gyda Maura'n defnyddio ei stafell fyw fel llyfrgell i blant yr ardal.

Daeth criw ifanc o'r ardal draw i'r llyfrgell i'n cyfarfod. Mi odd hi'n brofiad mor braf dod i adnabod nhw a rhannu'n diwylliant hefo'n gilydd, cael chwarae gemau yn Gymraeg - a chael dysgu chydig o Hindi hefyd!

Martha yn Ysgol Ek TaraFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Llun, 24 Chwefror

Diwrnod un yn Ysgol Ek Tara heddiw (Ysgol 'Un Seren' yn Gymraeg) - sefydliad anhygoel sydd wedi'i gefnogi gan Her Future Coalition, i roi addysg o safon uchel i ferched yr ardal. Heb yr ysgol yma, byddai llawer o ferched yr ardal heb fynediad hawdd at addysg.

Mi oedd awyrgylch yr ysgol mor braf, a mae'n anodd dychmygu bod cyfnod wedi bod heb yr ysgol arbennig hon. Roedd gan y disgyblion lwyth o egni a diddordeb yn ein hiaith a'n diwylliant ac wrth eu boddau'n dysgu bach o ddawnsio gwerin!

Gwneud cacennau criFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Mawrth, 25 Chwefror

Diwrnod arall o rannu diwylliant a phrofi awyrgylch anhygoel Ek Tara heddiw. Mi gafoni gyfle i gyfarfod y merched hŷn sy'n gweithio yn adran 'Ek Tara Creates' yn creu crefftweithiau, a chael cyfle i brynu rhai i gefnogi'r sefydliad (a chael presantau i'r teulu!)

Fy hoff ran o heddiw oedd dysgu staff y gegin sut i goginio Cacennau Cri a chael sgwrsio hefo nhw am yr ardal a'u diwylliant a'u bywyd o ddydd i ddydd. Mae mor braf dod i adnabod pobl o gefndir a diwylliant hollol wahanol i'n un ni yng Nghymru.

Ar ôl gorffen ein sesiynau, cafon ni hefyd gyfle i brofi chydig mwy o ddiwylliant Kolkata drwy grwydro marchnad leol a chael taith ar un o'r 'ToTos'!

HennaFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Mercher, 26 Chwefror

Heddiw, roedden ni i gyd yn gyffrous i gychwyn ar ein taith i ardal mwy gwledig o India, sef Santiniketan.

Cyn dal y trên, aethon ni draw i Apni Kutir - gofod saff i ferched dderbyn hyfforddiant er mwyn gallu bod yn annibynnol yn ariannol. Mae llawer o ferched yr ardal yn aml yn sownd i fywyd domestig heb obeithion o gael gwaith a rhyddid, felly roedd gweld gwaith gwych y ganolfan yma yn hollol ysbrydoledig.

Oedd hi'n brofiad gwych derbyn Mehendi (Henna) gan Selma, un o'r merched ifanc oedd wedi hyfforddi yn y ganolfan a bellach yn derbyn cyflog ei hun drwy wneud Mehendi mewn partïon a phriodasau.

Draw i ddal trên o orsaf Kolkata wedyn, ac am brofiad! Gymaint o fwrlwm yn yr orsaf gyda theithwyr yn cario bob math o nwyddau, bwyd a phlanhigion.

Adnoddau'r athrawon a derbyn gamcha sy'n rhodd traddodiadolFfynhonnell y llun, Martha Owen
Disgrifiad o’r llun,

Adnoddau'r athrawon a derbyn gamcha sy'n rhodd traddodiadol

Dydd Iau, 27 Chwefror

Diwrnod un yn Santiniketan, ac mi gafon ni fwyd hyfryd yn y gwersyll: dhal, roti, reis a paneer. Ma' gwlau Indiaidd yn lot caletach na rhai adra felly roedd hynna'n 'chydig o culture shock i'r criw, ond gafon ni ddigon o gwsg a'n barod am ddiwrnod o weithgareddau!

Y stop cyntaf oedd Canolfan Suchana. Gafon ni gyfarfod Ishani, merch mor ysbrydoliedig - ei rhieni hi wnaeth gychwyn Suchana i roi gofod i'r rhai mwyaf difreintiedig yn yr ardal. Fe gafon ni groeso traddodiadol a derbyn 'Gamcha', sgarffiau fel symbol o groeso a lletygarwch.

Canolfan SuchanaFfynhonnell y llun, Martha Owen
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan Suchana

Yn yr ardal, roedd yna lwyth o ieithoedd brodorol gwahanol fel Santali, Kora a Kurukh - a roedd gan sesiynau addysgiadol Suchana ffocws mawr ar roi llais i ieithoedd brodorol y plant.

Oedd hi mor ddiddorol gweld sut oedd athrawon Suchana yn creu adnoddau ei hunain i'r ieithoedd yma fel bod y plant yn cael ymarfer nhw ar ben y Saesneg a Bengali fydden nhw'n dysgu yn yr ysgol.

Llyfrgell symudol a'r criw'n cerdded drwy Santiniketan wledigFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Gwener, 28 Chwefror

Heddiw, gafon ni fynd allan i un o'r pentrefi gwledig gyda 'Mobile Library' Suchana. Roedd Ishani yn esbonio bod plant ddim yn cael mynd a llyfrau adra o ysgolion y llywodraeth, felly mae'r gwasanaeth yma mor bwysig i roi hwb i blant i ddarllen a gwella'u llythrennedd tu allan i'r ysgol.

Ishani, a thŷ IshaniFfynhonnell y llun, Martha Owen
Disgrifiad o’r llun,

Ishani, a thŷ Ishani

Yn y nos, gafon ni ymuno â sesiwn chwaraeon y plant ar un o'u caeau chwarae. Roedden nhw wrth eu boddau yn dysgu dawns Mr Urdd! Oedd hi'n brofiad mor swreal wedyn cerdded y plant adra i'w cartrefi drwy'r caeau reis a'r toau gwellt.

Ardal mor wahanol i adra, a chornel mor heddychlon o'r byd - wir yn brofiad bythgofiadwy cael gweld bywyd dydd-i-dydd trigolion Santiniketan.

I ddathlu ein noson olaf, gafon ni fwyd a diodydd yn nhŷ teulu Ishani. Daeth criw o athrawon Suchana draw hefyd i ymuno – noson lyfli!

Dathlu Dydd Gŵyl DewiFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Sadwrn, 1 Mawrth

Dydd Gŵyl Dewi heddiw a'n diwrnod olaf yn Santiniketan! Roedd yr het draddodiadol Gymreig yn mynd lawr yn dda hefo plant Suchana!

Aethoni draw i farchnad leol a chrwydro drwy'r cannoedd o stondinau yn gwerthu crefftau a dillad anhygoel.

Dal y trên yn ôl i Kolkata pnawn 'ma, a phawb yn hel atgofion yn barod o'n hamser yn Santiniketan - profiad a hanner!

Marchnad leol Santiniketan, a chwch mawreddog yn KolkataFfynhonnell y llun, Martha Owen
Disgrifiad o’r llun,

Marchnad leol Santiniketan, a chwch mawreddog yn Kolkata

Dydd Sul, 2 Mawrth

Diwrnod rhydd heddiw i ddad-flino o'r tridiau prysur yn y wlad. Roedd bod yn ôl yn y ddinas yn g'neud i mi sylwi pa mor ddistaw a heddychlon oedd Santiniketan - mor wahanol i sŵn a bwrlwm Kolkata.

Gafon ni daith ar gwch heddiw ar yr afon Ganges - mae pob dim yn Kolkata i weld wedi'u addurno a'u peintio mor ofalus hefo gymaint o fanylder, a doedd y cwch yma ddim gwahanol!

Cawson ymweld â theml Belur Math. Profiad cynta' fi o ymweld â theml; mor ddiddorol dysgu amdano a gweld yr adeilad!

Yng nghanolfan Her Future CoalitionFfynhonnell y llun, Martha Owen
Disgrifiad o’r llun,

Yng nghanolfan Her Future Coalition

Dydd Llun, 3 Mawrth

Heddiw cafon ni ymweld â Chanolfan Ddysgu Her Future Coalition. Hwn oedd un o'r profiadau mwyaf diddorol o'r trip i mi.

Mae'r ganolfan wedi'i sefydlu jyst tu allan i'r Red Light District, Sonagachi (y mwyaf yn Asia). Felly mae llawer o'r merched sy'n gweithio yn y ganolfan, ar y derbynfa, yn yr adran creu gemwaith neu yn 'Sari Bari' (ail-ddefnyddio Saris i greu a gwerthu bagiau cynaliadwy), yn ferched sydd wedi dod o fod yn gwneud gwaith rhyw yn Sonagachi.

Cafon ni gyfle i sgwrsio gyda Srabani Sarkar Neogi, sylfaenydd Hamari Muskan – sefydliad anhygoel yn Ne Kolkata sy'n gweithio gyda merched a phlant yn y diwydiant rhyw drwy gydol eu bywydau i roi cefnogaeth, gofodau saff, ymyrraeth iechyd meddwl a opsiynau arall iddyn nhw allu gadael y gwaith peryglus a ecsbloetiol yma.

Chwaraeon yn NabadishaFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Mawrth, 4 Mawrth

Bore 'ma, gafoni daith cerdded hynod o ddiddorol yn dysgu am 'White Town' Kolkata a hanes Cwmni India'r Dwyrain (East India Company) ac effaith ddychrynllyd 'colonialism' Prydeinig ar y ddinas a'i phobl.

Yn y p'nawn, aethoni draw i Nabadisha – swyddfa heddlu sydd hefyd yn ganolfan i blant difreintiedig yr ardal gael addysg a gweithgareddau all-gyrsiol fel chwaraeon, yoga, dawns a cherddoriaeth.

Mi oedden ni i gyd wedi gwirioni hefo'r fenter yma a'n gweld yn syth gymaint o les oedd y plant yn cael allan ohono. Gafoni brofiad gwych yn dod i adnabod y criw yn Nabadisha a chael ymuno yn rhai o'u sesiynau.

Martha OwenFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Mercher, 5 Mawrth

Ein diwrnod olaf ni yn India! Gafon ni gyfle heddiw i ymweld â siop thrift Her Future Coalition yn Kidderpore – prosiect gwych wedi'i gychwyn gan Maura ein arweinydd.

Mae'r trip wedi gwibio heibio ond 'da ni gyd yn dod adra hefo gymaint o brofiadau gwerthfawr, a pherspectif newydd ers profi diwylliannau a ieithoedd India a dod i adnabod gymaint o bobl anhygoel yn ystod y daith.

Mae'n un peth dychmygu a thrio uniaethu gyda phrofiadau pobl o gefndir hollol wahanol i dy un di, ond mae dod i adnabod a sgwrsio gyda phobl a phlant Kolkata a Santiniketan un-i-un wedi bod yn brofiad anhygoel i alluogi i ni gyd ddeall gymaint mwy am eu bywydau, teimladau, a phroblemau a'i roi yng nghyd-destun problemau systematig y wlad.

Diwrnod olaf y daithFfynhonnell y llun, Martha Owen

Dydd Iau, 6 Mawrth

Taith hir o'n blaenau heddiw i gyrraedd yn ôl i Gymru a phawb yn barod i wynebu'r jet-lag unwaith eto!

'Da ni i gyd yn teimlo mor ddiolchgar i'r Urdd a Her Future Coalition am drefnu'r daith anhygoel yma fydd yn aros hefo ni am byth, i'r holl sefydliadau am agor eu drysau a'n croesawu ni i ddysgu mwy am eu gwaith, ac i Maura ein arweinydd am ein ysbrydoli yn ddyddiol drwy ddangos ei brwdfrydedd at achos Her Future Coalition i wella bywydau'r rhai mewn tlodi ym mha bynnag ffordd bosib – dynes anhygoel!