Ynys Enlli: Croeso i bererinion ers canrifoedd
- Cyhoeddwyd
Pam fod pererinion wedi eu denu gan 'heddwch dihafal' Ynys Enlli ers canrifoedd?
Mae hanes pererindodau i ogledd Cymru wedi cael cryn sylw yn yr wythnosau ddiwethaf oherwydd y rhaglen BBC1 Pilgrimage: The Road Through North Wales.
Mae'r rhaglen yn dilyn saith o wynebau adnabyddus wrth iddynt fynd ar daith sy'n olrhain pererindodau'r seintiau Celtaidd cynnar - taith sy'n eu cymryd i Ynys Enlli yn y rhaglen olaf.
Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae'r hanesydd a'r athro Gerald Morgan yn sôn am rôl y beirdd Cymraeg yn canu am bererindodau i'r ynys dros y canrifoedd.
Ers canrifoedd bu pererinion yn breuddwydio am Ynys Enlli. Eu gobaith oedd cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion trwy gael maddeuant o'u pechodau, ynghyd â chroeso mwy personol a chynnes gan y clerigwyr.
Byddai'r croeso hefyd yn cydnabod caledi eu teithiau a pheryglon croesi'r Swnt garw mewn cychod brau. Am ganrifoedd roedd y freuddwyd wedi ei phorthi gan y beirdd Cymraeg. Tua'r flwyddyn 1140 roedd Meilir Brydydd, ac yntau'n hen ŵr, yn mynnu cael ei gladdu yn Enlli:
Ynys Fair firain, ynys glan y glain,
Gwrthrych dadwyrain, ys cain ynddi.
Ond amrywiol yw'r hanesion a gedwyd inni gan y beirdd. A oedd pethau mor syml â breuddwyd Meilir? Dyma lais y bardd Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys, yn datgan ei fwriad yn syth. Fel Meilir Brydydd gynt, cael ei gladdu yn Enlli yw ei ddymuniad:
Mi a af i lunio fy medd
I'r ynys oddi ar Gwynedd;
Tir a wnaed i gael enaid glân …
Gwyddai wrth gwrs am hanes yr ugain mil o seintiau, gan enwi llawer ohonyn nhw. Credai fod pob math o fendithion ar gael yno:
Oes unlle, ynys Enlli,
Oll yn y byd well na hi?
Glân yw'r ddôl, glain ar ddolef,
Gardd a wnaeth y Gwirdduw Nef!
Rywsut, nid yw cywydd Hywel ap Dafydd yn perswadio dyn iddo fod ar yr ynys erioed. Er ei fod yn gwybod beth yw delwedd y lle a thraddodiadau'r ugain mil o seintiau, does dim sôn am ei daith bersonol. Breuddwyd yw cael ei gladdu ar Enlli, ond dyw e ddim fel petai wedi croesi'r Swnt erioed.
Agosach at y gwir yw cywydd Tomos Celli, bardd na wyddom ddim amdano heblaw'r gerdd hon. Mae'n annerch ei gyd-deithwyr yn syth:
Awn i Enlli, rhif yr ôd [eira]
O nwyf bur i nef barod.
Roedd Tomos yn llawn gobaith cyfarfod penaethiaid abaty Enlli:
Yr abad fel gleisiad glau,
Aur ei wenllaw o'r winllan,
A'r prior wrth y môr maith,
Da eu Ladin dilediaith.
Profiad chwerw
Ond yn fuan mae'r fordaith yn troi'n hunllef:
Gwaeddais i, gweddus oedd,
Rhag marw yn rhwyg y moroedd …
Ag o'r wybr, yn gaer obry,
Gwal gau o ddŵr, gweilgi ddu.
Er i Tomos oroesi, chwerw oedd ei brofiad.
Cafodd Rhys Llwyd ap Rhys ap Rhisiart brofiad gwaeth byth. Ddydd Sadwrn oedd hi, meddai Rhys, a'r cwch yn barod wrth draeth Aberdaron, a chriw bach o bechaduriaid 'run fath ag yntau'n edrych yn amheus ar y cymylau oedd wedi crynhoi uwchben.
O fewn munudau iddyn nhw gychwyn, roedd pethau'n wael arno, ac ar y cwch:
Morwyodd mawr eu duad,
Tonnau o bell tua'n bad;
Neidio o'r bad annedwydd,
A chwarae dawns - och o'r dydd.
Roedd y cwch yn rowlio fel ceffyl, ac yntau'n cuddio ei ben dan garthen. Yn sydyn, chwap:
Fe ddaeth ton talgron y dydd,
Torri'r lyw, taro'r llywydd.
Berwi arnom yn burwen,
Enill y bad o'r naill ben.
Gymaint oedd ofn pawb, nes gwaeddodd rhywun y dylid bwrw rhai o'r fintai i'r môr, a'r bardd yn cyfaddef iddo waeddi rhag ei fwrw yntau. Teimlai fwy o hiraeth am y tir 'na merch am ei meibion maeth'.
Cyn hir roedd hi'n dywyll fel bol buwch, fel na fedrai dyn weld 'na dor ei law na dir ei wlad':
Mynnwn ar ben y mynydd
Fy mod cyn dyfod y dydd.
Roedd pawb yn yr un cyflwr ofnus:
Gwaedd fawr fel gweddi a fu
A roesom ar yr Iesu -
Ac yn sydyn daeth golau dydd. O bell gwelai'r bardd Ddinas Maelor Gawr, y bryngaer uwchben Aberystwyth, ei gartref. Ond cynddrwg oedd yr olwg arno fel nad oedd neb yn ei adnabod:
Mor llesg y deuthum i'r lan,
Ni wyddai neb pwy oeddwn;
Pwy, pwy, meddynt, yw hwn.
Ond:
Cyrch i'm tref cynefin,
Cyn y nos, cawn yno win.
Eistedd gyfanedd fu i'n,
Lawlaw â Siôn Lywelyn.
Taerodd nad elai byth i Enlli oni ddelai'n nes at y tir mawr.
Profiad gwahanol eto a gafodd y bardd o Geredigion, Deio ab Ieuan Du. Rhaid ei fod wedi cael mordaith braf, heb aberthu ei gyllau i Swnt Enlli. Ond croeso salw a gafodd gan Fadog yr abad: dim cig, dim pysgodyn, dim cimwch, dim gwin - dim byd ond caws.
Felly canodd Deio awdl ddychan i'r abad - Awdl y Caws. Mewn saith deg llinell gynganeddol, arllwysodd Deio ei gynddaredd ar ben yr abad, druan. Doedd dim byd yn ei gegin ond caws, yn wir:
Pob congl o'i dŷ, pob cyngaws - oedd lawn
O laeth geifr a melgaws;
Nid oedd nen heb hufengaws,
Na chell na ba faidd a chaws.
Ei ginio Nadolig, ei saws a'i win - caws oedd y cyfan. I grynhoi:
Caws gwyn, caws melyn, caws molog - llydain,
Caws tew o laethfain, caws tylwythog;
Caws sut, caws eglur, caws mysoglog,
Caws newydd beunydd, caws sebonog,
Priddlyd caws hefyd, gaws hafog - sychgras,
Caws profadwy, glas, cas pryfedog.
Tybed beth oedd ymateb Madog?
Pererinodau heddiw
Daeth y cyfan i ben yn fuan wedi'r Diwygiad Protestannaidd; doedd dim abad ar ôl, dim prior, dim mynach, a'r eglwys yn troi'n blisgyn o gerrig moel.
Heddiw mae'n wahanol. Daw Cristnogion o bob math, wrth gwrs, ond wrth eu hochr daw credinwyr amryliw, gyda'u powlenni a'r crisialau; daw eraill i weld yr adar, i wrando caneuon y morloi ac adar drycin Manaw, i droi cefn ar y byd ac i fwynhau'r heddwch dihafal.