Chwaraewr rygbi addawol a gafodd anaf ymennydd yn cynrychioli Cymru

Jak Powles a'i dad sy'n chwarae ochr yn ochr ag ef yng Ngwpan y Byd categori gallu cymysg
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi brwd a gafodd niwed i'w ymennydd a'i olwg ar ôl iddo gael ei daro oddi ar ei feic yn credu y gallai ennill Cwpan y Byd yn fuan.
Mae Jak Powles, 35, yn chwarae i dîm Port Talbot Panthers a bydd hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Rygbi Gallu Cymysg Rhyngwladol sy'n dechrau yn Sbaen yr wythnos nesaf.
"Mae bod yn ôl yn chwarae rygbi eto yn anhygoel ar ôl yr hyn rydw i wedi bod drwyddo," meddai.
"Ac mae cael cyfle i fynd i Gwpan y Byd yn wych."

Cyn ei ddamwain roedd Jak yn chwaraewr rygbi addawol iawn
Treuliodd Jak bum mis a hanner yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei daro gan gar wrth feicio i'r ysgol pan oedd yn 15 oed.
Dywedodd ei deulu ei fod bron â marw, a bod yn rhaid iddo ddysgu cerdded a siarad eto.
Yn ei arddegau, chwaraeodd Jak rygbi i'w ysgol, sef Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Enillodd gap dan 15 oed hefyd i dîm rygbi'r gynghrair Cymru, yn ogystal â threialu i dîm Prydain Fawr yn St Helens.
"Roedd Jak yn chwaraewr rygbi da iawn ac roedd wrth ei fodd yn chwarae'r gêm a phan gafodd hynny ei gymryd oddi arno ugain mlynedd yn ôl, doedden ni ddim yn meddwl y byddai'n gallu chwarae rygbi eto," meddai ei dad, Carl.
"Ond saith mlynedd yn ôl cawsom y cyfle i ddechrau'r tîm hwn, Port Talbot Panthers, ac mae wedi gwneud llawer o les i Jak a fi."

Mae Carl yn disgrifio'i hun fel "llygaid Jak" wrth i'r ddau chwarae i Port Talbot Panthers
Mae Carl bellach yn chwarae ochr yn ochr â'i fab, ac eglurodd ei rôl ar y cae fel "llygaid Jak".
"Rwy'n gweithredu fel hwylusydd," meddai.
"Gallaf ei ddal a rhoi'r bêl i Jak sy'n rhedeg i mewn i dacl, ond oherwydd anaf i'w ymennydd mae Jak dim ond yn cael 'tacl cwtch', lle mae'n mynd i'r llawr ac yn rhyddhau'r bêl. Mae'n gweithio'n dda."
Mae Jak yn chwarae safle'r bachwr ac mi fydd yn un 1,500 o chwaraewyr fydd yn cymryd rhan.
Does dim cystadlu yn y sgrymiau ond er gwaethaf y nam ar ei olwg bydd Jak yn taflu'r bêl i'r linell fel bachwr.
Dywedodd Carl bod rhai bechgyn wedi dechrau gyda nhw "heb unrhyw hyder" cyn esbonio eu bod y "gweld eu hyder yn dod yn ôl" a'i fod yn "newid bywydau".

Mae Jak yn dweud bod rygbi wedi helpu yn gymdeithasol
Bydd pedwerydd Twrnamaint Rygbi Gallu Cymysg Rhyngwladol, sy'n cael ei alw hefyd yn Gwpan y Byd gallu cymysg, yn dechrau ar 23 Mehefin yn Pamplona yn Sbaen.
Dechreuodd y gystadleuaeth 10 mlynedd yn ôl yn Bradford yn 2015 ac mae wedi tyfu ers hynny.
Bydd 32 o dimau o 22 o wledydd yn cystadlu, gan gynnwys pedwar o Gymru.
Bydd y Swansea Gladiators a'r Llanelli Warriors, yn ymuno â'r Port Talbot Panthers yn nhwrnamaint y dynion, tra bydd Merched Cymru yn nhwrnamaint y menywod.
Bydd y rowndiau terfynol yn digwydd ar 27 Mehefin, gyda mwy na 70 o gemau wedi'u trefnu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024