Dyn o Gaerdydd yn gwadu llofruddio tair merch yn Southport

Llun arlunydd llys o Axel Rudakubana yn ystod ei ymddangosiad llys cyntafFfynhonnell y llun, Helen Tipper
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Axel Rudakubana wrthod siarad yn y llys a bu'n rhaid i'r barnwr gyflwyno'r pledion ar ei ran

  • Cyhoeddwyd

Mae'r dyn ifanc sydd wedi ei gyhuddo o drywanu 13 o bobl mewn dosbarth ddawns yn Southport yn yr haf wedi pledio'n ddieuog mewn gwrandawiad yn Lerpwl.

Fe ymddangosodd Axel Rudakubana, sy'n 18 oed ac yn hanu o Gaerdydd, trwy gysylltiad fideo o Garchar Belmarsh ac fe wrthododd â siarad yn ystod y gwrandawiad.

Wrth i'r cyhuddiadau gael eu darllen iddo, fe gafodd ei bledion dieuog eu cyflwyno ar ei ran gan y barnwr, Mr Ustus Goose, a ddywedodd bod y diffynnydd yn "fud o falais".

Mae Mr Rudakubana wedi ei gyhuddo o lofruddio tair merch - Bebe King, oedd yn chwech oed, Elsie Dot Stancombe, oedd yn saith, ac Alice Agear, oedd yn naw.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Glannau Mersi
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Elsie Dot Stancombe, Alice da Silva Aguiar a Bebe King eu lladd yn ystod yr ymosodiad yn Southport ddiwedd Gorffennaf

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio wyth o blant eraill, a dau oedolyn, gan gynnwys arweinydd y dosbarth, Leanne Lucas.

Mae'n wynebu cyfanswm o 16 o gyhuddiadau, sydd hefyd yn cynnwys cynhyrchu'r gwenwyn ricin, a bod ym meddiant deunydd yn ymwneud â hyfforddiant y grŵp terfysgol Al Qaeda.

Yn ystod y gwrandawiad, fe siglodd y diffynnydd o ochr i ochr, gan eistedd ar brydiau gyda'i ben i lawr.

Mae disgwyl i'r achos llawn yn ei erbyn ddechrau ar 20 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig