Mwy o swyddi na'r disgwyl yn y fantol yn Y Drenewydd
- Cyhoeddwyd
Fe allai 65 o swyddi gael eu colli mewn ffatri yn y canolbarth, yn ychwanegol i'r 100 o ddiswyddiadau a gafodd eu cyhoeddi yn gynharach eleni.
Mae cwmni o'r Drenewydd - Nidec Drives - yn cynnig ailstrwythuro ei lefelau staffio yn y dref, sy'n golygu y gallai swyddi gael eu colli.
Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cyflogi 636 o bobl ar y safle.
Yn ôl y Nidec mae’r toriadau oherwydd "ansicrwydd yn y farchnad fyd-eang".
Maen nhw'n dweud y bydd gan rai staff y cyfle i adleoli i rolau eraill o fewn y cwmni.
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2024
Cafodd y cwmni - KTK oedd ei enw gwreiddiol - ei sefydlu yn Y Drenewydd ym 1973.
Ym 1979 symudodd y cwmni i safle mwy yn y dref ar ôl cael cynnig ffatri di-rent gan Gorfforaeth Datblygu Canolbarth Cymru.
Erbyn 2017 ymunodd Control Techniques â chorfforaeth Nidec o Japan sy'n gweithredu mewn mwy na 40 o wledydd.
Mae pencadlys y cwmni yn dal i fod yn Y Drenewydd lle mae bellach yn cyflogi 636 o bobl ar ddau safle, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr sector preifat mwyaf y canolbarth.
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y cwmni bod yn rhaid iddo wneud newidiadau i'w weithlu yn Y Drenewydd, a allai arwain at golli hyd at 98 o swyddi.
'Amodau ansicr y farchnad fyd-eang'
Mewn datganiad dywedodd y cwmni bod y newid arfaethedig oherwydd "amodau ansicr y farchnad fyd-eang a'r amgylchedd busnes heriol sy'n deillio o hynny".
Ychwanegwyd eu bod nhw wedi ymrwymo i fod yn "gyflogwr allweddol yn y rhanbarth" a bydd unrhyw benderfyniad ailstrwythuro "yn cael ei wneud gyda’r flaenoriaeth yma mewn golwg".