Sioned Dafydd: 'Gwireddu breuddwyd' yn yr Euros wrth i'r tîm greu hanes

Dyma'r tro cyntaf i Sioned i gyflwyno pencampwriaeth o'r fath
- Cyhoeddwyd
Gyda phencampwriaeth hanesyddol Euro 2025 yn cychwyn ymhen pythefnos, dywedodd un o gyflwynwyr S4C ei bod yn "gwireddu breuddwyd" cael gweithio yno.
Dyma fydd y tro cyntaf i Sioned Dafydd gyflwyno pencampwriaeth o'r fath.
Bydd Cymru yn wynebu tri thîm o fewn eu grŵp sef Yr Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr.
A beth bynnag fydd ffawd y tîm ar y cae, dywedodd Sioned bod yr ymgyrch "heb os am newid pethau yn syfrdanol o ran gêm y merched yng Nghymru".
'Do'n ni ddim yn gwybod be i weud'
Gyda Sioned yn un o wynebau amlycaf darlledu pêl-droed yng Nghymru erbyn hyn, dywedodd ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at gael teithio i'r Swistir ar gyfer y bencampwriaeth.
"Mae'n teimlo fel gwireddu breuddwyd go iawn," meddai.
"Pan glywes i 'mod i'n mynd i fod yn cyflwyno'r gemau, do'n i ddim yn gwybod be' i 'weud really.
"O'n i just yn teimlo'n browd iawn, ond hefyd yn fwy excited pan glywes i am y tîm o bobl sydd am fod mas 'na gyda ni - Ebzi, Nic Parry, OTJ, Gwennan, ond hefyd y criw fydd yn gweithio mor galed y tu ôl i'r camera.
"Mae 'na dîm da iawn ohonon ni'n mynd mas i'r Swistir," meddai.

Sioned yn cyfweld Gareth Bale yn un o'i gemau cyntaf fel gohebydd
Roedd Sioned yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe cyn mynd ymlaen i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd er iddi fwynhau "drama a Chymraeg, o'n i byth wedi ystyried y cyfryngau fel gyrfa a bod yn onest".
"Ro'n i wastad wedi caru pêl-droed, ro'n i wastad wedi mynd i weld y Swans 'da Dad pan o'n i'n fach ac wrth dyfu lan", meddai, gan ddweud mai dyna oedd y sbardun i ystyried gyrfa o fewn y maes.
Aeth yn ei blaen i weithio i adran y wasg Clwb Pêl-droed Abertawe ac yna rhaglen Sgorio ar S4C.

Bydd Gwennan Harries yn rhan o'r tîm allan yn y Swistir gyda Sioned
Wrth edrych ymlaen at y cyfnod allan yn y Swistir, dywedodd fod "diwrnodau hir" o'i blaen.
"Ti lan yn gynnar, ti mas yn ffilmio, ti hefyd yn paratoi, gwneud nodiadau, sgriptio, meddwl am y rhaglen, mae 'na lot o deithio hefyd.
"Mae 'na lot o waith caled," ychwanegodd.
Dywedodd ei bod am "drio dysgu cymaint hefyd, achos hwn fydd fy mhrofiad cyntaf o gyflwyno mewn twrnament felly fi'n siŵr fydda i'n haslo Dylan Ebz am lot o dips!"
"Yr agosa' mae'r twrnament yn dod, fi'n teimlo'r cyfrifoldeb 'na bach yn fwy achos ni 'di aros gymaint o amser i gyrraedd 'ma.
"Y ffaith ma' gêm y merched wedi bod trwy gymaint o ran yr hanes, do'n i ddim yn cael chwarae'r gêm am ryw 50 o flynyddoedd.
"Mae'n mynd i fod yn deimlad sbesial iawn fod mas 'na yn cyflwyno'r gemau 'na a gobeithio alla i wneud good job, a gobeithio gall y tîm hefyd achos mae hwn i gyd amdanyn nhw."
'Dwi ffili aros'
A hithau wedi bod yn dilyn y gamp ers ei bod yn ferch ifanc, dywedodd fod gweld tîm Cymru yn cyrraedd pencampwriaeth o'r fath yn "ffantastig".
"Pan o'n i'n tyfu lan doedd tîm y dynion a menywod ddim yn cael lot o lwyddiant, felly o ran fy ngwaith i, fi'n teimlo 'mod i wedi amseru hwn yn berffaith.
"Oedd y noson mas 'na yn Nulyn pan wnaeth y merched gyrraedd [yr Euros], heb os, yn un o'r nosweithiau gore fi 'di cael yn fy ngyrfa, felly dwi ffili aros."

Sioned gyda gyda sêr Cymru, Connor Roberts, Dan James, Joe Rodon ac Ethan Ampadu
Un o obeithion mawr Sioned yw gweld y bencampwriaeth yn codi statws pêl-droed i ferched yng Nghymru.
"Pan wnaeth Lloegr ennill yr Euros diwethaf 'wnaeth hwnna gael effaith enfawr ar gêm y merched fan hyn yng Nghymru, felly os yw Lloegr yn gallu 'neud hwnna, mae'r effaith ma' tîm Cymru eu hunain am gael yn enfawr," meddai.
"Gwnaeth Euros 2016 newid popeth ar ran y dynion.
"Mae'r Euros yma, beth bynnag sy'n digwydd ar y cae, heb os am newid pethau yn syfrdanol o ran gêm y merched yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth