Galw am ostwng cyflymder rhan o ffordd brysur yng Ngwynedd

Llun o stad Bro Cymer a'r A470Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae stad Bro Cymer yn Llanelltyd, Gwynedd ger yr A470

  • Cyhoeddwyd

Mae angen gostwng terfyn cyflymder ar ran o brif ffordd yng Ngwynedd lle mae traffig yn "beryg" i bobl a phlant, yn ôl ymgyrchwyr.

Bydd ymgyrchwyr ym mhentref Llanelltyd yn cyfarfod ddydd Iau i alw ar Lywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder ar ran o'r A470 yn yr ardal.

Mae nifer o drigolion sy'n byw yn stad Bro Cymer yn y pentref yn pryderu ynghylch pa mor gyflym mae traffig yn teithio ar y ffordd ger y stad dai.

Mae'r cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn cynrychioli'r ardal hon, ac yn dweud fod y traffig yn yr ardal yn "beryg".

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ostwng y terfyn cyflymder ar y rhan hon o’r ffordd.

'Dod ar gyflymder mawr'

Wrth deithio o gyfeiriad y gogledd, mae'r A470 yn newid o fod yn 60mya i 40mya ychydig cyn cyrraedd stad Bro Cymer, ond yn ôl rhai yn lleol nid pawb sy'n cymryd sylw o'r terfyn cyflymder.

Mae Geraint Rowlands yn byw ar fferm ar gyrion y pentref, ac mae ganddo blentyn sy'n mynychu'r ysgol leol.

Dywedodd: "Mae tamed y ffordd sy'n teithio drwy ganol y pentre... mae gennych chi stretch hir o ffordd cyn cyrraedd y pentre o gyfeiriad Ganllwyd ac mae nhw'n dod ar gyflymder mawr o gyfeiriad fan'cw.

"Mae'r ffordd o'r stad dai yn llwybr tuag at yr ysgol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflymder traffig yn bryder i Geraint Rowlands ac eraill yn yr ardal

"Mae rhieni yn cerdded i'r ysgol ac yn croesi'r ffordd... ac mae'r ysgol ei hun yn cynnal gweithgareddau ac yn aml angen croesi'r ffordd... mae o'n bryder."

Dywedodd Geraint y byddai'n hoffi gweld y terfyn cyflymder yn newid i 30mya.

"Mi fyddai'n help mawr. Os yda chi'n dod o gyfeiriad y de, mae gennych chi dair cylchfan, mae dwy gylchfan yn 30mya yn barod... ond mae'r gylchfan sydd yng nghanol y pentre yn Llanelltyd dal yn 40mya ac mae na groesfannau a llwybrau ger y gylchfan honno."

Ffynhonnell y llun, bbc

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Delyth Lloyd Griffiths: "Mi yda ni isio i'r traffig yn yr ardal yma... i fynd yn arafach.

"Mae'r lleoliad, lle mae pobl yn gallu troi am y Bermo, neu fynd am y gogledd ac ar ôl y gylchfan, mae ceir yn tueddu i fynd yn gyflym iawn i fyny'r allt, ond mae 'na nifer o dai a nifer o blant yn byw yn yr ardal yna.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni angen 30mya yn yr ardal" meddai'r cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths

"Mae'r ysgol yn weddol agos, er bod 20mya yn y lleoliad lle mae'r ysgol yn addas iawn, mae'r darn yma o'r pentref lle mae pobl yn cerdded i'r ysgol yn reit beryg."

Ychwanegodd: "'Da ni angen 30mya yn yr ardal i gyd, o'r gylchfan i fyny am Bro Cymer ac allan ar y ffordd am y gogledd.

"Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn siarad gyda ni nac yn fodlon dod allan i ymweld â'r safle - y diffyg trafodaeth gyda'r llywodraeth ydi'r broblem sydd gennym ni."

'Dim cynlluniau ar hyn o bryd'

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol, dolen allanol am tua 1,516km o gefnffyrdd ar draws y wlad, sydd yn ffyrdd A, fel yr A470 ger Llanelltyd.

Mae'r llywodraeth hefyd yn gyfrifol am 178km o draffyrdd yng Nghymru.

Bydd trigolion yr ardal yn ymgynnull ger stad Bro Cymer ddydd Iau i drafod eu pryderon, ac i alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gostwng y terfyn cyflymder yno.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae diogelwch ar y ffyrdd yn fater difrifol ac rydym yn adolygu data gan yr heddlu ar ddamweiniau ffyrdd yn gyson er mwyn gweld os oes angen am fesurau ychwanegol.

“Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ostwng y terfyn cyflymder ar y rhan hon o’r ffordd, er hyn, rydym yn y broses o adolygu’r canllawiau ar derfynau cyflymder lleol.”

Pynciau cysylltiedig