Cyflogau is yng Nghymru yn 'cyfyngu ar gyfleoedd'

Fel trysorydd Cymdetihas Cymraeg Bryste mae Megan Marlow wedi bod yn gweithio i geisio hybu cyfleoedd i fyfyrwyr Bryste yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
"Mae dod nôl i Gymru yn bwysig iawn i fi ond dwi'n nabod nifer sy'n pryderu bod e ddim yn opsiwn gan bod mwy o arian ar gael yn Lloegr."
Dyna yw pryderon Megan Marlow wrth ymateb i ffigyrau llafur yr ONS sy'n nodi mai Cymru sydd â'r pecynnau cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig.
Wrth iddi ddechrau ar ei chyfnod mewn diwydiant, mae hi wedi cael y cyfle i ddod i weithio nôl yng Nghymru am flwyddyn.
Ond ar ôl hynny dywedodd ei bod yn bwriadu dychwelyd i Loegr i orffen ei hastudiaethau.
"Dwi'n mynd i fod yn gweithio i gwmni a fydd yn rhoi'r un cyflog i fi yma a fy nghyd-weithwyr yn Lloegr ond dwi'n gwybod bod hwnna'n beth anarferol," esboniodd Megan.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "angen bod yn ofalus iawn wrth ymdrin â ffigyrau llafur yr ONS".
'Cyfleoedd mwyaf yn y de'
Un sydd wedi cael lle ar gynllun hyfforddi i raddedigion ar draws Cymru a Lloegr yw Iwan Evans.
Yn wreiddiol o Borthmadog, bydd e'n gorffen ei radd ym Mhrifysgol Warwick haf yma.
Dywedodd fod y ffigyrau diweddaraf yn "bryder ond ddim yn syndod".
"Yn tyfu i fyny roedden i o hyd yn meddwl basa fo'n neis i allu dod adra i weithio 'nôl yng Ngwynedd ond dydy'r cyfle i ddatblygu ac i dyfu'n broffesiynol ddim yma yng Ngwynedd," meddai.
"Mae mwy o swyddi ar gael yn y sector gyhoeddus yn gyffredinol felly mae angen ffeindio ffyrdd o ddenu'r cwmnïoedd mawr o'r sector breifat i Gymru."

"Mae angen i ni annog cwmnïoedd i fanteisio ar y talent sydd yng Nghymru," meddai Iwan Evans
Yn ogystal â'r ffaith bod Cymru â'r cyflogau isaf ar gyfartaledd yn y DU, mae cyfradd diweithdra Cymru wedi cynyddu am y seithfed mis yn olynol i 5.6 y cant, sef y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae Iwan hefyd yn teimlo bod dinasoedd a threfi gogledd Cymru dan anfantais i gymharu â'r de.
"Mae'r cyfleoedd mwyaf i dyfu'n broffesiynol yn ne Cymru sydd eto tair, pedair awr i ffwrdd o lle dwi'n byw," meddai.
"Dwi'n agosach i adra trwy ffeindio gwaith yng ngogledd Lloegr fel dwi wedi gallu gwneud."
Yn ôl Iwan, er mwyn denu'r cwmnïoedd sy'n cynnig cyflogau mwy sylweddol mae angen "ystyried y diwydiannau rydyn ni am eu denu".
"I fi'n bersonol, mae angen i Gymru gynyddu buddsoddiad ym maes ynni adnewyddadwy a phwyso mewn i'r syniad o fod yn wlad werdd."
'Adnoddau ddim ar gael'

Mae Owain James wedi bod hyrwyddo cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru ers sefydlu ei fusnes Darogan yn 2018
Mae Iwan a Megan wedi bod yn gweithio gyda Darogan - cwmni sy'n hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru a gafodd ei sefydlu yn 2018 gan Owain James.
Dywedodd Owain fod sefydlu'r cwmni wedi deillio o'i brofiad personol o astudio yng Nghaerwysg a Rhydychen.
"Nes i benderfynu dod nôl i Gymru a ffeindio bod e'n anodd neud 'ny. Doedd yr adnoddau ddim ar gael i gefnogi pobl oedd am ddod nôl," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud bod myfyrwyr eraill hefyd am ddychwelyd felly dechreuodd ddatblygu gwefan i "sicrhau bod cwmnïoedd yn gweld y potensial sydd yma yng Nghymru."
"Gyda'r holl opsiynau sydd ar gael i weithio o adre a theithio i'r gwaith mae'n bosib dweud bod y ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi mynd yn fwy aneglur.
"Fe fydden ni er hyn yn amlwg yn croesawu diwydiannau sydd yn talu cyflogau uwch i ddod i Gymru."

Yn ôl Darogan mae'n bwysig edrych ar cyd-destun y ffigyrau ac ystyried hefyd bod costau byw yng Nghymru gyda'r rhai isaf yn y DU hefyd
Mewn dadl yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd yr Aelod Ceidwadol, Sam Kurtz fod y ffigyrau diweddaraf yn "siomedig".
"Nid dim ond denu'r cwmnïoedd 'mawr' sydd yn bwysig ond denu rhai o bob maint," meddai.
"Mae 'na gyfleoedd yma ond mae angen magu'r cyfleoedd a'r talent.
"Nid dim ond i wella ein diwydiannau ond er mwyn sicrhau bod pobl ifanc moyn aros yma yng Nghymru."
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "angen bod yn ofalus iawn wrth ymdrin â ffigyrau llafur yr ONS fel maen nhw wedi crybwyll eu hunain".
"Rydym yn darparu cefnogaeth i fusnesau a chyflogwyr drwy ein rhyddhad ardrethi annomestig.
"Rydym yn darparu £134m o gymorth ychwanegol eleni, ac £85m yn ychwanegol y flwyddyn nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022