Hanes gemau darbis ar Ddydd San Steffan

  • Cyhoeddwyd

Yn ogystal âr holl anrhegion a'r bwydydd, mae gemau darbis pêl-droed hefyd yn draddodiad Nadoligaidd.

Ond ble ddechreuodd yr arferiad yma a beth am y darbis cofiadwy?

Yr hanesydd a sylwebydd pêl-droed Meilyr Emrys sy'n egluro...

Ffynhonnell y llun, Meilyr Emrys
Disgrifiad o’r llun,

Meilyr Emrys sy'n edrych yn ôl dros traddodiad y gemau pêl-droed lleol dros y Nadolig

Mae'n debyg mai ar ddydd Gŵyl San Steffan 1860 y cynhaliwyd y gêm bêl-droed gyntaf erioed rhwng dau wahanol glwb.

'Roedd aelodau arloesol Sheffield FC eisoes wedi bod yn cicio pêl ymysg ei gilydd ers rhai blynyddoedd erbyn hynny.

Ond gyda dyfodiad Hallam FC – ym maestref gyfagos Crosspool – galluogwyd pêl-droedwyr modern cyntaf Lloegr i esgor ar y traddodiad o gynnal gornestau lleol (neu gemau 'darbi') dros gyfnod y Nadolig.

Yn yr un modd, 'roedd dydd Gŵyl San Steffan eisoes wedi ennill ei blwyf fel dyddiad pwysig yng nghalendr pêl-droed gogledd Cymru erbyn canol yr 1880au hefyd.

Twrnamaint medal undydd Caernarfon

Ochr yn ochr â'r doreth o gemau clwb arferol oedd bellach yn cael eu chwarae yn y rhanbarth o amgylch y Nadolig, un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd ar gyfer selogion lleol y bêl gron yn ystod y cyfnod hwn oedd y twrnamaint medal undydd blynyddol a gynhaliwyd yng Nghaernarfon, ar 26ain Rhagfyr.

Byddai tyrfaoedd sylweddol yn ymgynnull ar gyfer y cystadlaethau hynny, oedd yn tueddu i ddenu nifer o dimau o dref y Cofi ei hun, ynghyd â chasgliad eclectig o gatrodau pêl-droed llai cyfarwydd, o lefydd fel Bangor, Llandudno, Pwllheli, Llanrwst a hyd yn oed Lerpwl.

Yn wir, mae'n debyg bod dros ddwy fil o bobl wedi tyrru i faes Pant ger Llanfaglan ar gyfer ymryson 1884, pan enillodd y Liverpool Cambrians y medalau, drwy drechu tîm cyntaf y Carnarvon Heroes yn y rownd derfynol.

Symudwyd lleoliad y digwyddiad Nadoligaidd blaenllaw yn agosach at ganol y dref yn nes ymlaen yn y degawd. Ond mae'n ymddangos iddo ddechrau colli ei fri a'i bwysigrwydd yn ystod blynyddoedd cyntaf y 1890au.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gemu yn cael ei chwarae ar yr Oval ar Ŵyl San Steffan yn 1888.

Tra mai dyfodiad cynghrair a chystadlaethau cwpan newydd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru oedd yn rhannol gyfrifol am hynny, pardduwyd enw da'r twrnamaint medal blynyddol gan honiadau o feddwi a chamymddwyn ymysg y dorf a heidiodd i'r cae sydd bellach yn cael ei adnabod fel yr Oval, ar Ŵyl San Steffan 1888.

Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn y Carnarvon and Denbigh Herald ychydig wythnosau yn ddiweddarach, gresynodd 'Gŵr Dirwestol' ei fod wedi 'gweld un dyn mewn cyflwr o frwysgedd bwystfilaidd', yn sgil argaeledd diodydd alcoholig o'r stondin luniaeth oedd wrth y maes chwarae.

Cytunodd y trefnwyr i beidio gwerthu gwirod yn ystod eu digwyddiadau eto. Ond ni roddodd hynny daw ar gwynion cynyddol ynglŷn â chefnogwyr chwil – yn ymddwyn mewn ffyrdd nad oedd yn gydnaws ag ysbryd y Nadolig – yn ystod y blynyddoedd canlynol.

Nadolig meddwol dau bêl-droediwr o Gaerdydd

Fel y cefnogwyr yng Nghaernarfon bron i hanner canrif ynghynt, roedd pêl-droedwyr Clapton Orient (sef Leyton Orient, erbyn heddiw) hwythau yn dioddef oherwydd sgil effeithiau alcohol ar 25ain Rhagfyr 1931.

Yn unol ag ysbryd yr ŵyl, roedd rheolwr y clwb o ddwyrain Llundain, Jimmy Seed, wedi cyflwyno casgen o gwrw yn anrheg i'w chwaraewyr, cyn iddynt wynebu Bournemouth & Boscombe Athletic yn nhrydedd haen Cynghrair Lloegr.

Ond canlyniad (anochel) hynny, oedd i bob un ohonynt – gan gynnwys y Cymry, Dai Jones a Jack Fowler – gamu i'r maes yn feddw gaib!

Wrth (drio) dwyn y diwrnod hwnnw i gof yn ddiweddarach, honnodd Ted Crawford ei fod wedi ei dal hi i'r fath raddau, nes ei fod yn baglu o amgylch y cae yn hanner dall.

Cwympodd yr ymosodwr yn swp i'r llawr yn y pen draw a gorwedd yno, tra roedd y chwarae'n parhau i fynd ymlaen o'i gwmpas! Yn rhyfeddol, dim ond o ddwy gôl i un y trechwyd y tîm o feddwon a chwblhawyd ail hanner y wyrth Nadoligaidd ar arfordir deheuol Lloegr y diwrnod canlynol: gyda'r garfan bellach wedi sobri (yn ôl pob tebyg), sicrhaodd Orient fuddugoliaeth – o gôl i ddim – yn y gêm gyfatebol, yn Dean Court.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Jack Fowler yn 1960

Gemau Darbi De Cymru

Ar 18 Ionawr 2025 fydd Caerdydd ac Abertawe yn cyfarfod nesaf. Ond mae nifer o ornestau blaenorol rhwng dau brif glwb pêl-droed de Cymru wedi cael eu cynnal dros gyfnod y Nadolig.

Yn wir, yn absenoldeb darllediadau byw ar y teledu – a gyda mwy o bobl yn rhydd i fynychu dros y gwyliau – denwyd tyrfaoedd sylweddol i ambell achlysur o'r fath, yn ystod blynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif.

Heidiodd 27,264 o gefnogwyr i'r Vetch ar noswyl Nadolig olaf y 1940au, er enghraifft: honno yw'r dorf fwyaf ar gyfer gêm rhwng yr Elyrch a'r Adar Gleision yn Abertawe hyd heddiw a chafodd y mwyafrif o'r rhai oedd yn bresennol fodd i fyw, gan iddynt weld y tîm cartref yn ennill o bum gôl i un.

Yn unol ag arfer y cyfnod, wynebodd y clybiau ei gilydd ddwywaith dros Ŵyl y Geni 1951: rhoddodd Billy Baker anrheg i'r tîm cartref ar y Vetch ar 25ain Rhagfyr, drwy sgorio i'w rwyd ei hun a chaniatáu i'r Elyrch gipio gêm gyfartal nad oeddent yn ei haeddu.

Ond gwnaeth y chwaraewr canol cae o Benrhiwceibr yn iawn am ei gamgymeriad y diwrnod wedyn, pan lwyddodd i ganfod y nod ar ben cywir y cae, wrth i'r Adar Gleision hawlio buddugoliaeth gyfforddus o dair gôl i ddim, ger bron cynulliad anferth – o dros 46,000 – ym Mharc Ninian.

Ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, 'roedd Darbi De Cymru yn elfen gyfarwydd o arlwy bêl-droed y Nadolig yn ystod y 1980au, gan i Abertawe a Chaerdydd herio ei gilydd ar bum Gŵyl San Steffan mewn chwe blynedd!

Yr Adar Gleision gafodd y gorau ar y gemau hynny, gan iddynt drechu eu cymdogion ar 26ain Rhagfyr 1983, 1985 a 1989, tra gorffennodd gornestau Nadoligaidd 1986 a 1988 yn gyfartal.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Billy Baker i'w rwyd ei hun i sicrhau gêm gyfartal rhwng Caerdydd ac Abertawe

Cynghreiriau Cymru

Ond mae'r arfer o gynnal gornestau pêl-droed lleol ar ddydd Gŵyl San Steffan yn parhau i fodoli heddiw ac adlewyrchir hynny, i raddau, gan y gemau fydd yn cael eu chwarae ym mhrif gynghreiriau Cymru ar 26ain Rhagfyr 2024.

Un o atyniadau mwyaf y dydd yn Uwchgynghrair JD fydd Cei Connah yn erbyn y Fflint – sef dau glwb sydd bellach yn rhannu'r un stadiwm, ger aber yr Afon Dyfrdwy.

Ym mhen arall y wlad, ni fydd gofyn i selogion Pen-y-bont deithio'n bell i gefnogi eu tîm, gan mai'r Barri fydd eu gwrthwynebwyr hwy, dros amser cinio.

Bydd pedair o'r wyth gêm Nadoligaidd fydd yn cael eu chwarae yn ail haen y de'r flwyddyn hon rhwng clybiau sydd wedi eu lleoli o fewn chwe milltir i'w gilydd ac yn yr un modd, bydd Airbus UK a Bwcle yn mynd benben â'i gilydd (ar y Maes Awyr, ym Mrychdyn) yng Nghynghrair y Gogledd.

Ymryson rhwng cymdogion fydd gêm Gŵyl San Steffan yn yr Wyddgrug eleni hefyd, gan mai Mynydd y Fflint fydd yn ymweld â Pharc Alyn.

Pynciau cysylltiedig