Carcharu dyn am dros chwe blynedd am ymosod ar heddwas

Fe dreuliodd PC Attwell ddyddiau yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad arno
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar ar ôl iddo ymosod ar heddwas a'i guro o leiaf 12 o weithiau, gan achosi niwed a adawodd y swyddog yn yr ysbyty.
Roedd PC Nathan Attwell yn ymateb i ddigwyddiad yng Nghwmbrân ar 20 Rhagfyr 2024 pan wnaeth Richard Nodwell, 37, ymosod arno.
Fe wnaeth Nodwell barhau i ymosod, gan ddefnyddio'i ddyrnau i daro wyneb a phen y swyddog dro ar ôl tro, yna ei gicio cyn cerdded i ffwrdd.
Pan gyrhaeddodd swyddogion eraill ac arestio Nodwell, roedd yn parhau i fod yn ymosodol gan boeri ar law un o'r swyddogion a brathu esgid y llall.
'Fy nheulu yn poeni amdanaf'
Fe dreuliodd PC Attwell, a oedd gyda'i deulu a'i gyd-weithiwyr yn y llys ddydd Mawrth, ddyddiau yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol i'w wyneb gan gynnwys niwed i'w lygaid, ei foch a'i drwyn.
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd PC Attwell ei fod "yn ofni mynd i gysgu [y diwrnod y daeth adref] rhag ofn y bydd rhywbeth yn digwydd iddo dros nos, o ganlyniad i'w anafiadau".
Ychwanegodd fod ei deulu yn poeni amdano yn dychwelyd i'r gwaith, gan ddweud ei fod wedi cychwyn sesiynau cwnsela gan fod y digwyddiad wedi achosi gor bryder a'i wneud yn ofnus.
"Doeddwn ni byth yn meddwl y byddai'n digwydd i mi a dwi dal ddim yn gwybod beth yw gwir maint y digwyddiad ar fy iechyd corfforol a meddyliol," meddai.
Dywedodd ei fod wedi cael cynnig ac wedi derbyn swydd newydd fel hyfforddwr heddlu am fod y "digwyddiad wedi fy ngadael yn poeni ac yn ansicr am ddychwelyd i'm dyletswyddau arferol".

Dywedodd Nathan Atwell: "Doeddwn i byth yn meddwl y byddai'n digwydd i mi"
Dwedodd y Prif Gwnstabl Mark Hobrough o Heddlu Gwent ei fod wedi ymweld â'r tîm lleol ar ôl y digwyddiad.
Yn ei ddatganiad dywedodd: "Roedd effaith yr ymosodiad yn amlwg arnyn nhw.
"Roedd rhai yn ystyried a oedden nhw am aros o fewn yr heddlu."
Dywedodd fod y fath yma o ymosodiadau yn cael "effaith enfawr".
Cafodd deunydd fideo o PC Attwell ei ddangos yn y llys, lle mae modd gweld Nodwell yn ymosod ar y swyddog, yn ei guro dro ar ôl tro, yn ei wthio i'r llawr cyn ei gicio a rhedeg i ffwrdd.
Roedd PC Attwell yn anymwybodol ar adeg y fideo ond mae modd gweld aelodau'r cyhoedd yn ceisio ei helpu am ei fod yn gwaedu.

Ar ôl yr ymosodiad, rhedodd Nodwell i ffwrdd, gan adael PC Attwell wedi'i anafu ar y llawr
Dywedodd y barnwr Hywel James fod Nodwell yn "dreisgar" ac "ymosodol".
Dywedodd fod yna ffactorau sy'n gwaethygu'r drosedd, gan gynnwys y ffaith i'r ymosodiad ddigwydd yn gyhoeddus tra ei fod o dan ddylanwad alcohol, ond fe gymrodd i ystyriaeth hefyd fod Nodwell yn "edifar".
Er hyn, dywedodd fod Nodwell yn cyflwyno "risg uchel o niwed difrifol" i swyddogion heddlu eraill a risg canolig i'r cyhoedd ac felly cafodd ei ddedfryd ei ymestyn.
Mae Richard Nodwell wedi ei ddedfrydu i chwe blynedd a phedwar mis o garchar gyda chyfnod estynedig o dair blynedd ar drwydded.