Cynghrair y Cymru Premier i ehangu o 12 i 16 tîm

Chwaraewyr Caernarfon yn dathluFfynhonnell y llun, FAW/Sam Eaden
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cadarnhau y bydd nifer y timau yng nghynghrair y Cymru Premier yn cynyddu ymhen dwy flynedd.

O ddechrau tymor 2026/27 fe fydd y gynghrair yn ehangu o 12 i 16 tîm.

Fe fydd strwythur y gystadleuaeth yn newid hefyd, gyda'r gynghrair yn cael ei rhannu yn dair haen ar ôl i bob clwb chwarae ei gilydd ddwywaith.

Yn ôl pennaeth cynghreiriau domestig CBDC, Jack Sharp, y nod yw "rhoi cyfle i'n clybiau ffynnu", a "chreu cynghrair y gallai'r wlad fod yn falch ohoni".

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y gynghrair newydd yn rhannu i dair haen ar ôl i bob clwb chwarae 30 o gemau

Mae'r newidiadau yma'n rhan o strategaeth ehangach CBDC i gynyddu statws a phroffil masnachol y gynghrair, yn ogystal â denu cynulleidfaoedd mwy.

Ym mis Ebrill daeth cadarnhad o'r bwriad i gyflwyno fersiwn mwy syml o VAR - VAR Lite - yn y Cymru Premier unwaith y mae'r cyfleusterau mewn lle.

Bydd mwy o gemau yn cael eu cynnal ar nosweithiau Gwener hefyd, mewn ymgais i ddenu cefnogwyr sy'n gwylio gemau Uwch Gynghrair Lloegr a'r Bencampwriaeth ar brynhawn Sadwrn.

Beth fydd yn newid?

Bydd nifer y timau yn cynyddu o 12 i 16 o ddechrau tymor 2026/27, ac fe fydd pob tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd gartref ac oddi cartref.

Ar ôl cwblhau'r gemau hynny, fe fydd y gynghrair yn cael ei rhannu'n dair haen.

  • Y brif haen - bydd y timau sy'n gorffen yn y chwe safle uchaf yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto. Fe fydd y tîm sy'n gorffen ar y brig yn bencampwyr, a'r clybiau yn safleoedd 2-6 yn chwarae mewn gemau ail gyfle i sicrhau eu lle yn un o'r cystadlaethau Ewropeaidd.

  • Yr ail haen - bydd y clybiau sy'n gorffen yn safleoedd 7-10 yn chwarae ei gilydd unwaith eto, gyda'r tîm sy'n gorffen yn seithfed yn hawlio'r lle olaf yn y gemau ail gyfle.

  • Y drydedd haen - bydd gweddill y clybiau - sy'n gorffen yn safleoedd 11-16 - hefyd yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto. Fe fydd y ddau glwb sy'n gorffen ar waelod y tabl wedi'r gemau hynny yn disgyn o'r gynghrair. Fe fydd y clwb sy'n gorffen yn y 14eg safle yn chwarae mewn gêm ail-gyfle yn erbyn enillydd gêm ail-gyfle arall rhwng y timau a orffennodd yn ail yn y JD Cymru North a'r JD Cymru South.

Dadansoddiad

Dafydd Pritchard, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn cynllunio newidiadau ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru ers amser maith, felly mae yna obaith mawr y bydd y fformat newydd yma yn llwyddiannus.

Yn ogystal â chynyddu apêl y gystadleuaeth i gefnogwyr, noddwyr a’r cyfryngau, mae CBDC yn awyddus i wella perfformiadau clybiau Cymru yn Ewrop.

Ar hyn o bryd, dim ond cynghreiriau San Marino, Gibraltar, Andorra, Belarws a Gogledd Macedonia sydd yn is na’r Cymru Premier yn rhestr detholion UEFA o bob cynghrair yn Ewrop.

Mae’r ffaith bod y Seintiau Newydd am gystadlu yng Nghyngres UEFA eleni – y clwb dynion cyntaf erioed o Gymru i chwarae yn rownd y grwpiau – yn hwb i’r gred y gall Uwch Gynghrair Cymru godi o’r 50fed safle yn rhestr detholion UEFA.

Er bod llwyddiant y Seintiau Newydd yn Ewrop yn rhywbeth i'w ddathlu yng Nghymru, mae’r ffordd maen nhw wedi dominyddu Uwch Gynghrair Cymru dros y blynyddoedd yn broblem.

Felly un o obeithion arall y CBDC wrth gyhoeddi’r newidiadau yma fydd i wneud y gynghrair yn un mwy cystadleuol yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y Seintiau Newydd, pencampwyr presennol y Cymru Premier, yn chwarae yng Nghyngres UEFA eleni

Dywedodd Jack Sharp, pennaeth cynghreiriau domestig CBDC eu bod yn "falch iawn o fod yn gallu rhannu fformat newydd JD Cymru Premier".

"Roedd hi'n bwysig nodi strwythur a fyddai'n caniatáu i'n clybiau ffynnu, gan alluogi CBDC i weithio tuag at nodau strategaeth JD Cymru Premier a chael cynghrair y gall y wlad fod yn falch ohoni.

"Cynhaliwyd proses drylwyr yn seiliedig ar ddata er mwyn canfod y strwythur gorau.

"Roedd hi’n wych gweld ymateb cadarnhaol y clybiau wrth iddyn nhw dderbyn y fformat newydd a’r cyffro a ddaeth o’r cyfarfod diweddar gyda pherchnogion y clybiau.”

Bydd y gymdeithas yn rhyddhau rhagor o fanylion am fformat newydd JD Cymru Premier cyn dechrau tymor 2026/27.