Cymro wedi cael 91 o bwythau ar ôl ymosodiad siarc yn Ne Affrica

Er gwaetha'r digwyddiad, dywedodd Curtis (canol) ei fod "am fynd yn ôl y flwyddyn nesaf"
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys llun o anaf gan siarc
Cafodd dyn o dde Cymru 91 o bwythau ar ôl cael ei frathu gan siarc tra ar daith bysgota yn Ne Affrica.
Dywed Curtis Miller, 29 ac o'r Barri, nad oedd wedi teimlo'r boen i gychwyn ond roedd wedi ei synnu gyda phŵer y pysgodyn.
Roedd Curtis, sy'n bysgotwr brwd, wedi bod ym Mae Mossel, De Affrica gyda'i ffrindiau, "yn dal siarcod ac yn byw'r freuddwyd".
Ond fe wnaeth y criw wynebu tro annisgwyl i'w taith pan wnaeth un ddal y siarc, ac fe aeth Curtis i ddal ei gynffon a cheisio symud y creadur i'r creigiau.

Roedd y siarc tua chwe throedfedd o hyd, ac yn pwyso dros 135kg
"Fe wnaeth o droi a mynd yn sownd arna i," meddai.
"Ro'n ni fel doli, doedd dim modd i mi wneud unrhyw beth, roedd mor gryf.
"Roedd yn syndod llwyr a nes i feddwl, dwi mewn trwbl yma."
Teimlo fel 'arwr lleol'
Wrth ddisgrifio'r digwyddiad, dywedodd: "Nes i ddim teimlo'r boen i gychwyn, pŵer y pysgodyn yn dal gafael oedd y peth mwyaf," gan ddisgrifio cryfder y pysgodyn fel "cryfder do'n ni erioed wedi teimlo yn fy mywyd."
Yn lwcus, fe wnaeth y siarc - a oedd tua chwe throedfedd o hyd a thros 135kg, neu 300 pwys - ryddhau ei hun, ac yna fe wnaeth Curtis sylwi fod y graith yn gwaedu'n drwm.
"Fe wnes i drio aros yn dawel oherwydd ro'n ni'n gwybod unwaith rydych yn cychwyn mynd i banig, mae pethau'n medru mynd o chwith.
"Yn lwcus i mi, roedd y tywysydd yno i gludo fi i'r ysbyty lleol."

Dyma oedd y briw yn dilyn yr ymosodiad
Bu'n rhaid i Curtis dderbyn 91 pwyth ac roedd yn rhaid clymu tri o'i rydwelïau er mwyn atal llif ei waed.
Dywedodd fod y staff meddygol wedi cael sioc o weld ei anaf gan eu bod ond wedi profi dau ymosodiad siarc yn yr ysbyty.
Dywedodd ei fod yn teimlo fel "arwr lleol".
"Roedd yr holl nyrsys a doctoriaid yn dod draw ac yn gofyn, 'wyt ti'n iawn, wyt ti'n iawn?," meddai.
Ychwanegodd fod y staff meddygol wedi cael syndod o ba mor ymlaciol oedd Curtis.
'Heb orffen fy ngwaith'
Ond dywedodd mai un o'r pethau gwaethaf oedd gorfod ffonio ei fam i rannu'r newyddion.
Roedd yn cofio dweud wrthi: "Mam dwi'n iawn, paid â mynd i banig, ond dwi wedi cael fy mrathu gan siarc."
Er gwaetha'r sefyllfa, dywedodd Curtis na fyddai'n newid ei gariad at fynd ar ôl y creadur.
"Dwi heb newid fy meddwl. Dwi am fynd yn ôl y flwyddyn nesaf, dwi heb orffen fy ngwaith" meddai.