Cynghorydd yn pledio'n ddieuog i honiad o dreisio

Llun o Peter MayFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Peter May wedi pledio'n ddieuog i honiad hanesyddol o dreisio

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd o Abertawe wedi pledio'n ddieuog i honiad hanesyddol o dreisio sy'n dyddio'n ôl i ddechrau'r 1990au.

Fe ymddangosodd Peter May, 56, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wedi'i gyhuddo o un honiad ar gyfer digwyddiad rhwng 1991 a 1993.

Siaradodd y diffynnydd yn y llys i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni, cyn pledio'n ddieuog.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, gydag amodau i beidio â chysylltu ag unrhyw dyst yr erlyniad ac i barhau i fyw mewn cyfeiriad penodol.

Cafodd dyddiad achos llys ei osod ar gyfer mis Medi 2026.

Ar hyn o bryd mae Mr May yn cynrychioli ward Uplands ar Gyngor Abertawe ar ran Plaid Uplands.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig