Dau swyddog wedi eu hanafu tu allan i orsaf heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae dau swyddog heddlu wedi eu hanafu ar ôl digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu.
Cafodd swyddogion eu galw am 19:00 ddydd Gwener i adroddiadau bod dyn wedi "achosi aflonyddwch" y tu allan i Orsaf Heddlu Tonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf, meddai Heddlu'r De.
Mae dyn wedi cael ei arestio ond mae'r heddlu'n dweud bod ymchwiliadau'n parhau ac yn annog aelodau o'r cyhoedd i osgoi'r ardal.
Dywedodd aelod o staff mewn bwyty yn agos i'r orsaf eu bod "presenoldeb heddlu enfawr" y tu allan, a bod rhaid iddyn nhw aros y tu mewn.
Roedd y ddau swyddog anafedig yn cael eu trin gan barafeddygon wedi'r digwyddiad, ychwanegodd y llu.
'Poeni bod rhywbeth difrifol wedi digwydd'
Dywedodd aelod o staff o'r bwyty La Luna, a ofynnodd i fod yn ddienw, fod yr ardal wedi'i thapio i ffwrdd a bod tua 20 o geir heddlu y tu allan.
"Rydyn ni i gyd yn iawn ond ni'n poeni bod rhywbeth difrifol wedi digwydd," meddai.
Dywedodd yr AS lleol Alex Davies-Jones, sy'n weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ei bod yn meddwl am y swyddogion a anafwyd a'u teuluoedd.
"Rwy'n dawel fy meddwl bod yr heddlu'n gwneud popeth o fewn eu gallu ac yn parhau i weithio'n ddiflino bob dydd i gadw ein cymunedau'n ddiogel," ychwanegodd, gan annog pobl i osgoi'r ardal.
Dywedodd y cynghorydd lleol Sarah Jane Davies ei bod yn deall bod y sefyllfa yn "achosi pryder" ymhlith y gymuned leol, a'i bod yn ceisio cael diweddariadau.
Anogodd bobl i osgoi'r ardal ac i "i beidio cynhyrfu ac i fod yn wyliadwrus".
Mae gorsaf yr heddlu yn agos i ganol Tonysguboriau, ac yn agos i barc siopa Tonysguboriau.
Roedd y ffordd ger yr orsaf ar gau i'r ddau gyfeiriad nos Wener.