Teyrnged i ddyn 'cariadus a gofalgar' fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 86 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot wedi ei ddisgrifio fel person "gofalgar" oedd "wrth galon ei gymuned".
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad y tu allan i Blancos yn ardal Sandfields y dref am tua 05:45 ar 7 Rhagfyr, yn dilyn adroddiadau fod cerddwr ei daro gan gar.
Cafodd Thomas 'Noel' Crowley ei gludo i'r ysbyty, ond bu farw o'i anafiadau ar 10 Rhagfyr.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad "nad oes geiriau i ddisgrifio'r golled".
Wedi'r gwrthdrawiad fe gafodd gyrrwr 20 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, gyrru heb drwydded a gyrru yn ddiofal, ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
'Cyfarch pawb gyda gwên'
"Roedden ni yn ei garu, ac roedden ni gyd yn falch iawn ohono," meddai'r teulu mewn datganiad.
"Roedd yn cyfarch pawb gyda gwên ac roedd gallu arbennig ganddo i wneud i bobl chwerthin. Fe wnaeth o gyflawni cymaint yn ei fywyd, ond yr anrheg gorau oedd y ffordd y roedd yn caru ac yn gofalu am eraill.
"Fe wnaeth o farw yn dawel yng nghwmni ei deulu oedd yn meddwl gymaint ohono."
Ychwanegodd y teulu ei fod wedi derbyn CBE gan y Frenhines Elizabeth am ei wasanaeth i'r gymuned leol.
Mae Heddlu'r de yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr