Sylwadau Andrew Marr am Aeleg Yr Alban 'ddim yn sioc'
- Cyhoeddwyd
Mewn sgwrs banel yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl yn ddiweddar fe ddywedodd cyn-ddarlledwr y BBC, Andrew Marr, bod arwyddion dwyieithog (Gaeleg a Saesneg) yn "annymunol" ac yn "wirion".
"I find it equally offensive that all sorts of parts of Scotland, which have never been Gaelic, have never had Scots spoken [have Gaelic signs]," meddai Marr.
"Why does Haymarket have to have the Gaelic for Haymarket under it? It’s ridiculous.
“The Scots are made up of many different peoples historically.
“Many different groups of people have come to Scotland and they brought different languages and I think we should let languages rest and prosper where they come from.”
Ymddiheuro am y sylwadau
Mae Marr bellach wedi dweud ar X (Twitter gynt) fod ei sylwadau am yr iaith Aeleg yn "gwbl anghywir", a'i fod wedi gwrando ar farn eraill ar y mater.
Mae Gaeleg Yr Alban yn hen iaith o gangen Goedelaidd yr ieithoedd Celtaidd (ynghyd â'r Wyddeleg a Manaweg), ac mae'r Gymraeg wrth gwrs, gyda Llydaweg a Chernyweg, yn perthyn i gangen Frythonaidd o'r ieithoedd Celtaidd.
Ond beth yw sefyllfa Gaeleg ar hyn o bryd? Ac a oes llawer o bobl heddiw ag agwedd debyg i'r hyn a ddywedodd Marr yn ei sylwadau gwreiddiol?
Sylwadau 'ddim yn sioc'
Dòmhnall MacNèill yw prif weithredwr Ceannard Chomunn na Gàidhlig - Bwrdd yr Aeleg, sef corff rheoli iaith sy'n gwarchod a hyrwyddo Gaeleg yr Alban ac sy'n cydweithio â Llywodraeth Yr Alban.
Yn cyfeirio at sylwadau Mr Marr, dywed Mr Macnèill: “I fod yn onest doedd o ddim yn sioc i ddarllen am ei sylwadau, mae ‘na hen hanes o ‘selebs’ efo barn debyg am yr iaith.
"Bysa’n hawdd dweud mai anwybodaeth ydi hyn, ond mae pobl yn teimlo’n hollol rydd i ddweud pethau negyddol am Aeleg heb unrhyw wybodaeth o’r pwnc. Falle fydda rywun wedi disgwyl i newyddiadurwr uchel ei barch wybod yn well, ond yn amlwg ddim."
Mae Mr MacNèill yn dweud bod sarhau'r Aeleg yn parhau i fod yn dderbyniol, ble tydi hyn ddim bellach yn wir wrth drafod lleiafrifoedd eraill.
“Efallai eich bod wedi clywed am y ‘bingo gwrth-Aeleg’? Gêm ble rydyn ni’n clywed sylwadau yn erbyn yr iaith: ‘Doedd o ddim yn cael ei siarad yma’, ‘does ‘na ddim ffurf ysgrifenedig o’r iaith’, ‘does ‘na ddim gair am (rhyw air randym)’, ‘mae gormod o arian yn cael ei wario arno’, ‘mae’n cael ei stwffio lawr ein gyddfau’ ayyb…
"Mae’n ddigalon pa mor aml mae'r rhain yn dod i’r wyneb, a dydi sylwadau Mr Marr felly ddim yn newydd.
“Dwi’n meddwl bod 'na ddiffyg dealltwriaeth o'r Aeleg, ac mae wedi mynd yn rhy hawdd i ymosod arni. Gellir defnyddio geirfa yn erbyn Gaeleg a fyddai’n gwbl annerbyniol i ddisgrifio dwsin o grwpiau eraill ar sail ethnigrwydd a hil, neu ryw a rhywioldeb gwahanol.
“Mae’r ddadl yma ‘cafodd Gaeleg erioed ei siarad yn y rhan yma o’r Alban’ yn gelwyddau, ac mae’n bosib profi hyn ond drwy edrych ar y map. Mae gymaint o enwau llefydd ledled Yr Alban sy’n dod o’r Aeleg, ac mae hyn yn rhoi presenoldeb i’r iaith ym mywydau pobl heb iddyn nhw ddeall.”
'Darlun cymysg' Gaeleg
Faint o siaradwyr Gaeleg sydd yn Yr Alban heddiw?
"Mae cyfrifiad 2022 yn rhoi darlun eithaf cymysg a dadleuol," meddai Dòmhnall MacNèill.
"O’r edrychiad cyntaf mae’r ffigyrau 2022 yn galonogol – 72,000 yn siarad Gaeleg, i fyny o 59,000 o’r ffigyrau dwetha’. Ond efallai bod hyn ychydig yn gamarweiniol gan fod y cwestiwn yn gofyn a oes ‘unrhyw allu o’r Aeleg’.
"Roedd astudiaeth gan uned Soillse yn dweud mai ond 11,000 o siaradwyr Gaeleg sy’n defnyddio’r iaith yn ddyddiol, ond does dim ffordd bendant o gael ffigyrau dibynadwy.
"Un man ble roedd y cyfrifiad diweddar yn gywir yn anffodus yw bod y niferoedd o siaradwyr yn y mannau traddodiadol yn Ucheldiroedd y gogledd-orllewin wedi gostwng, yn enwedig yn Ynysoedd Allanol Heledd (yr Outer Hebridies).
"Yn ôl cyfrifiad 2022 mae’r niferoedd sy’n siarad Gaeleg wedi disgyn o dan 50% am y tro cyntaf. Felly'r darlun ar y funud yw bod mwy o bobl ifanc efo ‘gallu o’r Aeleg’ yn Glasgow a Chaeredin, ond bod y niferoedd yn gostwng ymysg y siaradwyr hŷn iaith gyntaf."
Felly pam bod yr Aeleg mewn sefyllfa betrusgar heddiw?
“Mae dirywiad wedi bod ers y 1100au. Roedd gormes ar ein diwylliant yn yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd (ac felly Gaeleg) yn sgil yr anghydfod rhwng y Catholigion a'r Protestaniaid yn y 1600au, ac fe wnaeth hyn waethygu wedi gwrthryfeloedd y Jacobites yn 1745.
“O ddiwedd yr 1700au tan ddiwedd yr 1800au roedd ‘na ‘gliriadau’ economaidd gyda landlordiaid yn taflu pobl oddi ar y tir, ac roedd y sefydliad Seisnig mor bwerus hefyd. Roedd y ffactorau yma i gyd, drwy ddamwain neu gynllun, yn cyfuno i wanhau ac ymylu cadarnleoedd Gaeleg yn y ngogledd-orllewin Yr Alban.
“Yn fwy diweddar, pan sefydlwyd addysg gyffredinol (1870au) cafodd Gaeleg ei hanwybyddu o’r ddeddf gyntaf. Cywirwyd hyn i raddau rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ond roedd y difrod wedi ei wneud i raddau helaeth."
'Bogey man' hynafol
Dywed Mr MacNèill bod agweddau tebyg yn hanes Gaeleg i'r hyn ddigwyddodd i'r Gymraeg a'r Wyddeleg.
"Hyd yn oed yn fwy diweddar roedd plant yn cael y belt neu'r gansen yn y dosbarth am siarad Gaeleg yn hytrach na Saesneg.
"Gellir dadlau bod Gaeleg yn cael ei gweld fel rhyw fath o bogey man hynafol, rhywbeth y tu hwnt i adnabyddiaeth y rhan fwyaf o Albanwyr, ac felly’n rhywbeth anghyfforddus – roedd hyn yn golygu bod ‘na wrthwynebiad gweithredol i’r iaith.”
“Mae ’na lawer o resymau economaidd sy’n chwarae rhan bwysig i esbonio pam bod yr iaith mewn sefyllfa anodd heddiw," meddai Mr MacNèill.
"Mae angen cymuned ar unrhyw iaith i’w siarad, ac mae Ynysoedd y Gorllewin, Ynysoedd Argyll a’r Ucheldiroedd ehangach oll dan bwysau economaidd. Mae diffyg buddsoddiad mewn seilwaith, llai o swyddi a chysylltiadau fferi ac awyr ofnadwy o ddrud ayyb.
"Yn ddiweddar comisiynodd Llywodraeth Yr Alban adroddiad ar y sefyllfa a’r ‘cyfleoedd’ ar gyfer Gaeleg ac mae'n ddadansoddiad eithaf cynhwysfawr o'r holl heriau."
“Nid rhaniad gogledd a de sydd yn Yr Alban o ran Gaeleg," meddai Mr MacNèill, "ond gogledd orllewin a'r de ddwyrain. Oherwydd y ffactorau dwi wedi ei drafod eisoes, yr her i’r siaradwyr Gaeleg yw i fodoli o gwbl ar hyn o bryd, ac mae cael swydd dda a chysylltiadau fferi gwell yn cymryd blaenoriaeth.
“Mae’r cymunedau hyn hefyd yn dioddef o ambell beth fyddech chi yng Nghymru’n ei nabod – tai yn cael eu prynu gan fewnfudwyr di-Gaeleg, a thai yn cael eu prynu fel ail gartrefi neu i'r farchnad rhentu twristiaeth."
Cymharu sefyllfaoedd Gaeleg â'r Gymraeg
Sut mae sefyllfaoedd y Gymraeg a'r Aeleg yn cymharu?
"Mae’n anodd gwneud cymariaethau rhwng Yr Alban a Chymru, gan fod y fframweithiau daearyddol, cymunedol a chyfreithiol mor wahanol," meddai Dòmhnall MacNèill.
“Dwi’n deall bod cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru’n wael, ond o’i gymharu â pha mor ar wasgar mae siaradwyr Gaeleg yr Alban, mae’n haws! Un darn o dir yw Cymru mwy neu lai, nid degau o ynysoedd gyda arfordir sy'n mynd rownd llynnoedd hir a môr - dydy'r Aeleg ddim mewn canolfannau ble roedd diwydiant.
"Ac wrth gwrs mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol iawn, sy’n neidio dros y drafodaeth ‘pam ydyn ni hyd yn oed yn gwneud hyn?’ 'dan ni’n ei gael yn Yr Alban.
"Rwy’n meddwl y gallwn ni ddysgu o’r Gymraeg mewn ystyr uniongyrchol a phragmatig – yn enwedig mewn perthynas â gwaith ieuenctid a strwythurau, ond eto mae’r cyd-destunau mor wahanol."
All Gymru ddysgu rhywbeth am sut i warchod iaith gan Yr Alban?
"Byddwn yn synnu pe bai llawer y gall y Gymraeg ei ddysgu o’r Aeleg," meddai Mr MacNèill.
Gwahaniaeth mewn cyllideb
"Yn 2009, fi oedd yn gyfrifol am geisio datblygu mentrau iaith Gaeleg, yn seiliedig yn agos ar y Mentrau Iaith Cymru," meddai Mr MacNèill.
"Cafodd naw o feysydd eu nodi. Roedd gan bob un o'r rhain un swyddog, bron i gyd yn gweithio rhan-amser, a chyllideb flynyddol o £5,000 bryd hynny i hyrwyddo Gaeleg (wedi gostwng i £2,000 bellach).
"Ar yr un pryd, os yw fy nghof i'n iawn, roedd gan Menter Iaith Conwy staff o 25 a chyllideb o dros £5miliwn. Roedd un Menter Iaith yng Nghymru yn cael mwy na Bòrd na Gàidhlig – y corff llywodraethol cyfatebol yn Yr Alban. Mae’r adnoddau a blaenoriaethau gwleidyddol mor wahanol."
Er yr heriau sy'n wynebu'r iaith, mae Dòmhnall MacNèill yn hyderus y gall bod dyfodol disglair i'r iaith.
"Bydd strategaeth newydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2026. Bydden ni’n edrych i weld sut mae cryfhau Gaeleg pobl sydd wedi cael addysg drwy’r iaith, gan anelu at bobl ifanc yn benodol a chynyddu’r cyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio’r iaith tu hwnt i dir yr ysgol ac fe fydd angen mwy o adnoddau.
"Rwy'n meddwl ei bod hi'n bosib bod yn optimistaidd. Mae’n bosib gweld strwythurau a systemau a fyddai'n arfogi dysgwyr Gaeleg ifanc yn well, ac rwy’n siŵr fod hi’n bosib cryfhau amgylchiadau economaidd gogledd orllewin yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd Gorllewinol i gefnogi’r iaith yn yr ardaloedd hyn.
"Rwy'n meddwl y gellir ei wneud - peth arall yw a gawn ni'r gefnogaeth wleidyddol a’r buddsoddiad."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd4 Hydref
- Cyhoeddwyd12 Awst 2023