Arestio tri wedi i gar gael ei yrru i mewn i ddyn ym Methesda

Fe ddigwyddodd y ffrae honedig rhwng pedwar o bobl ar Stryd Fawr Bethesda ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i gar gael ei yrru i mewn i berson ym Methesda.
Dywedodd yr heddlu bod adroddiadau o ffrae honedig rhwng pedwar o bobl ar y Stryd Fawr tua 13:00 ddydd Llun.
Yn fuan wedyn cafodd car ei yrru i mewn i un o'r dynion oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ac fe gafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty. Mae bellach wedi gadael yr ysbyty.
Mae dau ddyn 19 a 33 oed, a menyw 35 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maen nhw yn parhau yn y ddalfa.
Anogaeth i beidio â rhannu fideos
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Burrow: "Rydym yn ymwybodol bod lluniau sy'n peri gofid yn sgil y digwyddiad hwn yn cael eu rhannu ar-lein, a byddwn yn annog aelodau'r cyhoedd i beidio â rhannu'r fideos hyn ymhellach.
"Mae presenoldeb yr heddlu wedi cynyddu yn yr ardal ddydd Mawrth wrth i ni geisio dod o hyd i'r person arall a oedd yn cael ei amau, sydd bellach wedi cael ei arestio.
"Bydd swyddogion yn aros yn yr ardal am gyfnod er mwyn tawelu ofnau pobl leol.
"Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymholiadau gysylltu â'r heddlu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.