Cyhuddo dyn o geisio llofruddio tu allan i orsaf heddlu

Swyddogion heddlu tu allan i orsaf heddlu Tonysguboriau
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu'n ymchwilio tu allan i orsaf heddlu Tonysguboriau ddydd Sadwrn yn dilyn digwyddiad nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed o Lantrisant wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad tu allan i orsaf heddlu yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd swyddogion eu galw am 19:00 nos Gwener i adroddiadau bod dyn wedi "achosi aflonyddwch" y tu allan i'r orsaf heddlu yn Nhonysguboriau.

Bu'n rhaid i ddau o'r swyddogion gael triniaeth ysbyty cyn cael eu rhyddhau.

Mae Alexander Stephen Dighton yn wynebu chwe chyhuddiad pellach - ymosod, ymosod ar weithiwr brys, llosgi bwriadol, difrod troseddol, bod ym meddiant arf ymosodol a bod ym meddiant arf llafnog.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Llun.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones o Heddlu De Cymru: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a'r cyhoedd yn ehangach am eu cefnogaeth a'u pryder dros y swyddogion.

"Fe amlygodd ein swyddogion ddewrder mawr a meddwl cyflym yn ystod y ffrwgwd ac, er eu bod yn naturiol wedi'u hysgwyd, rwy'n falch iawn o ddweud na chafodd yr un ohonyn nhw unrhyw anafiadau difrifol."

Pynciau cysylltiedig