Diswyddo plismon Dyfed-Powys dros negeseuon hiliol a sarhaus

Roedd y Cwnstabl Gareth Horton wedi rhannu negeseuon WhatsApp sarhaus a hiliol gyda heddwas arall
- Cyhoeddwyd
Mae plismon gyda Heddlu Dyfed-Powys wedi cael ei ddiswyddo am rannu negeseuon sarhaus a hiliol gyda heddwas arall.
Clywodd gwrandawiad disgyblu bod y Cwnstabl Gareth Horton wedi rhannu negeseuon gyda phlismon o Heddlu Glannau Mersi oedd yn bychanu menywod, pobl trawsryweddol, pobl hoyw a phobl du, pan oedd yn gweithio i'r un llu.
Yn ôl cadeirydd y gwrandawiad yng Nghaerfyrddin, Ian Arundale, roedd cynnwys y negeseuon ar "ran uchaf y raddfa o ran difrifoldeb".
Ychwanegodd fod patrwm o ymddygiad dros gyfnod o amser yn erbyn grwpiau oedd wedi eu hamddiffyn o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb.
Yn ôl Mr Arundale, roedd y negeseuon yn rhai oedd yn gwahaniaethu ac mi fyddai'r cyhoedd yn arswydo o weld y cynnwys.
Dywedodd Mr Arundale mai diswyddo'r Cwnstabl Horton "oedd yr unig gosb addas".
Ceisio 'ffitio mewn'
Roedd y Cwnstabl Gareth Horton o Bowys, sy'n dad i ddau o blant, wedi bod yn cyfnewid negeseuon WhatsApp gyda chwnstabl arall o Heddlu Glannau Mersi rhwng mis Mawrth a Gorffennaf 2023, pan oedd yn gweithio i'r llu.
Fe symudodd i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys ym mis Hydref 2023, ac fe ddaeth y negeseuon i'r fei yn dilyn ymchwiliad i swyddog arall, pan feddiannwyd ei ffôn.
Yn ystod y gwrandawiad, fe dderbyniodd y Cwnstabl Horton, sy'n gyn-filwr, bod y negeseuon wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu ac yn gyfysytyr â chamymddwyn difrifol.
Roedd wedi ymateb i rai negeseuon amhriodol gan y swyddog o Heddlu Glannau Mersi gydag emojis "crio chwerthin".
Dywedodd y Cwnstabl Horton wrth y gwrandawiad ei fod wedi anfon y negeseuon er mwyn ceisio "ffitio mewn" gyda chydweithwyr yn Heddlu Glannau Mersi, ac nad oedd y negeseuon yn "adlewyrchu ei wir gymeriad".
Wrth amlinellu'r achos yn ei erbyn, dywedodd Katherine Hampshire, bargyfreithiwr ar ran Heddlu Dyfed-Powys, bod y neges gyntaf a anfonwyd gan y cwnstabl o Heddlu Glannau Mersi at y Cwnstabl Horton ar 26 Mawrth, yn cynnwys sylwadau oedd yn gwneud hwyl am bobl trawsryweddol.
Bu'r ddau yn cyfnewid o leiaf wyth o negeseuon tan Gorffennaf 2023.

Roedd un neges anfonwyd ar 31 Mai 2023 gan y Cwnstabl Horton yn bychanu rhywioldeb y cyflwynydd teledu Phillip Schofield.
Roedd neges arall a rannwyd yn dangos lluniau o gerrig gyda'r neges bod hi'n fis Pride yn y dwyrain canol.
Fe anfonwyd neges hiliol am George Floyd - dyn du a lofruddiwyd gan heddwas yn yr Unol Daleithiau - ar 27 Mehefin.
Yn ôl Ms Hampshire roedd y negeseuon yn hiliol, yn gwahaniaethu yn erbyn menywod, yn sarhaus i bobl drawsryweddol a phobl hoyw, a doedd y Cwnstabl Horton ddim wedi hysbysu unrhyw un ar ôl derbyn y negeseuon na'u herio.
Dywedodd Ms Hampshire y "byddai ei ymddygiad yn tanseilio gwasanaeth yr heddlu a hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth".
'Difeddwl ac anghyfrifol'
Yn ôl bargyfreithiwr y Cwnstabl Horton, Susan Ferrier, roedd ei chleient yn derbyn ei fod wedi torri safonau proffesiynol oedd gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
Er hynny, roedd hi'n feirniadol fod y broses disgyblu wedi ei chyflymu mewn ffordd oedd yn "anghyson", yn ei barn hi.
Dywedodd Ms Ferrier fod y Cwnstabl Horton yn derbyn iddo ymddwyn mewn ffordd "difeddwl ac anghyfrifol" ac y dylai fod wedi herio'r negeseuon.
Ond mynnodd nad oedd y negeseuon yn "adlewyrchu ei wir gymeriad" a'i fod wedi gwneud "popeth dan ei reolaeth" i wneud yn iawn am ei ymddygiad.
Roedd Ms Ferrier wedi awgrymu y byddai diswyddo'r Cwnstabl Horton yn anghymesur.
Fe gerddodd y Cwnstabl Horton allan o'r gwrandawiad gyda'i wraig ar ôl i'r cadeirydd gyhoeddi y byddai'n cael ei ddiswyddo.
Bydd ei enw yn cael ei ychwanegu at y rhestr o unigolion sydd wedi'u gwahardd rhag bod yn yr heddlu.