Stori ddirgelwch am jet RAF, Ynys Enlli a'r Archdderwydd...

- Cyhoeddwyd
Mae magwraeth ar Enlli, gyda'i llonyddwch a'i byd natur, yn ymddangos yn bell iawn o rai o drafferthion mawr y byd.
Felly does ryfedd efallai bod mam sy'n magu ei phlentyn ar ynys yr 20,000 o seintiau wedi synnu braidd pan gafodd ei merch 20 mis oed anrheg gan yr RAF - llyfr lliwio awyrennau rhyfel.
Ond fe wnaeth yr anrheg, gafodd ei roi ar ôl i ddarn o jet gael ei ganfod ar yr ynys, arwain at rodd arall - cerdd am heddwch gan Archdderwydd Gorsedd Cymru.
Fe ddechreuodd y cyfan fel stori ddirgelwch ar yr ynys oddi ar Ben Llŷn.

Fe symudodd Mari Huws i fyw a gweithio ar Enlli chwe blynedd yn ôl
Wrth gerdded mewn cae ger ei chartref ddiwedd Ionawr daeth warden yr ynys ar draws tiwb trwchus wyth troedfedd o hyd wedi ei wneud o rwber a metel. Dim ond hi, ei gŵr a'u merch fach oedd ar yr ynys ar y pryd.
"Mi o'n i'n mynd am dro efo fy merch, drwy'r caeau i gyfeiriad y môr ac mi wnaeth o ddal fy llygaid i," meddai Mari Huws.
"Doedd gen i ddim syniad be' oedd o, ac odda ni'n bell o'r môr. Mewn chwe gaeaf yn byw ar Enlli, rydym wedi profi stormydd gwyllt - ond does 'na ddim byd mawr fel yna erioed wedi glanio dros 270 metr mewn i'r tir!
"O'n i'n amau yn syth bod o wedi dod o'r awyr."

Lleoliad y beipen gafodd ei darganfod ar 28 Ionawr, chwarter cilomedr o'r môr - sydd i'w weld yn y pellteryn y llun
Roedd clawdd, ffens a dibyn rhwng y lleoliad a'r môr ac roedd siâp y beipen i'w gweld yn y gwair wrth ymyl y tiwb hefyd, meddai, fel petai wedi creu pant ar ôl taro'r ddaear cyn bownsio ychydig fodfeddi i'w lleoliad terfynol.
A phan roddodd lun ar y cyfryngau cymdeithasol i holi am gyngor fe wnaeth ambell i dditectif cadair esmwyth ati i ymchwilio. O fewn dim roedd rhywun wedi ymateb i ddweud bod manylion label oedd ar y beipen yn profi mai darn o awyren gan Airbus oedd o, cwmni sy'n cynhyrchu darnau i awyrennau - yn cynnwys awyrennau rhyfel.
Llai na 24 awr yn ddiweddarach roedd yr RAF wedi cysylltu i drefnu i nôl y bibell.

Roedd y beipen o fetel a rwber, ac roedd label arni gyda manylion
Mewn e-bost i'r RAF roedd Mari, sy'n cerdded drwy'r cae yn aml gyda'i phlentyn, wedi gofyn am sicrwydd na fyddai hyn yn digwydd eto rhag i rywun gael niwed - ond chafodd hi ddim ateb i'w phryderon.
Ac ar 9 Chwefror, yn rhinwedd ei swydd fel warden, roedd hi'n cyfarfod dau beilot o RAF Fali, Ynys Môn.
"Do'n i ddim yn deall pam eu bod nhw'n boddran dod i'w nôl o," meddai. "Roedd o'n bizarre - doedd mond tri ohonom ni ar yr ynys - fi, Emyr a'n merch.
"Wnaethon nhw bob dim mor low key â phosib… chartro cwch pysgota o Bwllheli pan fasa nhw wedi gallu cael choppar o Ynys Môn."
Fe gafodd gadarnhad bod y bibell yn un sy'n trosglwyddo tanwydd o un awyren i'r llall wrth hedfan, ac roedd yn perthyn i jet o ganolfan yr RAF yn Rhydychen.

Jet Typhoon yr RAF yn cael tanwydd gan awyren Voyager wrth hedfan uwchben Môr y Gogledd. Rhan o bibell fel hyn gafodd ei darganfod ar Ynys Enlli
Ond wrth i'r peilotiaid fynd â'r tiwb oddi yno, fe roddon nhw anrheg i'w merch.
"Mi roeddent wedi dod â llyfr lliwio awyrennau rhyfel i fy merch 20 mis oed. Roedd rhywbeth absẃrd am yr holl beth, dau fyd yn cwrdd.
"Mi o'n i'n gweld y rhodd o'r llyfr lliwio yn rhyfedd a miss-judged. Mi fasa well gen i tasa nhw wedi ymddiheuro'n swyddogol a'n sicrhau ni na wneith o fyth ddigwydd eto."
Ond nid dyna ddiwedd y stori.

Lleoliad y tiwb - sydd wedi ei farcio gyda'r saeth coch - sydd 273m o'r môr
Yn ddiweddar roedd Mari yn tywys criw arall o gwmpas yr ynys oedd o gefndir tra gwahanol - beirdd.
Pan wnaeth jet hedfan dros yr ynys fe ddywedodd bardd o Estonia - sydd ar y ffin gyda Rwsia - bod mwy o awyrennau rhyfel i'w gweld yn hedfan dros y wlad ar hyn o bryd, ac fe adroddodd Mari ei hanes.
Yn tywys y criw roedd y prifardd Mererid Hopwood sy'n ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru, ac yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams, bardd sy'n adnabyddus am fod yn heddychwr. Fel Archdderwydd Gorsedd Cymru, Mererid Hopwood sydd hefyd yn gofyn 'A oes heddwch?' yn seremonïau'r Eisteddfod.
Efallai nad oes syndod felly ei bod wedi troi'r profiad yn gerdd am heddwch.
Ynddi, mae'r bardd yn annog Lleucu, merch Mari, i eistedd ar garreg ddiogel 'yn ddigon pell o ymyl y dibyn' ar 'un o Glustogau Mair' a 'chyda hud a lledrith dy bensiliau lliw, tro'r fighter jets yn adar mân.'
Fe gafodd 10 marc yn rhaglen BBC Radio Cymru Y Talwrn yn ddiweddar a'i dewis yn gerdd yr wythnos - a gallwch wrando ar y prifardd yn darllen ei gwaith yn y gystadleuaeth yma.
Meddai Mari am y gerdd: "Gydag erchylltra y rhyfeloedd sydd yn taranu ymlaen yn y byd, mae cerdd Mererid yn taro nerf; dwi'n siŵr y basa ni gyd yn hoffi medru troi'r awyrennau lladd yma yn adar mân."

Yr Archdderwydd Mererid Hopwood yn cyfarfod rhai o aelodau newydd yr Orsedd ar ddiwedd seremoni yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd
A beth am y stori ddirgelwch - sut wnaeth y tiwb gyrraedd yr ynys yn y lle cyntaf?
Fe gysylltodd Cymru Fyw gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i holi am hynny ac am yr anrheg o lyfr lliwio awyrennau rhyfel i'r ferch 20 mis oed.
Dywedodd llefarydd nad oedd perygl i neb gan fod y tiwb wedi ei chwythu i'r lan ar ollwng i'r môr bythefnos cyn y darganfyddiad, a hynny 10 milltir i'r de orllewin o'r ynys.
Ychwanegodd bod yr RAF bob tro'n dilyn rheolau llym wrth ail-lenwi tanwydd yn yr awyr ac wedi gwneud hynny cyn i'w hawyren Voyager ollwng y bibell ar ôl argyfwng.
Meddai'r llefarydd: "Cyn y rhyddhad bwriadol, cwblhawyd archwiliad gweledol a radar o ardal y môr i sicrhau nad oedd unrhyw risg i longau morol.
"Wedi hynny, taflwyd y bibell a glaniodd yn ddiogel ym Môr Iwerddon; cafodd ei chario wedyn i'r lleoliad y daethpwyd o hyd iddi gan y storm wnaeth effeithio ar yr ardal."
Wnaeth y llefarydd ddim sylw am y dewis o anrheg.
'Tro'r fighter jets yn adar mân'
Gwrandewch ar Mererid Hopwood yn cystadlu yn rhaglen Y Talwrn
https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m002dmg7
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2020