Dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 83 oed wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Ngheredigion.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ym mhentref Dre-fach, ger Llanybydder, tua 12:20 ddydd Mercher.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle, a bod y difrod i'r tŷ "yn sylweddol".
Ychwanegodd bod yr achos "ddim yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd", a bod y tân wedi ei gyfyngu i'r un tŷ.
Mae ymchwiliad yn parhau i gadarnhau sut y dechreuodd y tân, ac mae ymchwilwyr y gwasanaeth tân a Heddlu Dyfed-Powys "yn debygol o fod yn y tŷ dros y penwythnos".