John Prescott, cyn-ddirprwy brif weinidog y DU, wedi marw yn 86 oed

John PrescottFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Arglwydd Prescott ddydd Mercher wedi'i amgylchynu gan gariad a cherddoriaeth jazz, meddai ei deulu

  • Cyhoeddwyd

Mae’r Arglwydd John Prescott, cyn-ddirprwy brif weinidog y Deyrnas Unedig, wedi marw yn 86 oed.

Yn enedigol o ogledd Cymru, bu’n ddirprwy i Tony Blair am 10 mlynedd ar ôl buddugoliaeth ysgubol Llafur yn etholiad 1997.

Dywedodd teulu'r Arglwydd Prescott ei fod wedi bod yn byw gyda chlefyd Alzheimer a'i fod wedi marw mewn cartref gofal ddydd Mercher.

Cafodd ei eni ym Mhrestatyn, ac roedd ei dad yn ddyn signal ar y rheilffyrdd a'i fam yn gynghorydd Llafur gyda chysylltiadau glofaol cryf.

Roedd yn ymfalchïo yn ei Gymreictod, gan ddweud yn 2009: "Cefais fy ngeni yng Nghymru, es i'r ysgol yng Nghymru ac mae fy mam yn Gymraes, rwy'n Gymro. Dyma wlad fy ngeni."

Prif Weinidog y DU, Tony Blair (dde), y Dirprwy John Prescott (canol) a Changhellor y Trysorlys Gordon Brown yn canu yn ystod cloi cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur ym Manceinion, ym Medi 2006. Cyhoeddodd Prescott ei fwriad i sefyll i lawr ac mai hon fyddai ei gynhadledd olaf fel dirprwy brif weinidogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Changhellor y Trysorlys, Gordon Brown (ch), John Prescott (canol) a Tony Blair yng nghynhadledd flynyddol y Blaid Lafur ym Medi 2006, ble cyhoeddodd Prescott ei fwriad i sefyll i lawr fel dirprwy brif weinidog

Daeth ei gyfnod fel aelod o Dŷ’r Arglwyddi i ben ym mis Gorffennaf eleni oherwydd diffyg presenoldeb, ar ôl siarad unwaith yn unig yn y siambr ers dioddef strôc yn 2019.

Nid oedd wedi pleidleisio ers mis Chwefror 2023, yn ôl cofnodion swyddogol.

Gadawodd yr Arglwydd Prescott yr ysgol yn 15 oed a gweithio fel stiward yn y Llynges Fasnachol.

Astudiodd wedyn yng Ngholeg Ruskin yn Rhydychen, cyn mynd i fyd wleidyddiaeth.

Dywedodd ei deulu: “Treuliodd John ei fywyd yn ceisio gwella bywydau pobl eraill, yn ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol ac yn amddiffyn yr amgylchedd, gan wneud hynny o’i amser fel gweinydd ar y llongau mordaith i ddod yn Ddirprwy Brif Weinidog sydd wedi gwasanaethu hiraf ym Mhrydain."

John Prescott yn cael ei amgylchynu gan brotestwyr ar ôl iddo gael ei daro gan wy wrth iddo gyrraedd y Theatr Fach, yn Y Rhyl lle’r oedd i annerch rali gan y Blaid LafurFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Prescott ei daro gan wy wrth iddo gyrraedd y Theatr Fach, Y Rhyl ym mis Mai 2001 - ond ni wynebodd unrhyw gamau pellach am ei ymateb

Cafodd y llysenw “two jags” gan y wasg ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod ganddo ddau gar Jaguar.

Ond yn 2021, datgelodd nad oedd ganddo gar bellach, gan ddweud "I am now Zero Jags".

Fe wnaeth hefyd ddyrnu dyn a daflodd wy ato tra ar drywydd ymgyrch yr etholiad cyffredinol yn Y Rhyl yn 2001.

Ar ôl i luniau o’r digwyddiad ymddangos yn y wasg ledled y byd, cafodd y llysenw newydd o “two jabs” ei fathu ar ei gyfer gan newyddiadurwyr.

Dywedodd yr Arglwydd Prescott ei fod wedi amddiffyn ei hun a bod yr heddlu wedi gwrthod cymryd unrhyw gamau pellach.

Roedd polau piniwn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl yn cefnogi ei ymateb.

Wrth wneud sylw ar y pryd, dywedodd Syr Tony: “John yw John”.

'Cyfraniad aruthrol'

Dywedodd y prif weinidog Eluned Morgan ar Dros Frecwast fod "John yn gymeriad oedd pob un yn gallu adnabod".

"Roedd ei agwedd e tuag at y blaid Lafur, tuag at wella cymdeithas, yn rhywbeth oedd yn mynd trwyddo fe'n llwyr," meddai.

"Nes i ddod i 'nabod e gyntaf pan o'n i yn y brifysgol yn Hull. Wrth gwrs roedd yn cynrychioli'r ardal yna, a wnaeth e droi lan i helpu i lansio'r ymgyrch gyntaf nes i fel Aelod Seneddol Ewropeaidd.

"Ro'n i wedi paratoi popeth - lansiad mawr ym Mhortmeirion - a wnaeth neb o gwbl droi lan. Felly, gaethon ni ddiwrnod lyfli gyda'n gilydd ym Mhortmeirion!"

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl mi wnaeth e gyfraniad aruthrol i Brydain, ac yn sicr mi wnaeth e sicrhau bod 'na undod tu fewn i'r blaid Lafur - dod â New Labour at ei gilydd 'da'r ochr dosbarth gweithiol - ac mi roedd e'n bwysig iawn o ran sicrhau bod Tony Blair a Gordon Brown yn dod ymlaen.

"Oedd e'n hollol ganolog i hynny [New Labour], a hefyd wedi dangos i fod e'n ddawnus dros ben, nid jyst fel ymgyrchwr ond hefyd fel Dirprwy Brif Weinidog ac fel rhywun oedd yn benderfynol o wthio pethau fel yr amgylchedd ymlaen."

John PrescottFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Prescott ei ddisgrifio fel cymeriad mawr oedd "wastad yn llenwi 'stafell"

Yn hel atgofion amdano ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd cyn-brif weinidog Cymru Carwyn Jones: "Oedd Tony Blair a John Prescott yn dîm da dros ben yn y 90au.

"Oedd e’n cynrychioli ochr yr undebau – roedd gwreiddiau dwfn da fe gyda’r undebau. Roedd e wedi eu perswadio nhw i gefnogi Llafur dan Tony Blair.

"Roedd e’n allweddol i’r tîm oedd yn arwain Llafur yn y 90au ac i mewn i’r ganrif hyn hefyd."

Yn ôl Carwyn Jones roedd John Prescott yn gymeriad mawr oedd “wastad yn llenwi 'stafell ac yn dweud be' oedd ar ei feddwl."

“Roedd e wastad yn dweud ei fod wedi ei eni ym Mhrestatyn ac yn deud mai 'Cymro ydw i'."

'Medru siarad hefo pawb'

Hefyd ar Dros Frecwast dywedodd cyn-aelod seneddol Llafur Conwy, Betty Williams: “Yn etholiad 1997 roedd John yn allweddol iawn yn rhoi arweiniad i’r rhai ohona ni gafodd ein hethol yn 1997 o’r newydd.

"Roedd o’n berson oedd yn medru siarad hefo pawb - a’i gefndir o wedi ei eni ym Mhrestatyn yn rhan o hynny.

"Mi oedd o’n dod o gefndir gweithio go iawn ac yn medru cymysgu hefo pobl o bob cefndir."

Mae'n gadael ei wraig, Pauline, a'u plant David a Jonathan.

Pynciau cysylltiedig