Staff elusen Gymreig 'wedi'u bygwth' ar ôl i Musk rannu fideo ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae staff elusen ffoaduriaid wedi dioddef "bygythiadau i'w bywydau" ar ôl i'r biliwnydd, Elon Musk, rannu neges ar-lein yn awgrymu eu bod yn defnyddio fideos o ferched ifanc i "ddenu" ymfudwyr i'r DU.
Dywedodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) fod staff a gwirfoddolwyr wedi wynebu aflonyddu ar-lein ar ôl i hen fideo ymddangos eto ar X, Twitter gynt.
Mae'r fideo, a gafodd ei greu yn 2023 fel rhan o brosiect ysgol, yn dangos grŵp o ferched ifanc yn egluro sut mae Cymru yn wlad groesawgar i ffoaduriaid.
Dywedodd WRC eu bod yn cymryd "datganiadau ffug a difenwol o ddifrif".
Disgrifiodd Llywodraeth Cymru'r honiadau fel rhai "hollol anghyfrifol".
'Propaganda'
Yn y neges, sydd wedi'i rannu gan Mr Musk, mae'r elusen yn cael eu cyhuddo o "ddefnyddio merched 12 oed... i ddenu dynion ymfudol i ddod i Gymru".
Mae'r neges wedi cael ei gweld dros 5.5 miliwn o weithiau.
Wrth bostio ar X, cyhuddodd cyn-arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, Andrew RT Davies, weinidogion Llywodraeth Lafur Cymru o ddefnyddio plant ysgol fel "propaganda" i hyrwyddo "prosiect ideolegol".
Dywedodd Mr Davies hefyd ei fod yn "hollol amhriodol i sefydliad gwleidyddol fynd i ysgolion a defnyddio plant mewn propaganda fel hyn".
Dywedodd WRC eu bod yn y broses o gyfeirio sylwadau Mr Davies at Gomisiynydd Safonau'r Senedd.
Mewn ymateb, dywedodd Andrea Cleaver, Prif Swyddog Gweithredol WRC, fod y fideo "fyth wedi'i fwriadu fel hysbyseb i annog ymfudiad ond wedi'i rannu i ddangos positifrwydd disgyblion".
Dywedodd yr elusen fod y fideo wedi'i dynnu'n ôl yn fuan ar ôl ei gyhoeddi oherwydd "adwaith gelyniaethus" a'i fod wedi'i ddefnyddio "y tu allan i'r cyd-destun cywir".
Mae un aelod staff yn yr elusen, nad oedd eisiau cael ei enwi, wedi datgan bod y gamdriniaeth mae eu cydweithwyr wedi'i derbyn dros y dyddiau diwethaf wedi gwneud iddyn nhw'n deimlo'n "sâl".
"Mae posibilrwydd cryf y bydd yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau'r babanod, y plant, a'r menywod bregus rwy'n gweithio gyda nhw, rhai ohonynt sydd eisoes wedi bod yn ddioddefwyr troseddau casineb yn y DU," meddai.
"Mae'n gwneud i mi deimlo'n gorfforol sâl clywed bod fy nghydweithwyr wedi cael eu cam-drin ar-lein ac wedi wynebu bygythiadau i'w bywydau oherwydd y gweithredoedd hyn."
'Ton o sylwadau hiliol'
Dywedodd cydweithiwr arall eu bod yn teimlo'n "ddigalon" o ganlyniad i rai o'r negeseuon a gafodd eu derbyn.
"Mae'n tanseilio'r gwaith caled rydyn ni'n ei wneud i helpu eraill i ddechrau bywydau newydd a theimlo'n ddiogel yng Nghymru," meddai.
"Roeddwn i'n arbennig o siomedig gyda'r don o sylwadau hiliol a oedd yn targedu staff.
"Mae Cymru wedi'n croesawu ni gyda breichiau agored, gan roi'r diogelwch roeddem yn chwilio amdano."
Cafodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru eu sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl ac maen nhw'n darparu cyngor a chefnogaeth i ffoaduriaid sy'n dod i Gymru.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Cleaver y byddai'r elusen yn "annog pawb i geisio'r ffeithiau cyn rhannu neu gefnogi cynnwys anghywir".
"Byddai Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn hoffi egluro nad ni a greodd nac a gomisiynodd y fideo sy'n cylchredeg ar hyn o bryd," meddai.
"Er nad oeddem yn rhan o'i gynhyrchiad, fe wnaethom ailgyhoeddi'r post fel enghraifft gadarnhaol o bobl ifanc yn hyrwyddo negeseuon o dosturi a chynhwysiant.
"Rydym yn cymryd unrhyw ddatganiadau ffug neu ddifenwol o ddifrif ac yn gweithio'n agos gyda'r heddlu a'r awdurdodau perthnasol i fynd i'r afael â'r mater hwn.
"Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn parhau'n ddiysgog yn ein cenhadaeth i gefnogi ceiswyr noddfa a ffoaduriaid, gan feithrin dealltwriaeth a hyrwyddo cynhwysiant."
'Honiadau ffug'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r honiadau yn ymwneud â'r fideo hwn yn anghywir ac yn gwbl anghyfrifol.
"Cynhyrchwyd y fideo dan sylw gan grŵp o blant ifanc i ddangos eu hysgol fel lle croesawgar.
"Cafodd y fideo ei dynnu'n ôl yn 2023 wedi i'r ysgol dderbyn cam-drin helaeth ar-lein.
"Ni ddylai unrhyw un sy'n poeni am ddiogelwch ein pobl ifanc fod yn rhannu honiadau ffug amdanynt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd17 Awst 2021