'Angen darparu cinio ysgol oer i gwrdd â'r gofyn'

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych
Disgrifiad o’r llun,

Yn Ysgol Twm o'r Nant yn Sir Ddinbych, mae tua naw y cant o'r plant yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd

Fe all darparu bwyd iach, oer yn hytrach na chinio poeth helpu ysgolion oresgyn yr heriau o ymestyn prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion cynradd o fis Medi ymlaen.

Melin drafod Sefydliad Bevan sy'n dweud hynny wrth i bryderon godi nad oes gan ysgolion ddigon o staff, offer a lle i weithredu yr addewid.

Yn dilyn cytundeb rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru, bydd cynllun prydau am ddim yn cael ei ehangu i bob plentyn rhwng pedair ac 11 oed gan ddechrau'r gyda'r ieuengaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gweithio gydag ysgolion a chynghorau i "oresgyn heriau gweithredol a logisteg".

Mewn adroddiad diweddar, mae Sefydliad Bevan - corff sy'n ceisio rhoi terfyn ar dlodi ag anghydraddoldeb - wedi edrych ar yr heriau wrth gyflwyno'r polisi.

Mae nhw'n rhybuddio bod "diffyg manylion ar faint, cyflymder a'r dull" o'i weithredu yn golygu bod "nifer o gwestiynau allweddol" angen eu hateb.

Mae hynny'n cynnwys pa blant fydd yn cael prydau am ddim ym mis Medi.

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych

Rhai o'r "disgyblion ieuengaf" fydd yn elwa i ddechrau, meddai'r llywodraeth.

Mae yna ddyfalu y gall hynny gychwyn gyda dosbarthiadau derbyn cyn cael ei ymestyn i ragor o blant dros y misoedd nesaf.

Ym mis Ionawr 2021, roedd 23.8% o ddisgyblion cynradd Cymru yn gymwys am brydau ysgol am ddim.

Yr amcangyfrif ydy y bydd 180,000 o blant yn rhagor yn gymwys yn sgil yr addewid i'w ymestyn.

'Teuluoedd yn stryglo'

Disgrifiad o’r llun,

Byddai darparu cinio oer yn goresgyn nifer o heriau wrth i ysgolion cynradd orfod darparu cinio am ddim i bawb, medd Steffan Evans o Sefydliad Bevan

Mae Dr Steffan Evans, pennaeth polisi Sefydliad Bevan, yn cefnogi egwyddor y syniad ac yn dweud ei fod yn "gam positif".

Ond mae'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ganiatáu cynghorau i ddarparu prydau bwyd oer, iach mewn ysgolion lle nad yw'r cyfleusterau yn barod i ddarparu bwyd poeth.

"Yn yr hir dymor mae'n hollbwysig bod cinio twym yn rhan elfennol o'r hyn sy'n cael ei gynnig," meddai.

"Ond y tymor byr gyda chostau yn cynyddu i deuluoedd dros y misoedd nesaf mae gwneud yn siŵr bod bob plentyn yn cael bwyd yn fwy pwysig ni'n meddwl yn y tymor byr na edrych ar yr elfen [o fwyd] poeth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Pennaeth Ysgol Twm o'r Nant, Dafydd Elgan Davies, ei fod yn ymwybodol bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd

Yn Ysgol Twm o'r Nant yn Sir Ddinbych, mae tua 9% o'r plant yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd.

Yn ôl y pennaeth, Dafydd Elgan Davies, bydd y disgyblion yn elwa o dderbyn pryd maethlon.

Dywedodd: "Da ni'n ymwybodol o deuluoedd sydd yn stryglo [ar hyn o bryd] ac sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd ac ella jyst uwch ben y trothwy cinio ysgol arferol."

Staffio?

Bydd cegin yr ysgol yn cael offer a phoptai newydd. Mae'r cyngor sir hefyd wedi cyflwyno bwydlen newydd sy'n "iachus" ac yn "haws i'w goginio", meddai'r prif gogydd Jane Jones, cyn-Gogydd Ysgol y Flwyddyn Cymru.

Ond mae hi'n cydnabod y gall diffyg staff fod yn broblem.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n mwynhau coginio ac yn fodlon gweithio oriau ychwanegol," medd Jane Jones, cyn-Gogydd Ysgol y Flwyddyn Cymru

"Mae o yn bryderus," meddai. "Dwi yn gweld lot o lefydd sydd yn gweini bwyd yn stryglo efo staff ond dwi'n gobeithio bydd rhywun eisiau dod i weithio efo ni yn Sir Ddinbych."

Ond beth am oriau hirach posib i staff y gegin?

"Mae hynny'n fine," ychwanegodd. "Dwi wrth fy modd yn coginio felly mae awr neu ddwy yn ychwanegol yn iawn."

Ysgolion angen addasu

Yn ôl awdurdodau lleol, mae cannoedd o ysgolion cynradd angen offer newydd i ddarparu prydau a rhai angen estyniad i'w ceginau presennol.

Mae pob un - oni bai am chwech - o ysgolion cynradd Abertawe angen eu huwchraddio neu gael estyniad.

O 73 o ysgolion cynradd Caerffili, mae dwy angen estyniad, pedair angen gwaith "cymedrol" a 65 angen "offer trwm ychwanegol".

Yn ôl Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru sy'n cynrychioli prifathrawon, mae yna gefnogaeth i ymestyn y cynllun.

Ond mae hi'n dweud bod "angen bod yn realistig" am yr heriau, sy'n cynnwys isadeiledd, y gadwyn fwyd a chyllido hirdymor.

Mae Llywodraeth Cymru yn addo y bydd pob disgybl cynradd yn gallu cael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

Mae yna £225m ar gael i gefnogi cynghorau wrth ei weithredu, meddai, fel eu bod nhw'n gallu darparu "pryd iach o safon i bob disgybl".

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng ei ddarparu gyda'r gallu sydd gan awdurdodau lleol ac ysgolion i sefydlu'r isadeiledd angenrheidiol i roi safon a gofal, a sicrhau bod y derbynyddion presennol ddim dan anfantais.

"Fe fyddwn yn gwneud datganiad pellach ynghylch ei gyflwyno yn fuan."