3 Llun: Lluniau pwysicaf Sioned Dafydd

Sioned gyda gyda Connor Roberts, Dan James, Joe Rodon ac Ethan Ampadu
- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y cyflwynydd a'r gohebydd Chwaraeon, Sioned Dafydd sy'n trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw.

Sioned gyda'i Mamgu a'i Thadcu yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Fi, Mamgu a Dadcu yn yr Eisteddfod.
Sai'n hollol siŵr pa Eisteddfod Genedlaethol oedd hwn ond dyma fi pan o'n i'n fach gyda fy Mamgu, Margaret Rowlands, a Dadcu, y prifardd a'r Archdderwydd Dafydd Rowlands.
Yn anffodus bu farw Dadcu pan o'n i'n saith mlwydd oed ond mae ei waith fel bardd ac awdur a'r cariad oedd ganddo fe tuag at fyd y campau yn parhau i fy ysbrydoli pob dydd... yn ogystal â faint odd Dadcu'n joio gwin coch a trips i'r Eidal!
Mae Mamgu erbyn hyn yn ei hwythdegau a hi yw un o'r menywod pwysicaf yn fy mywyd.
Ma' hi'n berson anhygoel. Tra bod Dadcu wedi ysbrydoli fy angerdd tuag at chwaraeon, Mamgu sydd bendant wedi ysbrydoli fy nghariad tuag at siopa a gwario gormod o arian ar ddillad.
Cyn gemau Cymru yr unig beth ma' hi'n gofyn i fi yw "Beth i ti'n mynd i wisgo?" Un o fy hoff bethau erbyn hyn yw eistedd ar y balconi gyda Mamgu yn ei thŷ hi lawr y Marina yn Abertawe gyda G&T.

Sioned yn cyfweld Gareth Bale yn un o gemau cyntaf Sioned fel gohebydd
Cyfweld â Gareth Bale (Cymru 1-0 Czechia, Gemau Rhagborofol Cwpan y Byd).
Dyma oedd un o'r gemau rhyngwladol cyntaf 'nes i fel gohebydd i Sgorio ac un o'r cyfweliadau cyntaf 'nes i gyda Gareth Bale.
Roeddwn i wedi bod yn gweithio'n galed tuag at y foment yma am flynyddoedd ac mae dal yn fraint enfawr cael dal y meicroffôn yna i S4C fel un o brif ohebwyr pêl-droed y sianel.
O'n i ond yn 24 mlwydd oed fan hyn, sydd mor ifanc nawr bo' fi'n edrych yn ôl ar y cyfnod hwn.
Roeddwn ni'n hynod o nerfus a di-brofiad ond dwi mor ddiolchgar i fy nghydweithwyr arbennig sydd wedi bod mor gefnogol dros y blynyddoedd ac sydd wedi chwarae rhan enfawr yn fy natblygiad fel gohebydd a chyflwynydd pêl-droed.
Dyma oedd un o gemau cyntaf yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd.
Bydden i byth wedi meddwl bydde'r llun yma'n symbol o beth oedd dechrau taith arbennig bydden arwain yn y pendraw ata i'n hedfan mas i Qatar i weithio ar Gwpan y Byd! Gwireddu breuddwyd go iawn.

Sioned a'i chwaer fach Sara
Fi a fy chwaer fach, Sara.
(Ma' hi wedi talu fi i ddweud hwn... jôc!)
Fi'n teimlo'n hynod o lwcus fy mod i wedi cael fy magu gan fenywod anhygoel ac ma' 'na fenywod sbesial iawn yn fy mywyd. Ma' Sara heb os yn un o rheina.
Hi yw fy ffrind gorau a'r chwaer orau allwn i fod wedi gofyn amdani.
Mae Sara erbyn hyn yn ohebydd i'r BBC a Newyddion S4C a dwi mor browd ohoni.
Jôc y teulu yw bod neb yn gallu troi'r teledu ymlaen heb weld naill ai Saz ar y newyddion neu fi'n neud y pêl-droed... sori!
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2022