Ymchwiliad i ymddygiad aelodau carfan rygbi dan-20 Cymru yn yr Eidal

Roedd y garfan yn aros yn Hotel Capital yn Rovigo tra'n cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Byd dan-20
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn honiad bod rhai aelodau o garfan rygbi dan-20 Cymru wedi achosi difrod mewn gwesty yn yr Eidal.
Roedd y garfan yn Hotel Capital yn Rovigo ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi'r Byd dan-20 dros y mis diwethaf.
Yn ôl y gwesty fe ddaethon nhw o hyd i dyllau yn waliau'r ystafelloedd roedd y garfan yn aros ynddynt, yn ogystal â chloeon wedi torri ar rai drysau a difrod i feiciau oedd yn eiddo i'r gwesty.
Dywedodd y gwesty hefyd fod y grŵp wedi bod yn "amharchus", gan gerdded o gwmpas heb dopiau a throwsus o flaen gwesteion eraill a chwarae cerddoriaeth uchel tan yn hwyr.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r mater".
'Byddwn yn ymateb yn y modd priodol'
Mae adroddiadau yn y cyfryngau Eidalaidd hefyd yn awgrymu bod rhai aelodau o'r tîm wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol tra'n yfed mewn gŵyl yn y dref ar ôl y gêm derfynol - gan redeg o gwmpas, bod yn swnllyd a rhedeg ar y llwyfan.
Fe orffennodd y garfan y twrnament yn Rovigo - dinas i'r de o Venice - yn yr 8fed safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau ac yn ymchwilio i'r mater.
"Byddwn yn ymateb yn y modd priodol pan fyddwn yn gwybod holl ffeithiau'r sefyllfa."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.