'Dim bwriad' rhoi'r gorau i weini cinio ysgol wrth droi'n 80 oed

Mae Gillian Morris yn dweud ei bod "wrth ei bodd" yn clywed disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae dau aelod o staff cegin mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent yn dathlu eu pen-blwydd yn 80 oed fis yma.
Bydd Sonia Blanchard a Gillian Morris yn cyrraedd y garreg filltir bwysig, a does gan yr un ohonyn nhw fwriad i roi'r gorau i weini cinio ysgol i blant.
Yn ôl y ddwy, mae'r swydd yn eu cadw nhw'n "iach ac yn hapus".
Ychwanegodd y ddwy eu bod wrth eu boddau'n gweld wynebau hapus y plant a chlywed eu straeon a'u hanesion, a bod yr ysgolion lle maen nhw'n gweithio fel "un teulu mawr".

Dywedodd Sonia Blanchard ei fod yn "hyfryd gweld cenedlaethau o deuluoedd yn dod i'r ysgol"
Cafodd Gillian Morris, sy'n fam-gu, ei geni a'i magu yn Nant-y-glo ac mae'n gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg.
Cyn hynny, roedd hi'n gweini cinio yn Ysgol Gyfun Nant-y-glo.
Ar ôl 33 mlynedd yn y swydd, mae'n dweud ei bod hi'n dal i fwynhau dawnsio o amgylch y gegin a rhoi'r radio ymlaen wrth iddi baratoi'r cinio.

Mae Gillian Morris yn dweud ei bod yn "caru gweld wynebu'r plant"
A hithau'n dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed, mae'n dweud nad ydy hi eisiau rhoi'r gorau iddi gan ei bod hi'n "caru" yr hyn mae hi'n ei wneud.
"Mae'n fy nghadw i'n ffit ac yn iach," meddai.
"Mae'n rhoi gymaint o foddhad i fi, a rwy'n caru gweld wynebu'r plant a rhannu straeon a jôcs gyda nhw."
Dywedodd hefyd bod y plant wedi dysgu ychydig o Gymraeg iddi hi a'i fod "yn anhygoel eu clywed nhw'n siarad" yr iaith.

Sonia Blanchard gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Cwm
Mae Sonia Blanchard, sy'n hen fam-gu, wedi gweithio yn Ysgol Gynradd Cwm ers dros 40 mlynedd.
Mae hi a'i gŵr, Idris hefyd yn dathlu 60 mlynedd o briodas fis yma.
"Rwy wastad wedi mwynhau bod y brysur a chael amcanion, ac i fi, dod i'r gwaith yw hynny a helpu gyda fy ngor-wyrion a wyresau," meddai.
"Rwy wir yn mwynhau cwmni hyfryd y merched yn y gegin a'r plant.
"Mae wedi bod yn hyfryd gweld cenedlaethau o deuluoedd yn dod i'r ysgol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Blaenau Gwent eu bod nhw'n dymuno'r gorau i'r ddwy ac yn diolch iddyn nhw am wasanaethu plant a phobl ifanc y sir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd13 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019