Dyn o Gaerdydd yn pledio'n euog i lofruddio tair merch yn Southport

Axel RudakubanaFfynhonnell y llun, Heddlu Glannau Mersi
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Axel Rudakubana yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc sy'n hanu o Gaerdydd wedi pledio'n euog i lofruddio tair merch mewn dosbarth dawns yn Southport y llynedd.

Fe blediodd Axel Rudakubana, 18, yn euog i lofruddiaethau Alice da Silva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech, ac Elsie Dot Stancombe, saith.

Roedden nhw ymhlith nifer oedd yn cymryd rhan mewn dosbarth ddawnsio ar thema Taylor Swift ar 29 Gorffennaf 2024.

Fe blediodd Rudakubana, oedd yn 17 oed adeg yr ymosodiad ac yn byw yn Sir Gaerhirfryn, yn euog ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Lerpwl.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elsie Dot Stancombe yn saith oed, Alice Aguiar yn naw a Bebe King yn chwech

Roedd wedi pledio'n ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn mewn gwrandawiad blaenorol.

Ond gyda'r achos ar fin dechrau, fe ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyn i'r cyhuddiadau gael eu cyflwyno i'w gleient eto.

Plediodd yn euog i dri chyhuddiad o lofruddio, 10 cyhuddiad o geisio llofruddio a dau gyhuddiad ar wahân yn ymwneud â therfysgaeth.

Roedd wedi ei gyhuddo o gynhyrchu'r gwenwyn ricin ac o fod ym meddiant deunydd hyfforddi Al-Qaeda.

Wrth bledio i'r cyhuddiadau o'r newydd ddydd Llun, atebodd yn dawel ymhob achos: "Euog".

Fel yn ei ymddangosiadau llys blaenorol, fe orchuddiodd ei wyneb yn ystod y gwrandawiad - y tro hwn gyda mwgwd PPE.

Cafodd Rudakubana ei eni yng Nghaerdydd yn 2006 cyn i'r teulu symud i bentref Banks - ychydig filltiroedd o Southport - yn 2013.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ddydd Iau.

Wedi'r digwyddiad, fe wnaeth camwybodaeth ar-lein am Rudakubana arwain at derfysgoedd ac anrhefn mewn sawl lleoliad ar draws y DU.

Cafodd tua 1,200 o bobl eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiadau hynny.

Mae dros 400 wedi cael eu cyhuddo, a degau ohonynt wedi cael eu carcharu.

Pynciau cysylltiedig