Ben Pritchard: Goroesi damwain a dod yn seren rhwyfo
- Cyhoeddwyd
Yn 2016 cafodd Benjamin Pritchard ddamwain tra roedd yn seiclo, ac o ganlyniad fe gollodd y defnydd o'i goesau.
Cyn y ddamwain roedd Ben yn ddyn hynod o heini, yn nofio a seiclo'n aml, ac wedi cystadlu mewn sawl triathlon.
Bellach yn 32 oed mae Ben ym Mharis yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn y categori rhwyfo Single Sculls - PR1M1x.
Siaradodd aelodau o deulu Ben gyda Gohebydd Chwaraeon Newyddion S4C, Lowri Roberts.
Yn y cyfnod cynnar wedi'r ddamwain, roedd Ben yn ei gweld hi'n anodd ymdopi gyda'i anafiadau, yn enwedig o ystyried y ffaith bod ei ddiddordebau'n rhai corfforol iawn.
Tra'n gwella o'i anafiadau fe welodd Ben y campau yng Ngemau Paralympaidd Rio 2016, a gosod her i'w hun.
“Ni gyd yn falch iawn bod e mas ‘ma yn Paralympics", meddai Megan, gwraig Ben.
"Odd e wedi mynd i Tokyo (2021) ond dwi’n credu bod hwn dipyn bach mwy sbesial achos doedd e ddim yn disgwyl mynd i Tokyo – pan ddechreuodd rwyfo y nôd oedd Paris 2024."
Yn ystod gemau Paralympaidd Tokyo roedd rheolau llym ynglŷn ag ymbellhau, oherwydd Covid-19, fel esboniai Megan.
“Mae’n edrych 'mlaen i weld ni ar ôl y ras y tro hyn – odd e 'di dweud odd e bach yn unig ar ôl y ras yn Tokyo, ble roedd e heb wneud mor dda ag odd e’n obeithio, ac roedd neb yna o’i amgylch e i helpu fe.
“Nawr, os mae’n gwneud yn dda, neu os ma' fe’n siomedig gyda’r canlyniad, bydde ni yna iddo fe – fydd e’n rili falch bo’ ni mas ‘ma.”
Tydi Megan heb gael llawer o gyfle i gefnogi Ben tra mae o'n rasio, ac pan mae'n ymarfer mae'n aml oddi cartref.
“Dydyn ni heb rili ei weld e'n ddiweddar - dim ond un diwrnod mae e wedi cael off ym mis Awst i gyd!
“Dydyn ni ddim yn cael gweld e’n cystadlu yn aml – dim ond un waith dwi wedi bod yn yr eisteddle yn gweld o’n cystadlu, felly mi fydd y gemau yma’n sbesial, a’r tro hyn bydd babi gyda ni yn y stand yn crïo!"
Elaine Jones yw mam Megan, ac mam yng nghyfraith Ben.
“Ni’n gyffrous iawn, mae tua 50 o ni 'ma ym Mharis i gyd – teulu Ben, teulu Megan a ffrindie, a ni yma gyda’r ddraig goch.
“Mae Ben wedi gweithio mor galed. Odd e’n gorwedd yn ei wely yn Ysbyty Stoke Mandeville yn edrych ar y teledu ar y gemau Paralympaidd a meddwl un dydd falle bydde fe yma, a mae e wedi cyrraedd ‘ma, a ni mor falch bod e ‘ma."
"Mae e’n haeddu medal", meddai Elaine, "achos ni’n gwybod fel teulu pa mor galed ma fe ‘di gweithio, a whare teg i Megan ma’ babi newydd ‘da nhw, a dydi Megan heb weld llawer o fe dros y flwyddyn d’wetha’ achos ma’ fe wastad yn ymarfer, yn Caversham neu rhywle arall yn Ewrop.
“Mae’r cystadleuwyr i gyd yn haeddu ennill wrth gwrs, ond yn amlwg ni moyn Ben i gael medal.
“Ni gyd yn mynd yn nerfus, yn enwedig Megan, achos dydi o ddim yn achlysur arferol, ond ni’n gobeithio’n fawr y ceith Ben fedal.”
Mae cystadleuaeth Ben yn argoeli i fod yn un hynod o agos, gyda pump neu chwech o rwyfwyr â siawns cryf o ennill medal.
“Mae e’n gobeithio cael medal, felly croesi bysedd bydd e yn y tri uchaf", meddai Megan.
“Mewn un ras bydd un yn ennill, ac efallai mewn ras arall bydd rhywun arall yn ennill, felly mae’n anodd gwybod pwy fydd yn gorffen ar y brig."
Yn ôl Megan mae rhwyfo wedi helpu Ben yn fawr i ymdopi gyda'i fywyd newydd yn dilyn y ddamwain.
“Cyn iddo gael y ddamwain ‘na oedd e’n gwneud lot o wahanol chwaraeon, yn seiclo ac yn nofio, mae chwaraeon wastad wedi bod yn bwysig iddo fe, ac mae rhwyfo wedi ei helpu i ddelio gyda’r ddamwain gafodd e.
“Ni mor prowd ohono fe. Mae popeth ers cael y ddamwain ‘na yn 2016 wedi bod yn arwain at y penwythnos hyn."
Cawn wybod dros y ddyddiau nesaf a fydd holl waith caled Ben yn dwyn ffrwyth, ac os all ddathlu gan ddod â medal yn ôl i Gymru.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Awst 2024
- Cyhoeddwyd25 Awst 2024