Rhybudd am ddirywiad cefn gwlad oherwydd llai o ddisgyblion

Disgyblion a rhieni Ysgol Clydau yn Nhegryn sydd yn brwydro cynlluniau i gau'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi rhybuddio y gallai cymunedau gwledig wynebu yr un math o ddirywiad â chymunedau glofol yn yr 1980au wrth i nifer y disgyblion grebachu yn sgil heriau demograffeg.
Mae'r Cynghorydd John Davies wedi galw am fuddsoddiad sylweddol yn y Gymru wledig, wrth i ffigyrau ddangos bod yna dros 2000 yn llai o blant ysgol yn Sir Benfro erbyn hyn o gymharu â 1996.
Mae'r Cyngor yn bwriadu ymgynghori ar ddyfodol dwy ysgol, ac mae rhieni yn Nhegryn wedi addo brwydro yn erbyn cynlluniau i gau Ysgol Clydau yn y pentref.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cydnabod yr heriau sy'n codi yn sgil newidiadau demograffig, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y disgyblion" a'u bod yn "parhau i fonitro tueddiadau".

Mae Steven Chambers yn rhiant yn Ysgol Clydau ac yn brwydro yn erbyn y cynlluniau i gau'r ysgol
Yn Nhegryn ar ddiwrnod y carnifal blynyddol roedd plant yr ysgol leol yn chwarae rhan ganolog yn y dathliadau trwy wisgo fel cymeriadau o gartŵn y Smyrffs.
Ond mae yna bryder mawr am y dyfodol. Mae gan Steven Chambers fab ym mlwyddyn 6.
"Mae teimladau yn gryf i gadw'r ysgol ar agor. Mae pob un yn mynd i ymladd i gyd, all the way," meddai.
"Maen nhw ffili credu bod nhw moyn cau'r ysgol. Os bydd yr ysgol yn cau bydd pobl mwy mewn oedran yn symud mewn a llai o bobl a phlant. Bydd y pentref jyst yn marw rili."

Mae Huw Scourfield yn galw ar Gyngor Sir Penfro i beidio cau Ysgol Clydau
Roedd plant Huw Scourfield yn ddisgyblion yn yr ysgol, a nawr mae ganddo wyrion yn Ysgol Clydau.
"Mae'r broblem o bobl hŷn yn symud i'r pentref ddim yn un newydd ond 'na gyd mae hyn yn mynd i wneud yw hybu hynny.
"Bydd e'n digwydd yn fwyfwy fel mae amser yn mynd mlaen. A fydd pobl ifanc moyn symud mewn os na fydd ysgol yma? D'wi ddim yn gwybod."

Mae'r Cynghorydd John Davies wedi bod yn aelod o dasglu Cyngor Sir Penfro sydd wedi bod yn edrych ar ddyfodol ysgolion
Yn ôl cyn arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Davies, mae yna heriau enfawr yn wynebu ardaloedd gwledig yn sgil newidiadau demograffeg.
"Mae yna ddiboblogi yn digwydd, mewn un ystyr, ond y demograffeg yw e.
"Mae hon yn her nid yn unig yn y cyd-destun gwledig ond ar draws y bwrdd.
"Mae'n poblogaeth ni yn heneiddio, mae'n ysgolion ni yn lleihau ac yn gwacáu, ac mae'n ysbytai a meddygfeydd yn orlawn oherwydd mae'r demograffeg yn newid.
"Mae pobl dros 50 yn dod lawr yma i rannol ymddeol. Ni'n colli'r egni ifanc yna i greu bwrlwm a economi sydd yn ffynnu yn wledig.
"Mae'r cyfan yna yn cael ei golli wrth iddyn nhw fynd i'r dwyrain."
Yn ol ffigurau'r cyngor,, dolen allanol mae poblogaeth ysgolion cynradd ardal y Preselau wedi lleihau bron i 19% ar gyfartaledd rhwng 2015 a 2024, a 6.6% yn ardal Dinbych y Pysgol yn ystod yr un cyfnod.
Ar gyfartaledd, mae poblogaeth ysgolion Sir Benfro wedi lleihau 12% ers ad-drefnu llywodraeth leol.
Mae disgwyl i nifer y plant yn Sir Benfro rhwng 0-15 leihau 11.7% dros y 10-15 mlynedd nesaf.
Cadarnhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod yna 17 o ysgolion yn y sir honno gyda llai na 50 o blant.
Mae rhagolygon Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd yna leihad o bron i 50,000 yn nifer i disgyblion ar draws Cymru erbyn 2040, ac mae'r gyfradd geni wedi bod yn lleihau ers 2010.
Cafodd y sefyllfa ei disgrifio fel "her frawychus", dolen allanol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2021.

Yn ôl y daearyddwr yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth, bydd rhaid ailddylunio gwasanaethau cyhoeddus wrth i nifer y disgyblion grebachu
Yn ol y daearyddwr, yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth, mi fydd cynghorau yn gorfod ailddylunio'r math o wasanaethau maen nhw yn cynnig yn sgil newidiadau demograffeg.
"Mae'n mynd i effeithio ar ysgolion. Mae yna oblygiadau i ysgolion mewn pentrefi.
"Mae hynny yn mynd i fod yn effaith amlwg yn yr ardaloedd hynny. Mae'n mynd i effeithio yn fwy cyffredinol ar wead cymdeithas," meddai.
"Wrth i boblogaeth heneiddio, mae natur yr ardal honno yn newid, a'r math o wasanaethau chi'n gorfod darparu.
"Gwario mwy o arian ar wasanaethau cymdeithasol i'r henoed yn hytrach nac ar blant a phobl ifanc."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw yn cadw golwg ar newidiadau demograffeg yng nghefn gwlad
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod yr heriau sy'n codi yn sgil newidiadau demograffig, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y disgyblion.
"Rydyn ni'n parhau i fonitro tueddiadau, ochr yn ochr â thystiolaeth a gomisiynwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar heneiddio a dirywiad y boblogaeth.
"Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgolion, a sicrhau bod digon o ysgolion yn eu hardal.
"Rhaid iddyn nhw adolygu'r galw presennol a'r rhagolygon am leoedd ysgol yn gyson.
"Wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion, rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion.
"Cryfhawyd y cod yn 2018, gan gyflwyno rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau, sy'n golygu bod gweithdrefnau a gofynion ychwanegol yn berthnasol trwy gydol y broses statudol."

Fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ddyfodol Ysgol Clydau yn Nhegryn yn yr Hydref
Mae'r Cynghorydd John Davies wedi rhybuddio y gallai ardaloedd gwledig weld yr un dirywiad â chymunedau glofaol heb fuddsoddiad.
"Mae angen buddsoddi pellach yn yr is-adeiledd. Mae band llydan yn rhoi cyfleoedd enfawr a ni'n cychwyn y daith o weld hynny yn digwydd. Ond mae angen gwaith arnom ni. Mae angen buddsoddi yn ein gwasanethau ni," meddai.
"Beth sydd angen ar yr ardal wledig yn y gorllewin ac draws Cymru yw gweithredu.
"Ni'n gweld adyfwio yn y llefydd trefol a'r cymoedd, ond mae yna dawelwch mawr pan mae'n dod i'r ardal wledig. Dwi ddim yn credu bod nhw'n ei ddeall e.
"Dyw e ddim yn cyffwrdd nifer fawr o wleidyddion sydd ym Mae Caerdydd ac yn bendant yn San Steffan.
"Mae'n rhaid i'r llywodraeth fod yn ofalus fel maen nhw yn ei bensaernïo oherwydd fel welon ni beth ddigwyddodd yn yr wythdegau yn y cymoedd.
"Mae yna risg enfawr i'r un peth ddigwydd yn yr ardal wledig os nag yw'r llywodraeth yn gweithio ar y cyd ar draws yr adrannau i sicrhau bod yna ddyfodol i amaethyddiaeth, i gefn gwlad a thrwy roi gwaith yn yr ardal chi'n cynnal yr iaith hefyd."

Diwrnod hwyl a charnifal blynyddol pentref gwledig Tegryn yng ngogledd Sir Benfro
Yn yr Alban, cafodd tasglu poblogaeth ei sefydlu yn 2019 i edrych ar heriau newidiadau demograffeg. Yn ôl Amanda Hill-Dixon o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae angen ystyried gwneud yr un peth yng Nghymru. Meddai:
"Dwi'n meddwl bod yna achos dros sefydlu strategaeth poblogaeth i Gymru, fyddai'n medru rhoi arweiniad ar ddatrysiadau lleol, ond hefyd gyda chefnogaeth strategaeth ar lefel y Deyrnas Unedig.
"Rwy'n meddwl bod yna angen am weithredu ar bolisi er mwyn osgoi rhai o'r peryglon a'r bygythiadau sydd yn ein hwynebu ar hyn o bryd."
Mae'r Athro Rhys Jones yn cytuno bod angen trosolwg strategol er mwyn wynebu heriau'r dyfodol.
"Mae'n anodd i unrhyw gyngor unigol i ddatrys y broblem. Mae eisiau trosolwg mwy strategol o'r her a chynlluniau mwy pwrpasol," ychwanegodd.