Ysgol ym Mangor ar gau wedi i bibell ddŵr fyrstio

Mae Ysgol Cae Top ar gau ers i bibell fyrstio dros y penwythnos gan achosi "difrod sylweddol"
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol gynradd ym Mangor ar gau yr wythnos hon wedi i bibell ddŵr fyrstio dros y penwythnos.
Fe gafodd "difrod sylweddol" ei achosi "i strwythur mewnol a chelfi" Ysgol Cae Top yn ardal Eithinog y ddinas, medd Cyngor Gwynedd.
Mae adran addysg y cyngor yn "gweithio ar gynllun i ganiatáu i'r disgyblion a'r staff ddychwelyd i'r ystafelloedd dosbarth yn ddiogel".
Mae rhieni a gwarchodwyr wedi cael gwybod ac mae "trefniadau ar gyfer dysgu o bell yn cael eu rhoi ar waith" yn y cyfamser.
Dywedodd llefarydd: "Mae staff y Cyngor wedi bod yn tynnu'r carpedi a ddifrodwyd a symud dodrefn er mwyn gallu asesu maint llawn y difrod cyn y gellir cynnal gwaith atgyweirio ac adfer.
"Rydym yn ddiolchgar i'r disgyblion, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni ddelio â'r sefyllfa frys hon ac wrth i drefniadau amgen gael eu rhoi ar waith."