Gallai pedair ysgol gynradd yn Sir Gâr orfod cau yn 2026

Ysgol Llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Wyth disgybl oedd wedi cofrestru yn Ysgol Llansteffan yn ôl yr asesiad diweddaraf

  • Cyhoeddwyd

Fe allai pedair ysgol gynradd yn Sir Gâr orfod cau yn 2026.

Daw wedi i Bwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg ar Gyngor Sir Caerfyrddin benderfynu parhau ag ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer Ysgol Pontiets, Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro, ynghyd â chyhoeddi hysbysiad statudol ar Ysgol Llansteffan.

Bwriad y cynigion gafodd eu hadolygu gan y pwyllgor yw siapio darpariaeth ysgolion yn Sir Gaerfyrddin ymhellach.

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, Glynog Davies, y bydd y cynigion yn helpu i fynd i'r afael â'r "amgylchiadau heriol" y mae ysgolion yn eu hwynebu.

Ysgol Llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y cyngor ydy cau Ysgol Llansteffan o Awst 2026

Yn dilyn y Strategaeth Rhaglen Moderneiddio Addysg gafodd ei chymeradwyo yn Nhachwedd 2024 wedi cyfnod o ymgynghori, fe gafodd pedair ysgol eu nodi o dan yr ymarfer ailfodelu.

Roedd hynny'n dilyn asesiad yn erbyn meini prawf penodol oedd yn cynnwys ffactorau fel:

  • Niferoedd disgyblion isel;

  • Nifer uchel o lefydd gwag a nifer uchel o ddisgyblion yn byw o fewn dalgylchoedd sy'n mynychu ysgolion eraill;

  • Rhagamcanion yn awgrymu bod tebygrwydd bach o niferoedd disgyblion yn cynyddu'n sylweddol;

  • Cyllideb ddiffyg neu gyllideb diffyg rhagamcanedig o fewn y flwyddyn ariannol nesaf yn arwain at sefyllfa ariannol anghynaladwy;

  • Costau adnewyddu anghynaladwy oherwydd oedran adeiladau.

Ysgol PontietsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Er bod lle i 85 o ddisgyblion yn Ysgol Pontiets, 24 oedd wedi eu cofrestru yno

Roedd gan Ysgol Llansteffan gapasiti ar gyfer 62 o ddisgyblion yn 2024/25.

Roedd yr asesiad diweddaraf yn dangos mai wyth plentyn cofrestredig oedd yn yr ysgol.

Ond, mae rhagamcanion yn dangos y gallai fod 18 o ddisgyblion ar y gofrestr erbyn Ionawr 2030.

Y cynnig yw i gau Ysgol Llansteffan o Awst 2026 a throsglwyddo digyblion i Ysgol Llangain.

O ran y dair ysgol arall, y cynnig yw i gau ysgolion Y Fro, Meidrim a Phontiets o 31 Rhagfyr 2026.

Yr ysgol fwyaf dan sylw yw Ysgol Pontiets, sydd â lle i 85 o ddisgyblion, er mai 24 oedd wedi cofrestru adeg yr asesiad.

Er bod arian ar ben gyda Ysgol Pontiets ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae'r adroddiad yn dweud fod ganddi "orwariant sylweddol yn ystod y flwyddyn".

Byddai disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Pum Heol.

Ysgol MeidrimFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwriad i gau Ysgol Meidrim er bod dros 30 o blant wedi eu cofrestru yno

Roedd 15 plentyn ar y gofrestr yn Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn adeg yr asesiad diweddaraf, er bod lle i 41.

Cafodd yr ysgol ei rhoi mewn mesurau arbennig yn dilyn ymweliad Estyn yn Chwefror 2025, ac os y bydd yn cau, byddai disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol y Dderwen.

Yn Ysgol Meidrim mae capasiti ar gyfer 54 o ddisgyblion, ac roedd 31 ar y gofrestr ddiweddaraf.

Cafodd yr ysgol ei rhoi mewn mesurau arbennig gan estyn yn 2024.

Byddai disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Griffith Jones.

'Ceisio darparu ailfodelu cynaliadwy'

Yn ôl adroddiad i'r cyngor byddai'r arbedion refeniw blynyddol disgwyliedig ar gyfer cau'r pedair ysgol yn cyfateb i £342,064.

Y disgwyl yw y byddai'r arbedion fesul ysgol yn:

  • Llansteffan £112,399

  • Y Fro £99,522

  • Meidrim £63,229

  • Pontiets £66,914

Yn ogystal, dangosodd yr adroddiad arbedion eraill i'r cyngor o'r gostyngiad mewn gwasanaethau cymorth canolog fel adnoddau dynol, cymorth addysg ac ADY, glanhau, cynnal a chadw ac arlwyo.

Gallai adeiladau'r pedair ysgol gynhyrchu tua £695,000 i'r cyngor hefyd, yn ôl yr adroddiad, pe na bai unrhyw ddiddordeb corfforaethol na chymunedol yn eu cadw.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies wrth aelodau'r pwyllgor bod yr awdurdod wedi ystyried yr holl ffactorau a'r opsiynau, yn enwedig y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Er bod cais i ohirio'r cynigion dros bryder nad oedd llywodraethwyr Ysgol Meidrim wedi derbyn ymateb i rai pryderon a chwestiynau, gwrthod y cais wnaeth swyddog.

"Dwi yn teimlo bod y swyddogion wedi gwneud gymaint â phosib o ran ymgysylltu gyda'r ysgolion a'r gymuned", meddai.

Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies y byddai'r cynigion "yn helpu i fynd i'r afael â'r amgylchiadau heriol y mae ysgolion unigol a'r system ysgolion ehangach yn eu hwynebu, sy'n cynnwys ysgolion sy'n gweithredu gyda niferoedd disgyblion ymhell islaw eu capasiti bwriadedig a sefyllfaoedd ariannol anghynaladwy".

Yn dilyn cymeradwyaeth gan y pwyllgor craffu ddydd Mawrth, bydd cynigion yn cael eu cyflwyno i'r cabinet nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig