Y grŵp 'Dros Dro' yn ennill Cân i Gymru 2025

Y grŵp Dros Dro.Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dros Dro yn derbyn tlws Cân i Gymru a gwobr ariannol o £5,000

  • Cyhoeddwyd

Y grŵp Dros Dro sydd wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2025 gyda'r gân Troseddwr Yr Awr.

Marc Skone oedd yn ail gyda'r gân Diwedd Y Byd, tra mai Meilyr Wyn oedd yn drydydd gyda Lluniau Ar Fy Stryd.

Mae Dros Dro yn derbyn tlws Cân i Gymru a gwobr ariannol o £5,000, tra bo'r ail safle yn derbyn £3,000 a'r trydydd safle yn cael £2,000.

Cafodd y gystadleuaeth ei darlledu yn fyw o Dragons Studios, Pen-y-bont ar Ogwr, gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn cyflwyno ar S4C.

Roedd proses bleidleisio newydd ar gyfer y gystadleuaeth eleni, yn dilyn trafferthion y llynedd.

Tlws Can i GymruFfynhonnell y llun, S4C

Cafodd y gân Nwy yn y Nen ei chanu ar y noson hefyd - gan Catty, un o'r beirniaid. Cân wnaeth yn wreiddiol ennill Cân i Gymru yn 1971, gydag Eleri Llwyd yn canu.

Un o gewri'r byd cerddoriaeth yng Nghymru, y diweddar Dewi Pws, wnaeth gyfansoddi Nwy yn y Nen.

Y beirniaid ar y noson oedd Osian Huw Williams, Peredur ap Gwynedd, Caryl Parry Jones, Sage Todz a Catty.

'S'dim geirie 'da fi'

Band o Sir Gâr ydy Dros Dro, y band buddugol - ac maent yn gyn-ddisgyblion Ysgol Maes y Gwendraeth ac Ysgol Bro Myrddin.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd un o aelodau'r band ei bod methu coelio'r peth:

"Fi ffili - s'dim geirie 'da fi. Oeddwn i genuinely ddim yn disgwl e o gwbl, just diolch i pawb sydd wedi pleidleisio."

Marc SkoneFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Marc Skone oedd yn ail gyda'r gân Diwedd Y Byd

Yr wyth cân a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd:

Troseddwr yr Awr - Cyfansoddi a pherfformio: Dros Dro

Am byth - Cyfansoddi: Geth Vaughan. Perfformio: Lewys Meredydd

Torra Dy Gwys - Cyfansoddi: Elfed Morgan Morris, Carys Owen, Emlyn Gomer Roberts. Perfformio: Catrin Angharad Jones

Gwydr Hanner Llawn - Cyfansoddi a pherfformio: Garry Owen Hughes

Mae'r Amser Wedi Dod - Cyfansoddi a pherfformio: Heledd a Mared Griffiths

Lluniau Ar Fy Stryd - Cyfansoddi: Meilyr Wyn. Perfformio: Gwen Edwards

Hapus - Cyfansoddi a pherfformio: Geth Vaughan

Diwedd y Byd - Cyfansoddi a pherfformio: Marc Skone

Pynciau cysylltiedig