Ysgolion Sir Gâr yn poeni am ymddygiad plant

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
llythyrFfynhonnell y llun, Twitter @Ysgol_Strade
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol y Strade yn un o'r ysgolion sydd wedi anfon y llythyr at rieni

Mae penaethiaid ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin wedi cymryd y cam "anarferol" o anfon llythyr ar y cyd at rieni yn galw am eu cefnogaeth yn sgil cynnydd mewn problemau ymddygiad disgyblion.

Yn ôl y penaethiaid, mae'n "drist" gweld effeithiau'r cyfnod clo a'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc yn "dod yn fwyfwy amlwg".

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn galw am roi arian yn benodol er mwyn cyflogi mwy o staff lles mewn ysgolion.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd cymorth i staff yn cael ei dreblu eleni.

'Ymddygiad bygythiol, camdriniol, ac aflonyddgar'

Ychwanegodd y penaethiaid fod y problemau ymddygiad ddim yn gyfyngedig i un ysgol ond eu bod yn "cyfleu patrwm cyffredin ar draws holl ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin" ac yn "adlewyrchu'r darlun cenedlaethol hefyd".

Mae'r problemau'n cynnwys:

  • defnydd "amhriodol o gyfryngau cymdeithasol", yn arbennig "ymddygiad bygythiol, camdriniol, ac aflonyddgar";

  • cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n defnyddio "vapes" - e-sigaréts - yn yr ysgol;

  • cynnydd mewn "graffiti, difrodi eiddo a fandaliaeth";

  • "iaith sarhaus" wedi'i chyfeirio at "gyfoedion a staff yr ysgol".

Dywed y llythyr fod llawer o ddisgyblion yn treulio cyfnod sylweddol, "tan oriau mân y bore" ar gyfryngau cymdeithasol neu ar gemau, ac y gallai hyn wneud i bobl ifanc deimlo'n fwy unig neu'n ansicr am y ffordd maen nhw'n edrych.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ysgol Y Strade

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ysgol Y Strade

Mae 'na gynnydd wedi bod hefyd, yn ôl y llythyr, yn "natur sarhaus a bygythiol" y sylwadau sy'n cael eu rhannu mewn sgyrsiau grŵp ar-lein ac mae staff yn gorfod yn treulio amser yn atal disgyblion rhag "anweddu" neu ysmygu e-sigaréts yn yr ysgol.

Ychwanegodd y penaethiaid fod mwy o achosion o graffiti neu ddifrod i eiddo mewn ysgolion, gyda enghreifftiau yn cynnwys "torri gwifrau cyfrifiaduron, niweidio drysau, blocio toiledau'n bwrpasol a graffiti anaddas yn cael ei ysgrifennu ar eiddo'r ysgol".

Mae penaethiaid 11 ysgol uwchradd yn Sir Gaerfyrddin wedi arwyddo'r llythyr ar y cyd yn gofyn am gefnogaeth rhieni a gwarchodwyr i "fynd i'r afael" â'r problemau.

"Mae mwyafrif helaeth y disgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol a gwerthfawr i ysgolion a'r gymuned yn gyffredinol," meddai'r llythyr.

"Rydym yn tynnu sylw at y materion hyn, fodd bynnag, fel y gallwn fynd i'r afael â hwy gyda'n gilydd."

Problem 'ledled Cymru' ers y clo

Yn ôl UCAC, mae anfon y llythyr yn gam "anaferol" i ysgolion.

"Mae'n weddol anarferol i gymaint o ysgolion ysgrifennu llythyr fel hyn ar y cyd at rieni," meddai Rebecca Williams, is-ysgrifennydd cyffredinol a swyddog polisi UCAC.

"Fel arfer un ysgol unigol [sy'n anfon] at rieni'r ysgol honno, felly mae e'n dangos bod e'n broblem gyffredinol iawn.

"Mae'n sicr yn rhywbeth ry'n ni'n clywed gan aelodau, nid yn unig yn Sir Gâr ond ledled Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cam "anarferol" fel hyn yn dangos bod yna "broblem gyffredinol", medd Rebecca Williams o UCAC

Ychwanegodd fod llawer o athrawon yn teimlo fod y rhain yn broblemau sydd wedi deillio o'r pandemig a'r cyfnodau clo pan oedd ysgolion ar gau am gyfnodau hir.

"Maen nhw'n gallu gweld y gwahaniaeth clir rhwng y cyfnod cynt ac ar ôl."

Dywedodd hefyd fod angen canolbwyntio ar les disgyblion i osgoi problemau ymddygiad, gan "ffactora arian yn benodol ar gyfer staff sy'n ymwneud â lles mewn ysgolion.

"Mae isie mwy o adnoddau i'r gwasanaeth iechyd hefyd ac awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl, fydde ar gael i ysgolion hefyd," meddai Ms Williams.

"Mae 'na le ar y cwricwlwm newydd hefyd i ymdrin ag iechyd a lles ac mae eisiau manteisio ar hynny hefyd yn y cyfnod sydd i ddod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi mwy na dyblu cymorth iechyd meddwl i ysgolion i dros £12m ers dechrau'r pandemig, fel rhan o'n dull 'ysgol gyfan' o ymdrin ag iechyd meddwl a lles.

"Ar hyn o bryd mae gwasanaethau cwnsela yn gweld tua 11,500 o ddysgwyr bob blwyddyn, a bydd cymorth i staff yn cael ei dreblu eleni."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin mai mater i'r ysgolion oedd hwn ac nad oedd y cyngor am wneud sylw.