Ethol Nia Jeffreys yn arweinydd newydd Cyngor Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Nia Jeffreys wedi ei hethol fel arweinydd newydd Cyngor Gwynedd - yr arweinydd benywaidd cyntaf yn hanes yr awdurdod.
Mewn cyfarfod brynhawn Iau, cafodd Ms Jeffreys - oedd eisoes wedi ei hethol fel arweinydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd - ei dewis i arwain y cyngor yn barhaol.
Yn y cyfamser, mae un o bedwar cyn-aelod o gabinet y cyngor Gwynedd - wnaeth ymddiswyddo wedi i'r arweinydd blaenorol gael ei feirniadu am beidio yn wreiddiol ag ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Neil Foden - wedi gwrthod enwebiad i arwain y cyngor.
Roedd y Cynghorydd Beca Brown hefyd wedi ei henwebu i'r rôl, ond fe wrthododd hi'r enwebiad.
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2024
Mae Ms Jeffreys wedi bod yn arweinydd dros dro ar Gyngor Gwynedd ers i’r cyn-arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ymddiswyddo ganol fis Hydref.
Bu Mr Siencyn yn y swydd ers 2017, ond fe wnaeth adael ei swydd ar ôl iddo beidio yn wreiddiol ag ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn gynharach eleni am gam-drin pedwar o blant yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.
Wedi sylwadau Mr Siencyn mewn cyfweliad ar raglen Newyddion S4C fe ymddiswyddodd pedwar aelod cabinet - Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker
Ar ôl hynny fe ymddiheurodd "yn ddiffuant" i'r dioddefwyr, gan alw am ymchwiliad cyhoeddus.
O fewn llai nag wythnos cadarnhaodd y byddai'n camu'n ôl o arwain grŵp Plaid Cymru y cyngor.
Mewn teyrnged dywedodd Nia Jeffreys, sy'n cynrychioli ward Dwyrain Porthmadog, fod Mr Siencyn "wastad wedi rhoi blaenoriaeth i bobl Gwynedd" drwy nodi ei waith yn arwain yr awdurdod drwy'r pandemig.
Dywedodd fod Mr Siencyn hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw yn blaenoriaethu'r iaith Gymraeg a hybu cyd-weithio rhanbarthol.
Cadarnhaodd Ms Jeffreys, wedi ei hetholiad, ei bod yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i achos Neil Foden, ei bod yn "ymddiheuro o waelod calon" i'r dioddefwyr, a'i bod am "droi pob carreg i stopio hyn rhag digwydd eto".
'Braint cael fy ethol'
Wrth gael ei hethol, ychwanegodd Ms Jeffreys mai "dim uchelgais personol" oedd wedi ei harwain i rôl yr arweinydd.
"Rwy'n hynod o falch o'r fraint o gael fy ethol yn Arweinydd Cyngor Gwynedd, ac hefyd o fod yr arweinydd benywaidd cyntaf yn hanes y cyngor hwn.
"Mae gwasanaethau cyhoeddus yn agos iawn at fy nghalon. Fel rhywun a fagwyd ar aelwyd tŷ cyngor, oedd yn derbyn cinio ysgol am ddim ac a elwodd o grant llawn i fynd i'r brifysgol, dwi'n gwybod o brofiad personol y dylanwad mae'r gwasanaethau gwerthfawr hyn yn gallu eu cael ar fywydau pobl."
Dywedodd hefyd ei bod am i'r Gymraeg "barhau fel iaith byw yn ein cymunedau" a'i bod yn edrych ymlaen "i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd gennym".
Daeth i'r amlwg fod y Cynghorydd Beca Brown hefyd wedi ei henwebu i fod yn arweinydd gan y cynghorydd annibynnol, Richard Glyn Roberts.
Roedd Ms Brown yn un o'r pedwar aelod wnaeth ymddiswyddo o gabinet Cyngor Gwynedd oherwydd sylwadau gwreiddiol Dyfrig Siencyn.
Dywedodd Mr Roberts fod "cwestiwn moesol" gan fod pedwar aelod wedi ymddiswyddo o'r cabinet ar "fater egwyddorol" gan "wneud y peth anrhydeddus".
Ond gwrthod yr enwebiad wnaeth Ms Brown - a oedd wedi dal y portffolio addysg.
O ganlyniad Nia Jeffreys oedd yr unig enw i'w roi gerbron, a chafodd ei hethol o 45 pleidlais i saith gyda naw aelod yn ymatal.