'Sbesial' cael cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

- Cyhoeddwyd
Mae'r Ŵyl Ban Geltaidd bellach yn rhan bwysig o galendr rhai o gorau a bandiau Cymru, sydd wrthi'n paratoi at y perfformio dros y penwythnos.
Mae'r ŵyl flynyddol yn ddathliad o gerddoriaeth a diwylliant Celtaidd, sy'n cael ei chynnal mewn lleoliadau amrywiol yn Iwerddon gyda chynrychiolaeth o'r gwledydd Celtaidd.
Eleni, Carlow yw cartref yr ŵyl, ac mae llond llaw o gorau o Gymru yn mynd yno i gystadlu, rhai am y tro cyntaf.
Dyma fydd y 51fed tro i'r ŵyl gael ei chynnal.
Bydd enillwyr Cân i Gymru eleni, Dros Dro, hefyd yn cystadlu yn yr ŵyl, a dywedodd aelod o'r band ei bod yn "sbesial" gallu "cynrychioli'r wlad" yn y gystadleuaeth.
'Edrych ymlaen'
Un o'r corau sy'n mentro draw i Carlow eleni yw côr Aelwyd yr Ynys, o Fôn.
Bydd y criw yn cychwyn ar eu taith o Gaergybi ben bore Gwener.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd dau aelod eu bod yn edrych ymlaen at berfformio am y tro cyntaf yn yr ŵyl.
Dywedodd Ania bod y criw "wedi bod yn ymarfer yn wythnosol ers tua tair wythnos bellach" wedi cyfnod prysur Eisteddfod yr Urdd.
"Rydw i wir yn edrych ymlaen at gael mynd i ganu yn yr ŵŷl am y tro cyntaf eleni. Rydw i wedi clywed Taid a Mam yn sôn am eu profiadau nhw yno sawl tro, ac felly yn edrych ymlaen at brofi'r ŵyl fy hun!"

Dywedodd Ania mai dyma fydd yr ail daith hefo'r côr, a'u bod yn "edrych ymlaen yn arw at y penwythnos!"
Roedd Ania yn un o'r criw aeth allan i'r Ŵyl Geltaidd Ryngwladol yn Lorient, Llydaw gyda'r aelwyd haf diwethaf.
Dywedodd fod 'na "rywbeth mor arbennig am gael canu mewn gŵyl Geltaidd".
Mae ei chariad, Ceuron hefyd yn rhan o'r côr ac mae yntau'n edrych ymlaen at gystadlu yn yr ŵyl - a hynny am y tro cyntaf.
"Dwi ddim yn un am ganu yn bersonol, actio ydi 'mhetha fi ond oedd Ann a Nia [arweinwyr yr aelwyd] wedi bachu 'mraich i tua blwyddyn yn ôl a dwi wedi joio cael gwneud y petha' gwahanol."

Mae Caleb a Greta yn aelodau o gôr Taflais yng Nghaerdydd
O un côr i'r llall, dyma fydd y tro cyntaf i gôr Taflais gystadlu yn yr ŵyl.
Cafodd y côr, sy'n ymarfer yng nghapel y Tabernacl yng Nghaerdydd, ei sefydlu ym Medi 2023.
Dywedodd un aelod, Greta Llŷr: "Fel côr sy'n gymharol newydd, ni'n gyffrous i gymryd rhan mewn digwyddiad sy'n dathlu diwylliant a cherddoriaeth fel yr ŵyl hon.
"Mae hefyd yn rhoi esgus da i ni gymdeithasu a chystadlu tu allan i Gymru am y tro cyntaf," meddai.
Ychwanegodd Caleb Nicholas, aelod arall o'r côr: "Dwi'n edrych ymlaen at gystadlu draw yn Iwerddon a chael blas ar ddiwylliant Celtaidd.
"Fydd hi'n lot o sbort yng nghwmi'r côr dwi'n siŵr."
'Digon o hwyl a digon o sbri'
Wrth siarad ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru yn ddiweddar, dywedodd Arwel Roberts, un o drefnwyr yr ŵyl, ei fod wedi bod yn mynychu ers blynyddoedd.
"Mi es i i'r Ŵyl Ban Geltaidd cychwyn y 90au" meddai, gan ychwanegu ei fod 'na "ddigon o hwyl a digon o sbri" bob blwyddyn.
Mae Arwel yn gyfrifol am drefnu bws o ogledd Cymru i'r ŵyl yn flynyddol, ac mae nifer o gystadleuwyr a'r beirniaid ar y bws hwn.
Ond dywedodd y bydd eleni yn chwith heb un aelod greiddiol o'r ŵyl, Dewi Pws, yn dilyn ei farwolaeth yn haf 2024.
Aeth ymlaen i esbonio ychydig o'r trefniadau gan ddweud bod "Noson y Cymry ar y nos Wener, yng ngwesty'r Saith Dderwen, yn cychwyn tua 9".
"Mae'n nos hwyr iawn a dwi'n ddibynnol iawn ar Catrin Thomas sydd yng ngofal y cystadlu," ychwanegodd.

Dros Dro oedd enillwyr Cân i Gymru, sy'n rhoi cyfle i berfformio yn yr ŵyl
Un criw sydd eisoes wedi cyrraedd Carlow yw enillwyr Can i Gymru 2025, y band o Sir Gaerfyrddin, Dros Dro.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Caian ac Iestyn, aelodau o'r band eu bod yn edrych ymlaen at gael "cynrychioli Cymru" am y tro cyntaf.
Dywedodd Iestyn: "O'n ni wastad yn gwybod fod enillwyr Can i Gymru yn mynd mas ac amser ro'n i'n gwybod bo' ni drwyddo, o'n i'n barod yn disgwyl ar yr accomodation!"
Dywedodd fod y criw wedi hedfan allan ddydd Sul ac yn aros am yr wythnos, yn cynnal gigs gwahanol ar draws yr ardal.
Dywedodd ei fod yn "sbesial" gallu "cynrychioli'r wlad", ac mae'r band yn edrych ymlaen at haf prysur yn llawn gigs.
Cân i Gymru wedi 'rhoi hwb' i'r criw
Ychwanegodd Caian: "Ni bendant yn edrych 'mlaen, ni'n chwarae yn y gystadleuaeth ac yn y gyngerdd a ni hefyd wedi cael y cyfle i chware mewn cwpl o lefydd ar draws yr ardal."
"Mae'n beth ardderchog, fydden ni byth 'di meddwl bo ni'n cynrychioli'n gwlad, rhywbeth fel hyn blwyddyn yn ôl fel band ac fel criw, grŵp o ffrindiau."
Wrth sôn am ennill Can i Gymru, dywedodd Iestyn: "Nath e boosto ni, oedd ishe'r hwb bach 'na arnon ni i fynd o le oedden ni i lle i ni nawr, ac oedd Cân i Gymru yn pretty good thing."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2024