Ymddygiad mewn colegau wedi gwaethygu, medd Estyn

Yn ôl Estyn, mae dynion ifanc ar gyrsiau galwedigaethol ymhlith y rheiny sydd fwyaf tebygol o ddangos ymddygiad gwael
- Cyhoeddwyd
Mae colegau ar draws Cymru yn wynebu cynnydd mewn ymddygiad gwael gan fyfyrwyr, gyda dysgwyr gwrywaidd ar gyrsiau fel adeiladu ymhlith y troseddwyr gwaethaf, yn ôl adroddiad gan arolygwyr addysg.
Yn ôl Estyn mae absenoldeb, fepio a chamddefnydd cyfryngau cymdeithasol yn "gyffredin" ac mae effeithiau pandemig Covid-19 dal i'w weld ar fyfyrwyr.
Mae'r adroddiad yn nodi mai diffyg cyllid yw un o'r rhwystrau sy'n atal colegau rhag gwella'r sefyllfa, ac yn galw am ganllawiau cenedlaethol cliriach ar ymddygiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio ar wella ymddygiad mewn ysgolion a cholegau a'u bod yn cynnal cyfarfod arbennig i drafod diogelwch.
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
Er bod llawer o fyfyrwyr mewn colegau addysg bellach yn dangos ymddygiad cadarnhaol, dywedodd Estyn bod patrymau'n amrywio ar draws gwahanol fathau o fyfyrwyr a chyrsiau.
Yn ôl yr adroddiad, roedd myfyrwyr gwrywaidd "yn enwedig y rhai ar gyrsiau galwedigaethol fel adeiladu" yn fwy tebygol o ddangos ymddygiad negyddol.
Roedd hynny "yn cynnwys y defnydd o iaith amhriodol tuag at ddysgwyr benywaidd, yn aml yn cael ei achosi gan ymdrech i ffitio i mewn neu fynnu goruchafiaeth mewn amgylcheddau sy'n bennaf yn wrywaidd".
Dywedodd yr adroddiad fod dylanwad ffigyrau cyfryngau cymdeithasol dadleuol yn arbennig o amlwg "mewn cyrsiau lle mae nifer o ddynion, lle bu ymddygiad amhriodol tuag at ddysgwyr benywaidd".
Roedd ymddygiad gwael hefyd yn fwy amlwg ymhlith myfyrwyr iau a'r rhai oedd wedi cofrestru ar gyrsiau lefel is.
Fe allai dyluniad adeiladau'r coleg weithiau ddylanwadu ar ymddygiad, meddai Estyn.

Mae camddefnyddio ffonau symudol trwy recordio a rhannu cynnwys yn ystod gwersi yn un o'r problemau gafodd eu nodi
Ymhlith y problemau gafodd eu nodi gan staff a myfyrwyr roedd diffyg prydlondeb a phresenoldeb, camddefnyddio ffonau symudol trwy recordio a rhannu cynnwys yn ystod gwersi a fepio neu ysmygu naill ai yn, neu yn agos at adeiladau'r coleg.
Dywedodd yr adroddiad bod materion difrifol fel aflonyddu rhywiol a chamddefnyddio sylweddau yn digwydd yn llai aml, ond roedden nhw dal i fod yn bryder.
Yn ôl staff roedd y digwyddiadau mwy difrifol fel arfer yn ymwneud â nifer fach o fyfyrwyr a'u bod "yn aml yn gysylltiedig ag amgylchiadau unigol, ffactorau allanol, neu achosion o wrthdaro personol oedd heb eu datrys".
Roedd effaith "sylweddol" y pandemig yn dal yn amlwg, gyda staff yn adrodd bod llawer o bobl ifanc 16 oed yn dangos aeddfedrwydd "yn debyg i blant iau".
Dywedodd arolygwyr, bod myfyrwyr yn llai abl i ymdopi â heriau academaidd a chymdeithasol, er bod arwyddion o welliant yn ddiweddar.
Uwchgynhadledd ymddygiad
Dywedodd Estyn fod sawl enghraifft o golegau yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ond roedd cyllid tymor byr yn cyfyngu ar eu gallu i "wreiddio polisïau cyson, cadw staff profiadol, ac adeiladu strwythurau cefnogi tymor hir".
Dywedodd y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Owen Evans fod llawer o ddysgwyr yn dangos "aeddfedrwydd, annibyniaeth, a pharch at eraill".
"Ond ni ddylem anwybyddu cymhlethdod cynyddol problemau ymddygiadol sy'n wynebu colegau", meddai.
"Mae canllawiau cliriach, strategaethau wedi'u targedu a buddsoddiad hirdymor yn hanfodol i helpu colegau i greu amgylcheddau dysgu cynhwysol, parchus a diogel i bawb."

Dywedodd Owen Evans "ni ddylem anwybyddu cymhlethdod cynyddol problemau ymddygiadol sy'n wynebu colegau".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gan golegau addysg bellach unigol eu polisïau eu hunain ar bresenoldeb ac ymddygiad – "mae'r rhain yn aml yn cynnwys polisïau ar fepio a defnydd derbyniol o gyfryngau cymdeithasol".
"Nid ydym yn gwyro oddi wrth ein blaenoriaethu o wella presenoldeb, ar gyfer dysgwyr cyn-16 ac ôl-16," meddai llefarydd.
Fe fydd y llywodraeth hefyd yn cynnal uwchgynhadledd ymddygiad yn ddiweddarach ym mis Mai.
Dywedodd y corff ariannu ôl-16, Medr: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi colegau addysg bellach i adeiladu ar arfer da, ac i gefnogi datblygiad dull cydlynol o reoli ymddygiad."
Dywedodd y byddai adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel rhai Estyn, yn llywio penderfyniadau pellach y mae'n eu gwneud.