'Y Gymraeg yn rhoi teimlad o berthyn i geiswyr lloches'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am fwy o gefnogaeth i ddysgu Cymraeg i geiswyr lloches fel rhan o ymgais Cymru i fod yn 'Wlad Noddfa'.
Yn ôl un sy'n gyfrifol am greu'r ddarpariaeth ieithyddol, mae'r cynllun yn mynd o nerth i nerth.
Wrth i Lywodraeth Cymru edrych ar sut i ddefnyddio’i grymoedd datganoledig i helpu, mae mwy o bwyslais ar rôl y Gymraeg mewn cyrsiau ar draws Cymru.
Abertawe oedd y ddinas gyntaf yng Nghymru, a'r ail yn y DU i dderbyn statws Dinas Noddfa yn 2010, ac mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gyrraedd statws 'Gwlad Noddfa'.
Prif bwrpas Dinas Noddfa yw cynnig lle diogel a chroesawgar i geiswyr lloches sydd wedi gorfod ffoi o ryfel ac erledigaeth.
Ymysg rhai ceiswyr lloches, mae'r cyfle i ddysgu Cymraeg yn rhan fawr o'r teimlad o berthyn.
Dysgodd Joseff Gnagbo y Gymraeg ar ôl symud i Gymru fel ceisiwr lloches o'r Traeth Ifori yng ngorllewin Affrica.
Mae wedi cael ei ethol yn gadeirydd y mudiad ymgyrchu, Cymdeithas yr Iaith, ac ar ôl gorffen ei radd fesitr mae'n pwysleisio pwysigrwydd cynnig cyfleoedd i ddysgu'r iaith wrth gyrraedd gwlad newydd.
Mae bellach yn cynnig gwersi Cymraeg i geiswyr lloches, ac yn awyddus i weld y llywodraeth yn cynnig "polisiau fwy cadarn" i alluogi mwy o bobl i ddysgu'r iaith.
"Does dim digon o wybodaeth i geiswyr lloches am y Gymraeg a’r defnydd o’r iaith", meddai.
"Ar y foment mae 'na feddylfryd cyffredinol mewn nifer o sectorau yn dweud bod y Gymraeg yn rhy anodd i geiswyr lloches ddysgu."
Mae Walaa Mouma o Syria yn un arall sydd wedi gwneud ymchwil helaeth yn y maes.
Ar ôl cwblhau gradd meistr yn edrych ar ddysgu Saesneg fel ail iaith, mae hi newydd ddechrau astudio doethuriaeth yn edrych ar y rhwystrau mae ceiswyr lloches yn eu hwynebu wrth ddysgu iaith yng Nghymru.
Fel athrawes Saesneg profiadol, mae'n teimlo'n angerddol dros bwysigrwydd iaith wrth integreiddio.
Nawr mae Walaa wedi dechrau mynd i ati i ddysgu Cymraeg.
"Dwi'n hoffi dysgu Cymraeg oherwydd bod e'n 'neud i fi deimlo fel fy mod i'n perthyn i Gymru.
"Er enghraifft pan dwi'n gwrando i gyhoeddiadau'r trên yn yr orsaf mae 'na debygrwydd rhwng y Gymraeg a'm mamiaith i. Mae sŵn 'ch' yn y Gymraeg yn debyg iawn i'r Arabeg sy'n gwneud i fi deimlo'n hapus."
Mae Zaina Aljumma yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gweithio i sefydliad 'Dinas Noddfa'r DU'.
Mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw drwy ei gwaith a'i hastudiaethau doethuriaeth yn edrych ar y polisïau integreiddio sydd gan awdurdodau lleol.
Fe symudodd hi i Gymru gyda'i meibion cyn y cyfnod clo ar ôl ffoi'r rhyfel yn Syria.
Ar ben ei gwaith gyda 'Dinas Noddfa'r DU' yn sicrhau bod system addysg Cymru yn cynnig croeso i geiswyr lloches, mae hi wedi bod yn frwd dros ddysgu'r iaith hefyd.
"Mae Cymru nid yn unig yn gymuned groesawgar i mi lle cefais yr hawl i ailadeiladu bywyd fy nheulu a dyma fy nghartref nawr," meddai.
"Dyna pam dwi'n teimlo mor angerddol dros siarad yr iaith yn y lle dwi'n ei alw'n gartref."
Yn Saesneg, mae cyrsiau'n bodoli i helpu siaradwyr ieithoedd eraill i gael y sgiliau iaith i fyw'n annibynnol a chael cyfleoedd gwaith ac addysg - darpariaeth English for Speakers of Other Languages (ESOL).
Bwriad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a darparwyr ESOL eraill hefyd yw sicrhau bod yr un cyfleoedd ar gael yn y Gymraeg - Welsh for Speakers of Other Languages (WSOL).
Un sydd wedi bod â rhan allweddol yn sefydlu a chreu'r ddarpariaeth Gymraeg i geiswyr lloches yw Dr Gwennan Higham, uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe.
Ond dydy'r cyfan heb fod yn broses hawdd, meddai.
"Roedd yr ymateb ar y cyfan yn eithaf negyddol, gyda pobl yn amheus bod mewnfudwyr yn gallu dysgu iaith arall yn ychwanegol i'r Saesneg", meddai.
"Beth sy'n rhyfeddol yw bod hynny wedi newid yn eithaf syfrdanol dros y blynyddoedd diwethaf.
"Yn sicr yn dilyn cynllun cenedl noddfa Llywodraeth Cymru, a'r syniad bod Cymru yn groesawgar ac yn wlad gyda dwy iaith swyddogol."
Mae Dr Gwennan Higham a nifer o arbenigwyr am bwysleisio pwysigrwydd mynediad a chyfleoedd ochr yn ochr gyda'r Saesneg.
"Mae dysgu Saesneg ynghlwm ag anghenraid bod angen iddyn nhw integreiddio a bod yn ddinesydd da tra bod gwersi Cymraeg i gyd i 'neud gyda chroesawu nhw a phwysleisio eu bod nhw'n perthyn i Gymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cefnogi’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i gyflwyno’r Gymraeg i bobl sy’n newydd i Gymru gan gynnwys gwersi am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches."