Rhai'n anhapus â chabinet newydd Cyngor Gwynedd

Aelodau o Gabinet newydd Cyngor GwyneddFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o Gabinet newydd Cyngor Gwynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys, wedi amddiffyn ei dewis o gabinet.

Does 'na ddim lle i un o'r pedwar aelod a wnaeth ymddiswyddo o'r cabinet ganol fis Hydref sef Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker.

Fe wnaeth y pedwar ymddiswyddo oherwydd "gwahaniaethau sylfaenol" rhyngddyn nhw a'r arweinyddiaeth ar y pryd.

Mae'r BBC yn deall bod y pedwar wedi ymgeisio am le yn y cabinet newydd.

Mae sawl ffynhonnell wedi rhannu eu hanniddigrwydd gyda'r BBC – cynghorwyr Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol.

Dywedodd un cynghorydd Plaid Cymru, sy'n dymuno aros yn ddienw: "Dwi'n meddwl ei bod yn hollol warthus nad ydy'r rhai wnaeth ymddiswyddo wedi cael lle ar y cabinet newydd.

"Ar y llaw arall," meddai, "mae'r rhai na wnaeth ymddiswyddo i gyd wedi cael cadw eu lle.

"Mae aelodau abl, doeth a deallus yn outcasts o'r cabinet," meddai'r ffynhonnell, "fel tasant wedi eu cosbi am eu safiad dewr."

'Mae'n nrws i ar agor'

Cafodd Ms Jeffreys ei hethol fel arweinydd wedi i'r cyn-arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ymddiswyddo.

Mewn ymateb dywedodd Nia Jeffreys: "Dwi'n gweithredu fel arweinydd newydd mewn ffordd gynhwysol a charedig a dwi'n parchu pawb dwi wedi cydweithio efo.

"Mae'n nrws i ar agor i bobol ddod i mewn i siarad.

"Felly dwi'n awyddus iawn i gael y sgwrs yna.

"Ond dwi yn mynd i edrych ymlaen hefyd achos dwi'n hyderus yn y tîm dwi wedi ei ddewis."

Dyfrig Siencyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dyfrig Siencyn adael ei swydd fel arweinydd Cyngor Gwynedd ganol fis Hydref

Y Cynghorydd Menna Trenholme - sydd wedi bod yn aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol y Cyngor - fydd y dirprwy arweinydd.

Dywedodd Ms Jeffreys mai "dyma'r tro cyntaf y bydd y ddwy brif swydd ar Gabinet Cyngor Gwynedd yn nwylo merched, sy'n destun balchder i mi".

Gadawodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ei swydd fel arweinydd ar ôl iddo beidio yn wreiddiol ag ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn gynharach eleni am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Wedi sylwadau Mr Siencyn mewn cyfweliad ar raglen Newyddion S4C fe ymddiswyddodd pedwar aelod o'r cabinet.

Ar ôl hynny fe ymddiheurodd y cyn-arweinydd "yn ddiffuant" i'r dioddefwyr, gan alw am ymchwiliad cyhoeddus.

Nia Jeffreys
Disgrifiad o’r llun,

Diolchodd yr arweinydd, Nia Jeffreys, i'w rhagflaenydd, Dyfrig Siencyn

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: "Wrth gadarnhau manylion y Cabinet newydd, dymunaf ddiolch o galon i fy rhagflaenydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ac i'r Cynghorwyr Dafydd Meurig, Beca Brown, Berwyn Parry Jones ac Elin Walker Jones am eu gwaith a'u hymrwymiad dros y blynyddoedd.

"Rwyf yn gwybod y byddant yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr ac adeiladol i waith y Cyngor."

Bydd aelodau'r Cabinet newydd yn ymgymryd â'u dyletswyddau o ddydd Llun, 9 Rhagfyr ymlaen.

Pwy sydd yn y cabinet?

  • Y Cynghorydd Nia Jeffreys - Arweinydd

  • Y Cynghorydd Menna Trenholme - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd

  • Y Cynghorydd Craig ab Iago - Aelod Cabinet Amgylchedd

  • Y Cynghorydd Medwyn Hughes - Aelod Cabinet Economi a Chymuned

  • Y Cynghorydd Dewi Jones - Aelod Cabinet Addysg

  • Y Cynghorydd Huw Wyn Jones - Aelod Cabinet Cyllid

  • Y Cynghorydd June Jones, Aelod Cabinet dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd

  • Y Cynghorydd Dilwyn Morgan - Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant

  • Y Cynghorydd Llio Elenid Owen - Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a Chyfreithiol

  • Y Cynghorydd Paul Rowlinson - Aelod Cabinet Tai ac Eiddo